Explore every episode of the podcast Sut i Ddarllen
| Title | Pub. Date | Duration | |
|---|---|---|---|
| Sut i Ddarllen | 03 Feb 2025 | 00:00:27 | |
Sut i Ddarllen, sgyrsiau onest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo. Fe fyddwn ni’n trafod pob math o agweddau ar ddarllen, o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr. Ymunwch â ni. Sut i Ddarllen, podlediad newydd, ar gael yn fuan. | |||
| Siôn Tomos Owen | 10 Feb 2025 | 00:25:25 | |
Mae Siôn Tomos Owen yn fardd, artist a chyflwynydd radio a theledu. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth,Pethau Sy’n Digwydd nôl yn haf 2024. Bu Francesca a Siôn yn sgwrsio am ddarllen pedwar llyfr ar yr un pryd, agweddau snobyddlyd at gomics a chariad at lyfrgelloedd. Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes
Rhestr Ddarllen
Mae’r llyfrau hyn ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leolYMA. | |||
| Manon Steffan Ros | 03 Mar 2025 | 00:28:21 | |
Manon Steffan Ros yw un o’n hawduron mwyaf poblogaidd. Mae ei nofel Llyfr Glas Nebo wedi swyno darllenwyr ym mhell ac agos. Mae hi hefyd yn caru darllen. Bu Francesca a Manon yn sgwrsio am sut mae darllen yn gwneud i ni deimlo, pam cadw copi o waith T.H. Parry-Williams yn y car, a sut i fynd i’r arfer o ddarllen. Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Y Felinheli Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr Ddarllen
Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol yma: https://llyfrau.cymru/siopau-llyfrau-cymru/
Mae Manon hefyd un o griw podlediad Colli’r Plot. Gwrandewch yma: https://open.spotify.com/show/7nplXp8TLGqvi9sx1IHbzn | |||
| Sara Yassine | 24 Feb 2025 | 00:31:22 | |
Mae Sara Yassine yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi bod yn un o feirniaid gwobrau llyfrau plant a phobl ifanc Tir na n-Og. Bu Francesca a Sara yn sgwrsio am adolygu llyfrau Enid Blyton, dychwelyd at ddarllen llyfrau Cymraeg a manteision ac anfanteision gosod nod darllen i ti dy hun. Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr ddarllen
Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol yma. | |||
| Kayley Roberts | 17 Feb 2025 | 00:31:26 | |
Mae Kayley Roberts yn gwnselydd ac yn llenor sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Yn aelod o Glwb Darllen Llyfrau Lliwgar, soniodd Kayley am y pleser o drafod llyfrau efo criw, Islwyn Ffowc Elis y versatile king, a thrio peidio sbïo ar dy ffôn pam ti’n darllen. Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Felinheli. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr Ddarllen
Mae’r llyfrau hyn ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol YMA. Mwy am Llyfrau Lliwgar fan hyn. Bydd nofel gyntaf Kayley Roberts, Lladd Arth (Y Lolfa), allan yn haf 2025. | |||
| Geraint Iwan | 25 Feb 2026 | 00:34:29 | |
Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r awdur a’r cyflwynydd Geraint Iwan. Dros y blynyddoedd mae wedi dilyn nifer o yrfaoedd a gweithio i lu o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys y BBC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o gwmnïau teledu. Cyhoeddir ei gyfrol gyntaf, Storis Geraint Iwan, storis am yr hyn sy’n llechu dan yr wyneb, gan Wasg Carreg Gwalch, fis Mawrth. Yn y bennod mae Ger yn trafod ei obsesiwn efo straeon, darganfod darllen drwy ffilmiau a pheryglon gwrando ar lyfrau llafar yn Morrisons Caernarfon. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog Rhestr Ddarllen
Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol. | |||
| Sioned Erin Hughes | 11 Feb 2026 | 00:30:28 | |
Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a'r awdur Sioned Erin Hughes. Daw Erin o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda'i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom. Hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020, ac mae hefyd wedi golygu Iaith Heb Ffiniau a chyd-olygu Beyond/Tu Hwnt. Roedd ei chyfrol O'r Rhuddin ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi Fel y Moroedd y llynedd. Yn y bennod mae Erin yn trafod ei diffyg diddordeb mewn llyfrau yn blentyn, effaith a dylanwad sgwennu personol a hunangofiannau ar ei bywyd a'r angen i ddarllen gyda phensil yn ei llaw. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol. | |||
| Huw Stephens | 28 Jan 2026 | 00:32:25 | |
Yr awdur a’r darlledwr Huw Stephens sy’n cadw cwmni i Francesca Sciarrillo. Mae Huw Stephens yn darlledu’n ddyddiol ar BBC Radio 6 Music, ac yn cynnal sioeau wythnosol yn y Gymraeg a Saesneg ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Fe sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn Caerdydd. Ef hefyd yw awdur y gyfrol, Wales - 100 Records. Yn y bennod mae Huw yn sgwrsio am gyfieithu The Twits yn blentyn, ei hoff nofel Gymraeg yn y byd i gyd a’i gyfraniad i’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd. Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon
Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. | |||
| Cyfres newydd o Sut i Ddarllen | 23 Jan 2026 | 00:00:33 | |
Cyfres newydd o Sut i Ddarllen ar gael yn fuan.Mwy o sgyrsiau difyr am lyfrau a darllen gyda Francesca Scarrillo. | |||
| Eirini Sanoudaki | 17 Mar 2025 | 00:32:05 | |
Darllenydd mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yw Dr Eirini Sanoudaki. Yn wreiddiol o Groeg, mae ei hymchwil yn archwilio iaith mewn pobl uniaith a dwyieithog. Bu Francesca ac Eirini yn trafod sut mae llyfrau yn gallu mynd a ni nôl, pwysigrwydd darllen efo plant, a mawredd Llyfr Glas Nebo. Recordiwyd y bennod yn Shed, Y Felinheli Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr Ddarllen
Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol yma. | |||
| Joe Healy | 10 Mar 2025 | 00:28:50 | |
Yn wreiddiol o Wimbledon, fe enillodd Joe Healy wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2022. Bellach mae’n diwtor Cymraeg yng Nghaerdydd ac yn cyflwyno rhaglen Y Sin ar S4C gyda Francesca. Bu’r ddau yn trafod darllen llyfrau Cymraeg am y tro cyntaf, dod yn nol at ddarllen, a pheidio bod ofn barddoniaeth. Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr Ddarllen
Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol yma:https://llyfrau.cymru/siopau-llyfrau-cymru/ | |||
| Casi Wyn | 21 Apr 2026 | 00:30:22 | |
Yn cadw cwmni i Francesca Sciarrillo mae’r gantores a chyfansoddwr Casi Wyn. Yn wreiddiol o ddinas Bangor, Casi oedd Bardd Plant Cymru 2021-2023. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cariad Yw yn 2024. Mae hi wedi perfformio ei cherddoriaeth ar lwyfannau SXSW, BBC Proms in the Park, yn yn ogystal â thaith genedlaethol gyda Sinfonia Cymru. Rhyddhawyd ei halbym newydd Plentyn yr Haul ddiwedd Mawrth. Casi hefyd yw Cyfarwyddwr Creadigol cylchgrawn Codi Pais, cylchgrawn annibynnol i bawb gan ferched Cymru. Yn y bennod mae Casi’n trafod gwerth darllen barddoniaeth, ei hoff siopau llyfrau a vibes faniau llyfrgell! Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd. Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon
Y llyfrau ar gael o'ch siop lyfrau leol. | |||
| Malachy Edwards | 07 Apr 2026 | 00:32:18 | |
Yr awdur a cholofnydd Malachy Edwards yw gwestai Francesca Sciarrillo yn y bennod ddiweddaraf o Sut i Ddarllen. Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn. Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur, gan Wasg y Bwthyn yn 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y gyfrol, mae Malachy yn archwilio ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliannol a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Cyhoeddwyd y dilyniant, Paradwys Goll, ym mis Hydref 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur hefyd yn golofnydd i’r cylchgrawn Golwg. Yn y bennod mae'n trafod cylchgronau sgelfyrddio, darllen y clasuron a'i ymchwil diweddar i fywyd John Ystumllyn. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog. Rhestr Ddarllen
Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol. | |||
| Buddug Watcyn Roberts | 25 Mar 2026 | 00:31:20 | |
Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae Buddug Watcyn Roberts. Er yn ifanc mae Buddug iawn wedi bod ar ysgrifennu’n greadigol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol: llwyfannwyd drama ganddi gan Gwmni Ifanc Frân Wen ac mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Codi Pais a rhifynnau Ffosfforws gan gyhoeddiadau’r Stamp. Yn y bennod mae Buddug yn trafod darllen gwaith Llwyd Owen am y tro cyntaf, grym cyfrolau barddoniaeth, a'r mwynhad o ddarllen yr un llyfr sawl tro. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog. Rhestr Ddarllen
Mwy am prosiect Pencerdd Llenyddiaeth Cymru yma.Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol. | |||
| Melanie Owen | 11 Mar 2026 | 00:32:57 | |
Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r comedïwr, y cyflwynydd ar awdur Melanie Owen. Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Mel bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn ysgrifennu am bron i ddegawd, gan gynnwys sgriptiau i Channel 4, BBC Cymru Wales a BBC Radio Cymru. Roedd ei chyfrol gyntaf, Oedolyn (ish!), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025. Yn y bennod mae Mel yn trafod bod yn "Jacqueline Wilson girly", rhoi darllen ar y to-do list a chrio yn Llyfrgell Aberystwyth. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy's Place, Caerdydd. Rhestr Ddarllen
Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol. | |||