Back

Explore every episode of the podcast Siarad Siop efo Mari a Meilir

Dive into the complete episode list for Siarad Siop efo Mari a Meilir. Each episode is cataloged with detailed descriptions, making it easy to find and explore specific topics. Keep track of all episodes from your favorite podcast and never miss a moment of insightful content.

Rows per page:

1–50 of 147

TitlePub. DateDuration
94 - Bala's Got Talent, tân gwyllt ac Heidi Klum05 nov. 202601:25:45

Mae hi bellach yn Dachwedd ac mae Mariah wedi ei dadmer o'r bloc iâ. Rhy gynnar i roi'r addurniadau i fyny? Beth fydd ar eich bwydlen Dolig chi? Dyma rai o'r cwestiynnau yn y blwch yr wythnos hon. Heb sôn am drafodaeth am ffeinal y Traitors, enwebiadau BIFA ac Heidi Klum fel llaw... Mewn â chi!

93 - Pobol y Cwm, Pwyll ar Netflix a Cardigans Paisley29 oct. 202601:26:30

Dydi'r stormydd na'r bwganod methu cadw Mari a Meilir draw o'r siop. Yr wythnos hon, mae yna drafodaeth am ymadawiad Anita o'r gyfres Pobol y Cwm, gêm beldroed rhwng Llanuwchllyn a'r Bala, a mynach weddol enwog ar Ynys Byr... Jesd cliciwch play a dewch mewn o'r glaw. Chi'n gadael drafft mewn!

92 - Sioeau byw, archarwyr Cymraeg a Kelly Clarkson22 oct. 202601:53:01

Wedi wythnos o seibiant ar ôl y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth, mae Mari a Meilir yn ôl gyda sioe llawn dop i chi o holl ddigwyddiadau a straeon y pythefnos diwethaf. O saga Kelly Clarkson a'r tegan, sêr Cymru mewn cynhyrchiadau comics mwya'r byd a'r protestiadau yn Ffrainc. Mewn â chi i'r siop, mae hi'n oer tu allan!

91 - BAFTA Cymru, Jonathan Bailey a 'manspreadio'08 oct. 202601:25:38

Mae hi'n wythnos y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth ac mae'r siop yn llawn bwrlwm yr wythnos hon wrth i Mari a Meilir baratoi ar gyfer y penwythnos. Ond hefyd rhaid trafod gwobrau'r BAFTAs Cymru, recordiad Dracula newydd Jonathan Bailey a chreision blâs cyw iâr...! Dewch i mewn, mae'r siop ar agor.

90 - Traitors, VMAs a'r Cornell 701 oct. 202601:46:48

Gofynnwch a chwi a gewch - ma hi'n bennod swmpus arall yr wythnos hon wrth i ni drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos, gan gynnwys gwobrau'r VMAs, cerddoriaeth newydd Taylor Swift ac achos y Cornell 7. Dewch i mewn i'r siop am sgwrs!

Rhybudd Cynnwys: Mae'r bennod hon yn cynnwys trafodaeth am drais.

89 - Channing Tatum, Ms Rachel a Misteeq24 sept. 202601:44:56

Mae'r Hydref wedi cyrraedd ac mae Mari'n swp sâl - ond dydi hynny ddim yn ei rhwystro rhag agor y Siop efo Meilir yr wythnos hon. Mae dyletswydd ganddynt i drafod a gwyntyllu gossip yr wythnos. O burner account honedig Channing Tatum, canslo taith Misteeq i gynhyrchiad newydd yr RSC o As You Like It. Gwnewch baned a swatiwch, mae'r Siop ar agor!

88 - Matthew Rhys, Ed Sheeran a Gwagle17 sept. 202602:06:01

Rhag-rybudd: roedd Mari a Meilir yn teimlo'n siaradus IAWN yr wythnos hon felly mae hon yn bennod hirach fyth na'r arfer. Ond yr ôll ddigwyddodd dros yr wythnos ddiwethaf, gallwch chi ddeall pam. O daith ddadleuol Ed Sheeran, drama ym mhlaid R€form Cymru i lwyddiant hanesyddol Matthew Rhys yn ngwobrau yr Emmy's - mae yna gymaint i'w drafod. Felly strap in, folks - dewch i mewn i'r siop!

87 - Tom Jones, P!nk a ghostio10 sept. 202601:40:20

Mae yna lwyth o bethau wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos yma. O ymddiswyddiad Tom Jones o The Voice, P!nk yn beirniadu Macklemore a thrafferthion sioe gerdd Burlesque - mae'r silffoedd yn llawn! Felly dewch i mewn i'r siop i wrando ar y clebran. Mae Mari a Meilir yn barod wrth y cownter!

86 - Dolly, Gwyl Llan a BAFTA Cymru03 sept. 202601:26:14

Wedi'r holl newyddion trist am golli arwyr yr wythnos yma, mae Mari a Meilir yn falch o ddod nol i'r siop i gael het atgofion am Dolly Parton, Tim Curry ac i glywed am holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Gŵyl Llanuwchllyn ac enwebiadau BAFTA Cymru. Mae'r tywydd wedi troi felly swatiwch ar y soffa efo paned a pwyswch play.

85 - Calon, Waitress a Calendar Girls26 août 202601:25:13

Mae'r siop yr wythnos hon yn fyw o westy yng Nghaerdydd ac mae Mari a Meilir yn cael y cyfle i hel clecs wyneb yn wyneb am change! Mae yna ambell i drip theatr wedi bod gan gynnwys ymweliad ag ymarferion sioe newydd sbon Cwmni Theatr yr Urdd sef 'Calon'. Dewch i mewn i glywed ymateb Meilir i'r sioe a llawer mwy...

84 - Dic coll, Mariah Poppins a'r eclipse20 août 202601:14:29

Mae Mari a Meilir wedi bod ar eu travels ac mae nhw'n falch iawn i fod nol yn y siop i ddadbacio'r holl glecs ma nhw di'w casglu dros yr wythnos. O Mariah Poppins, i The Odyssey i'r Dic coll i albwm newydd Aleighcia Scott. Felly dewch i mewn i ymuno yn y sgwrs!

83 - Post-Eisteddfod y Garreg Las blues!13 août 202601:15:03

Mae'r Eisteddfod wedi bod ac mae'r felan (blues) yn drwm! Ond dim ots, achos mae'r siop ar agor i ddadbacio holl gossip, drama a phob cam ddigwyddodd yn ystod yr Ŵyl. Felly swatiwch ar y soffa neu'ch lounger, estynwch am eich paned neu aperol a mwynhewch. Mae'r siop ar agor unwaith eto!

82 - Cwis Eisteddfod, Sesiwn Fawr a Cwpan y Byd23 juil. 202601:20:00

Wrth i'r Brifwyl agosau, pa ffordd well i baratoi ati na chael cwis ysgafn a hwyliog?! Hefyd bydd M&M yn trafod Sesiwn Fawr Dolgellau, y gossip diweddaraf am Ariana Grande a'r ffaith nad ydi pel-droed yn dod adref...diolch byth! Mewn â chi i'r siop.

81 - Effi o Blaenau, Gwobrau Podlediadau a paratoi at Steddfod16 juil. 202601:33:05

Mae Mari a Mei yn brysur baratoi at yr Eisteddfod tra'n cadw golwg barcud ar bopeth sy'n gyfredol ar y cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion. O'r ffilm Effi o Blaenau i Ŵyl Natur Aberystwyth. Rhywbeth at ddant pawb! Dewch i mewn am browse bach.

80 - Taylor, Travis a Binface09 juil. 202601:24:11

Mae Mari a Mei wyneb yn wyneb yn recordio'r bennod hon - felly byddwch yn barod am lawr o wylltineb a chyffro! Mae'r briodas gyfrinachol fwyaf enwog wedi bod, Binface ar y newyddion a Pitbull yn Blackweir. Heb sôn am ddathliadau tila'r UDA yn 250, cerddoriaeth newydd Madonnna ac Aleighcia Scott a noson allan Mei a Mari yn Aber. Dyna ddigon o ragflas - i mewn â chi...

79 - Paddleboards, Cordia a hoovers02 juil. 202601:09:02

Mae Mari wedi am wyliau efo'r gens a Meilir wedi bod ar gefn ei paddleboard ond mae'r ddau bellach yn ôl yn y siop yn barod i drafod digwyddiadau'r wythnos dros baned ar y cownter. Mae yna hen drafod am Andy Burnham, Lizzo, sengl newydd Cordia a hoover newydd Meilir. Dewch i mewn i ymuno yn y sgwrs.

78 - Haul, Tafwyl ac hen-dŵs25 juin 202601:21:32

Mae'r tywydd yn boeth ond mae'r sgwrs yn boethach! Mae'r Prif Weinidog yn Llundain wedi penderfynu camu i'r neilltu, mae gŵr Katie Price bellach yn saff ac mae'r blwch ceisiadau bron a byrstio yn y gwrês. Mae'n rhy boeth i 'sgwennu mwy. I mewn â chi i'r siop, reit handi! Mae ganddom ni AC.

77 - Harry Styles, Take That a tattoos18 juin 202601:28:59

Mae wythnos arall wedi pasio ac mae'r siop yn ôl 'in the swing of things' ers y daith. Yr wythnos hon ,cawn glywed am drip Mari i 'Dylan's Costal Retreat' a thrip Meilir i weld Rufus Wainwright yn Llundain. Hefyd, bydd Mari a Mei yn trafod taith Take That a pherfformiadau Harry Styles cyn agor y blwch ceisiadau i ateb eich cwestiynnau. Croeso i'r Siop Siarad!

76 - Duffy, Pride a Widow's Bay11 juin 202601:27:57

Mae Mari a Meilir yn ôl yn y siop ar ôl trip i Galeri Caernarfon ac mae'n amser rhoi trefn ar y stoc. O drafod digwyddiadau'r pythefnos diwethaf fel cyhoeddiad Duffy, drama Queer Eye, dathliadau Pride a marwolaeth yr actor Anthony Head, i'r Silff Sobor ac wrth gwrs y Blwch Ceisiadau! Mae'n braf bod nol yn y siop. I mewn â chi...

75 - Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a Katie Price22 mai 202601:10:01

Sypreis! Er i ni gyhoeddi nad oedd pennod yr wythnos yma, doedd Mari na Mei methu peidio ag agor y siop i siarad non stop. Ma na sgrysiau am Eisteddfod yr Urdd, cacen benblwydd, gŵr Katie Price, Andy Burnham a chomedïau byrion S4C. Beth chi'n neud yn sefyll tu fas? Mewn â chi i wrando.

74 - Llywodraeth newydd, BAFTAs a'r daith!14 mai 202601:29:33

Am wythnos hanesyddol i wleidyddiaeth Cymru! Mae'r felin bupur wedi bod yn troi'n ddi-stop yma yn y siop. O gefnogaeth Plaid Cymru (a R£form), ymateb Keir Starmer a'r holl sylwebaeth ar y teledu a'r radio. A sôn am deledu, roedd gwobrau BAFTAs yr wythnos yma hefyd. A llond blwch yn geiriosen ar ben y gacen. Felly, i mewn â chi gyfeillion annwyl - mae'r siop ar agor.

73 - Met Gala, Devil Wears Prada 2 a'r Etholiad!07 mai 202601:25:14

Mae hi'n ddiwrnod pwysig iawn heddiw yng Nghymru wrth i'r gorsafoedd pledleisio agor. Ond peidiwch â phoeni, mae'r Siop Siarad ar agor hefyd fel yr arfer. Mae yna drafodaeth ddyrys am wisgoedd y Met Gala, adolygiadau o ail gyfres Anfamol, ffilm Devil Wears Prada 2 a mwy. Heb sôn am flwch ceisiadau mor llawn â blwch pledleisiau Plaid Cymru... I mewn â chi i'r siop.

72 - I'm a Celeb, ffeinal Y Llais a Helena Bonham Carter30 avr. 202601:42:15

Mae teledu yn cael dipyn o sylw yn y siop yr wythnos yma - ffeinal Y Llais, drama aduniad I'm a Celeb, Helena Bonham Carter yn gadael cyfres 4 White Lotus, Russell Brand ar raglen Piers Morgan a llawer mwy. Gyda blwch gorlawn, mae hon yn bennod go swmpus, felly i mewn â chi i'r siop a mwynhewch.

71 - Lerpwl, Y Llais a Llanuwchllyn23 avr. 202600:51:21

Yn y bennod hon, mae Mari wedi mentro i Lanuwchllyn - sy'n golgygu fod Mari a Meilir wedi recordio y bennod hon wyneb yn wyneb. A ma pethau wastad yn mynd braidd yn wirion pan mae'r ddau yn yr un ystafell, Mae 'na sgwrsio am drip penblwydd Meilir, pennod ddiweddaraf Y Llais a llawer mwy. Mewn â chi i wrando!

70 - Penblwyddi, SheUltra a Coachella16 avr. 202601:37:54

Sypreis! A hithau'n wythnos benblwydd ar Mari a Meilir, dyma benderfynu recordio pennod arbennig er i ni ddweud na fyddai na un yr wythnos hon. Da ni'n cael clywed am ddathliadau Mari, Meilir yn ffilmio efo Cabarela yn ogystal â holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Coachella, SheUltra ac amser Meilir yn gweini ar y teulu brenhinol...! Mewn â chi i glywed yr hanes. Mae'r siop ar agor!

69 - Y Pasg, Kanye a'r W.I.09 avr. 202601:27:13

Mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd ac mae'r Pasg bellach wedi pasio. Gawsoch chi ŵy? Gawsoch chi wyliau? Wel, mae Mari a Meilir yn y siop fel yr arfer yn barod i drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys gwaharddiad Kanye West rhag dod i'r D.U., drama'r ddylanwadwraig Mikayla ar Tiktok ac ymweliad Meilir â W.I. Llanuwchllyn. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!

68 - Poliameri, pigiadau colli pwysau a Scott Mills02 avr. 202601:50:41

Pasg hapus i chi gyd! Gobeithio'ch bod chi gyd yn mwynhau'r tymor Aries hyd yma ac yn barod i fwyta llond boliaid o wyau siocled dros y penwythnos. Mae yna lond trol o destunau i'w trafod eto'r wythnos yma - o ymadawiad Scott Mills o'r BBC, tocynnau Celine Dion, Ant a Dec a Bethan a rhaglenni S4C ar poliamori a phigiadau colli pwysau. Ewch i nol ŵy pasg arall, gwnewch baned a dewch i mewn i'r siop i wrando.

67 - Louis Theroux, SNL a Claudia Winkleman26 mars 202601:40:26

Llawer o raglenni teledu i'w trafod yr wythnos hon - o 'Power: The Downfall of Huw Edwards', 'Saturday Night Live UK', 'Louis Theroux: Inside the Manosphere', 'Last One Laughing' a 'The Claudia Winkleman Show'. Hefyd, rhaid i ni drafod trip Mari i wylio Lily Allen yng Nghaerdyddna'r fideo anffodus yna o Justin Timberlake. Ewch i nol paned a mwynhewch!

66 - Yr Oscars, Chappell Roan a Syr Bryn19 mars 202600:47:50

Mae seremoni wobrwyo fwya'r byd newydd ddigwydd yn Hollywood sy'n golygu fod na lwyth o glecs i'w trafod yn y siop yr wythnos hon. Ar ben hynny, mae'n blwch yn gorlifo gyda negeseuon am daith Siarad Siop ac mae'r cynllunio wedi dechrau. I mewn â chi, mae'r siop ar agor.

65 - Taith Siarad Siop, Timothée Chalamet ac Y Llais12 mars 202601:34:16

Daeth y dydd! Mae tocynnau taith fyw Siarad Siop nawr ar werth ac ar gael drwy glicio ein linktree neu drwy ymweld â gwefannau Clwb Ifor Bach a Galeri. Yn y cyfamser, dyma bennod arferol i chi o gossipio, honni ffeithiau hynod o amheus a lot o fawr o chwerthin. Mewn â chi! Mae'r siop ar agor.

64 - Cân i Gymru, gin a Premier Inn05 mars 202600:36:13

Mae Mari a Meilir wedi mentro allan o'r siop ac yn recordio'r bennod yma mewn gwesty. Pam, medde chi? Wel clicio play ac fe gewch chi'r hanes i gyd am eu travels.

63 - Tyra Banks, Our Town a 'dod allan'19 févr. 202601:21:06

Wedi wythnos o'r siop, mae hi'n braf bod nol gyda llond blwch o geisiadau a llond trol y straeon, gossip a sgwrsio, gan gynnwys rhaglen ddogfen newydd am America's Next Top Model, y twyll cyrlio yn yr Olympics a thaith sioe Welsh National Theatre o gynhyrchiad 'Our Town'. Digon o ragflas - mewn â chi i'r siop!

62 - Entrée, Catherine O'Hara a'r Grammys05 févr. 202601:23:11

Mae hi'n wythnos brysur draw ym myd Siarad Siop - Entrée Amour a Mynydd ar S4C, ymddangosiad ar Heno a recordio penodau cyntaf Après Amour a Mynydd. Ond wrth gwrs, mae wastad amser i recordio pennod arferol o Siarad Siop ac mae digon i'w drafod fel yr arfer: o'r seremonïau gwobrwyo, marwolaeth yr anhygoel Catherine O'Hara ac ymddygiad diweddaraf N!ck! M!naj... Dewch i mewn!

61 - Santes Dwynwen, ffeinal Traitors a Harry Styles29 janv. 202601:34:34

Gafodd pawb rosyn neu anrheg dros y penwythnos? Wnaethoch chi seremoni i losgi eitemau eich cyn-gariad? Dim ots os oedd eich diwrnod Santes Dwynwen yn llawn cariad neu'n oer fel bloc o rew, mae yna groeso cynnes i chi yn y siop. Rhaid trafod ffeinal y Traitors, cyfres ddogfen newydd Tyra Banks a phwy gafodd eu hanwybyddu yn enwebiadau'r Oscars eleni. Wfftio'r cariadon - dewch mewni'r siop. M&Ms for life xoxo

60 - Brooklyn, Karamo a Heated Rivalry22 janv. 202601:51:12

Mae'r Siop yn gorlifo'r wythnos yma efo hanesion - o straeon insta Brooklyn, absenoldeb Karamo o lansiad cyfres Queer Eye, glambot enwog JLo, cyfresi Heated Rivalry a Traitors i Charlie's Aberystwyth yn cau. Mae angen tebot mawr i wrando ar yr holl dê chwilboeth. Eistedd yn gyfforddus? Mewn â chi!

59 - Golden Globes, Miss Saigon a therapi15 janv. 202601:22:33

Wythnos arall wedi pasio ac mae mis Ionawr yn prysur ddiflannu ond peidiwch â phoeni, mae'r siop mor llawn ag erioed. O gossip y Golden Globes, ansawdd lleisiol Lily Allen i ddeallusrwydd artifisial. Digon i lenwi'ch basged. Mewn â chi!

58 - Eira, Traitors a'r ffliw08 janv. 202601:21:08

Gan ein bod ni i gyd yn sownd yn ein tai, pa amser gwell i bicio i'r siop i glywed am hanes wythnos gyntaf y flwyddyn newydd, y gyfres newydd o Traitors a llond blwch o gyfaddefiadau jiwsi! Dewch i mewn o'r oerfel - mae'r siop ar agor.

57 - Blwyddyn Newydd Dda!31 déc. 202501:24:32

Mae 2025 bron ar ben ac mae'n amser i ni hel atgofion a thrafod uchafbwyntiau'r flwyddyn ddiwethaf cyn i ni edrych ymlaen at 2026... Mae hi am fod yn flwyddyn gyffrous i'r Siop, felly dewch i mewn i glywed y newyddion.

56 - Nadolig Llawen!25 déc. 202501:09:06

Mae'r Nadolig wedi cyrraedd felly dyma bennod arbennig i chi wrando arni drod gyfnod yr Ŵyl i roi hoe fach i chi o'r prysurdeb neu i wrando arno tra'n paratoi eich twrcis a'ch llysiau. Gobeithio y daeth Sion Corn draw! Cofiwch rannu eich hanesion efo ni ar gyfer dadbacio holl hwyl y Nadolig yn y bennod nesaf. Ho ho ho!

55 - Amour a Mynydd 2, Cabarela a'r super-ffliw18 déc. 202501:19:54

Hir yw pob aros ond o'r diwedd, mae Mari a Meilir wedi llwyddo i agor y siop unwaith eto. Ar ôl trip i Ffrainc, a thaith go brysur Cabarela, mae yna lwyth o bethau i'w trafod, heb sôn am y pigion teledu a'r blwch cyfrinachau. Dyna ddigon o ragflas - i ffwrdd â chi i wrando!

Cyhoeddiad Gwasanaeth Cyhoeddus!04 déc. 202500:04:48

Yn dilyn anhawsterau technegol (diolch i'r rhyngrwyd a'r glaw trwm) a'r ffaith fod Mari a Meilir yn mynd dramor am sbel... Ni fydd pennod am blwc felly ewch i gadw golwg ar gyfryngau cymdeithasol y ddau nes y daw nhw yn ôl i'r siop.

Siarad Siop x Llyfrgell Gen30 nov. 202500:25:18

Wel, mae Mari a Meilir wedi cael trip bach i bencadlys diwylliant Cymru sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth i daro golwg ar yr arddangosfa newydd yno 'Portread a Phŵer'. Dewch i glywed ni'n defnyddio geiriau fel 'cyfoethogi' ac 'amlddiwylliannol' - da ni'n gallu bod yn posh hefyd wyddoch chi!

* Mae'r bennod hon wedi ei hariannu gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i hyrwyddo arddangosfa 'Portread a Phŵer'. #AD

54 - Wicked: For Good, "Quiet, Piggy" a partïon plu27 nov. 202501:39:15

O'r diwedd, mae pennod olaf Wicked wedi ei rhyddhau ac mae gan Meilir lawer i'w rannu (heb spoilers wrth gwrs)! Rydym yn ffarwelio gyda'e moch daear am y tro olaf yn y bennod hon - a sôn am foch, mae Tr*mp wedi llwyddo i fychanu menyw unwaith yn rhagor! Mae'r blwch unwaith eto yn gorlifo â cheisiadau felly dewch mewn i'r siop - mae'r drysau ar agor.

53 - Penblwydd RuPaul, parti Kris Jenner ac adverts dolig20 nov. 202501:38:28

Wel mae gwyntoedd oer y gaeaf wedi cyrraedd o'r diwedd felly dewch i mewn i'r siop i glywed hanesion yr wythnos - o antics carped coch Wicked, dawnsathon Emma a Trystan i weiddi ar wylanod. We've got it all. Felly swatiwch a mwynhewch!

Siarad Siop x Stad16 nov. 202500:36:35

Mae Mari a Meilir wedi gwirioni fod ail gyfres Stad wedi cyrraedd ac ar gael i'w gwylio fel bocset ar S4C Clic/BBC iPlayer neu bob nos Sul am 9pm ar S4C. Pwy well i drafod y gyfres ond gwestai cyntaf y podlediad, sef un o sgriptwyr y gyfres - Lleucu Sion. Dewch i mewn i wrando reit handi!

*Mae'r bennod hon wedi ei hariannu gan S4C i hyrwyddo ail gyfres deledu 'Stad' ar S4C #AD

52 - Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani13 nov. 202501:36:19

Roedd hi'n wythnos lwyddiannus i Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani yr wythnos ddiwethaf felly mae'n silffoedd ni'n llawn dop yn barod ar eich cyfer chi. Ar ben hynny, mae Mari a Meilir wedi ail-ymweld â'r rhestr enwau drag arbennig gan James, Huw a Neil er mwyn rhoi dôs o lawenydd i ni cyn y penwythnos. Mwynewch!

51 - Julia Fox, Mariah Carey a Mr Windsor06 nov. 202501:39:33

Mae Calan Gaeaf wedi pasio ac mae Mariah wedi sgrechian ei neges - mae'n amser! Ydych chi'n barod i groesawu ysbryd yr Ŵyl? Pa wisg calan gaeaf oedd eich hoff un chi? Mewn wythnos pan welson ni dywysog yn colli ei goron a gwleidydd yn ymuno â panto, mae Mari a Meilir yn barod i siarad siop. Mewn â chi!

*BONWS* Rupaul's Dragrace UK 7 - Pennod 4&502 nov. 202501:01:13

Hir yw pob aros ond dyma bennod bonws yn arbennig i chi yn trafod y ddwy bennod ddiweddaraf o Rupaul's Dragrace UK 7 - pennod 4&5. Mwynhewch!

50 - Lily Allen, Kelvin R&R a Casper the ghost30 oct. 202501:46:58

Yn y bennod sbŵci, dŵci, lŵci yma, mae Mari a Meilir yn tynnu albwm newydd Lily Allen yn ddarnau - gan drafod y manylion, yr alawon a'r holl fanylion mae hi'n ei rannu yn y caneuon. Newyddion trist oedd rhaid rhoi sylw iddo yr wythnos yma oedd marwolaeth Kelvin Walsh ar Rownd a Rownd, cyn i ni agor y blwch llawn o geisiadau a chyfrinachau. Dewch i mewn!

49 - Thong Kim K, rhech Celia Imrie a jewels y Louvre23 oct. 202501:34:05

Mae hi wedi bod yn wythnos a hanner i bopeth brenhinol - o ladrad y gwemweithiau o'r Louvre i Dywysog Andrew yn ildio ei freintiau brenhinol. O, ie...a ma Kim Kardashian wedi ychwanegu thong blewog i'w chasgliad dillad diweddaraf. Pawb at ei beth a bo, am wn i! A peidiwch a dechre ni off ar Cwîn Celia Imrie. Mewn â chi heb lol.

© My Podcast Data · Independent project · Data from Apple & Spotify