Back

Explore every episode of the podcast Pryd ar Dafod

Dive into the complete episode list for Pryd ar Dafod. Each episode is cataloged with detailed descriptions, making it easy to find and explore specific topics. Keep track of all episodes from your favorite podcast and never miss a moment of insightful content.

Rows per page:

1–21 of 21

TitlePub. DateDuration
Pennod 19: Betsan Moses06 août 202600:45:12

Ar fwydlen y bennod hon, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n ymuno â Dewi ac Ianto - wel nhw na'th ymuno â hi yn ei gardd hi i fod yn onest!


Lot o siarad, lot o atgofion, lot o fod yn wholesome. Joiwch!

Pennod 18: Carwyn Blayney30 juil. 202600:34:00

**Rhybudd - iaith grêfi**


Ar y fwydlen yn y bennod hon mae'r comedïwr Carwyn Blayney.


Fe oedd gwestai anffodus Dewi ac Ianto tro' 'ma ac mae'r bennod yma'n dod yn fyw o Tafwyl 2026 - bach o audience participation (diolch) a lot o chwerthin (diolch x2).


Sori am y rhegi, y gweiddi a'r nonsens, ond gathon ni lot fawr o hwyl!

Bone apple teeth!


Pennod 17: Heledd Cynwal16 juin 202601:12:52

Wel wel wel, ni mor chuffed i allu cael sgwrs gyda un o "proper enwogion" Cymru - y cyflwynydd a'r anhygoel Heledd Cynwal. Diolch yn fawr i Heledd am y sgwrs anhygoel lle naethon ni drafod bwytai, tafarndai, llyfrau, ryseitiau (a llwyth o bethau eraill yn gorffen gyda "ai/au".


Mae'n sgwrs sy'n mynd â ni holl ffordd o Gaerdydd i Landeilo, via Bethlehem. Gobeithio wnewch chi fwynhau gymaint â wnaethon ni wrth recordio!

Pennod 16: Nick Yeo13 mai 202600:49:37

***RHYBUDD: IAITH GREFI***


Cyflwynydd y podlediad arobryn (ie, "award winning" yn Gymraeg, weird) 'Sgwrsio', Nick Yeo yw gwestai Dewi ac Ianto yn y bennod hon.

O drafod Rome Total War i ryfela am ba ran o Gaerdydd sydd orau, ni'n trafod all things Cymraeg, ac wrth gwrs, bwyd.

Mwynhewch!



Tamed i Aros Pryd: 123 avr. 202600:11:13

Reit, mae gwneud podcasts yn cymryd sbel. So dyma rhywbeth bach i chi, rhywbeth wythnosol, pallete cleanser fel petai.

Jyst Dewi a Ianto yn bwyta rhywbeth, yn siarad am brydau bwyd a dod lan gyda syniadau am raglenni rybish i S4C.

Bydd y penodau arferol gyda gwestai arbennig yn dod mas bob hyn a hyn wedyn hefyd! Joiwch!

*****

Making a podcast is time consuming! So we've decided to give you a little snack to get you through whilst you wait. A pallete cleanser if you will.

Enjoy us rambling on about our weekly meals and lunchtime bites and any other general rubbish we've thought of during the week.

Our usual episodes will still be coming with more amazing guests - Enjoy!

Pennod 15: Siôn Tomos Owen10 avr. 202600:57:10

Yr awdur, artist, cyflwynydd, y foodie (a'r Bardd Plant Cymru wrth gwrs) Siôn Tomos Owen yw gwestai y bennod hon.


Lot o falu awyr, lot o fwyd a lot o hwyl. Mwynhewch!

Pennod 14: Efa Lois20 mars 202600:55:37

Yn y bennod hon, y dylunydd, yr artist a'r awdur Efa Lois sy'n ymuno â Ianto a Dewi a'n rhannu ei hoff brydau.

Ni'n trafod Penweddig, pinafalau, priodas, partis - a lot mwy o bethau'n dechrau gyda p. Joiwch.

A sori bo ni'n siarad am bethe Nadoligaidd yn aml - ga'th hwn ei recordio jyst cyn Dolig (wps!).

Pennod 13: Steffan Dafydd12 févr. 202600:50:34

***Rhybudd - iaith grêfi***


Yn y bennod hon, y cerddor a'r artist Steffan Dafydd sy'n ymuno â Ianto a Dewi a'n rhannu ei hoff brydau. Ni'n trafod loads o bethe - bwyd, cerddoriaeth a Plasmawr wrth gwrs - ma llwyth ar y fwydlen yn y bennod hon.

Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Jolch x

Pennod 12: Llwyd Owen22 janv. 202601:12:08

Yr awdur, y podgastiwr a'r housewife anhygoel (diolch am y daal a'r brownies!) Llwyd Owen yw gwestai diweddara' Ianto a Dewi.


O enwau canol gwirion i ryseitiau rili neis, mae llwyth i'w fwynhau ar y fwydlen!

Pennod 11: Rhodri Davies23 déc. 202500:55:40

Ho, ho, ho. Nadolig Llawen! Ein "Christmas Special" cynta' a sgwrs digon sbeshal gyda'r cogydd Rhodri Davies.


Gaethon ni groeso cynnes ym mecws Alex Gooch, ar leoliad ei pop-yp, Sôs (@Sos_with_a_hat ar Instagram) a joio trafod bwyd, Cymraeg Plasmawr, ac ambell i gyfrinach am hoff a chas gogyddion Rhodri.

Joiwch, bwytewch a byddwch lawen (a sori am safon y sain!) x

Pennod 10: Gareth Potter15 déc. 202501:03:00

Y DJ, yr actor, y tywysydd, y sgwennwr, y canwr, y gwr bonheddig Gareth Potter sy'n gwmni i Ianto a Dewi tro 'ma.


Chat lyfli a doniol am fwyd, cerddoriaeth, celfyddydau a'r Cymoedd. Gwrandewch, rhannwch a joiwch!

Pennod 9: Katie Hall11 nov. 202500:44:00

***Rhybudd - iaith grêfi***


Yn y bennod hon, yr amryddawn, yr anhygoel, yr Aberdâr lej, Katie Hall o'r band Chroma sy'n ymuno gyda ni i drafod popeth o fiwsig i fwyd, tyfu lan a chillo mas.

Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch!


Pennod 8: Daniel Glyn 28 oct. 202500:43:44

***Rhybudd - iaith grefi***

Comedïwr, ysgrifennwr... stuntman? Daniel Glyn sy'n ymuno 'da ni tro 'ma. Doniol, dirdynnol, diddorol a llwyth o eiriau eraill yn dechrau gyda d.


Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.


Blydi Lyfli.


Pennod 7: Gwion Ifan09 oct. 202500:48:53

***Rhybudd - iaith grefi***

"Y boi 'na o'r gorllewin sydd ar Hansh", Gwion Ifan sydd gyda ni wythnos 'ma. Y drydedd bennod yn fyw o'r 'Steddfod (ond y gynta' i gael ei recordio). Llwyth o hwyl a siarad am 'chydig o fwyd blasus.

Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.


Tasty butt.


Pennod 6: Mari Elen03 oct. 202500:38:21

***Rhybudd - iaith grefi***

Y perfformiwr, y dramodydd a'r PodledWrach Mari Elen sydd gyda ni tro' 'ma. Yr ail bennod yn fyw o'r 'Steddfod yn Wrecsam. Lot o hwyl, llwyth o smut - be well?

Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.


Hapus. Blasus.

Pennod 5: Morgan Elwy16 sept. 202500:40:17

***Rhybudd - iaith gref***

Y cerddor, y gwyddonydd a'r bach o bach o foodie (sori) Morgan Elwy yw'r gwestai tro 'ma. Yn fyw o Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Joiwch.

Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.


Pennod 4: Siôn Owens29 août 202500:58:49

Siôn Owens - y comedïwr, y Cofi a basydd (de Cymru) Bwncath - yw ein gwestai tro 'ma.


Boi doniol a diddorol sydd â dewisiadau bwyd digon...ym...diddorol.

Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.Joiwch!

Pennod 3: Hanna Jarman01 août 202500:54:52

***Rhybudd - iaith gref***


Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.

Yr actor, awdur a'r dramodydd (a'r foodie) Hanna Jarman sy'n ymuno â nhw yn y bennod hon.

Bone apple teeth!

Pennod 2: Emyr Siôn08 juil. 202500:47:28

***Rhybudd - iaith gref***


Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.

Yn yr ail bennod, y cerddor a'r all-round funny guy Emyr Siôn yw'r gwestai. Dyma'ch cyfle i glywed os yw Emyr wir yn ddosbarth canol adeg 'Dolig.


Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch!

Pennod 1: Jac Llwyd Northfield24 juin 202501:02:11

***Rhybudd - iaith gref***


Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.

Yn y bennod gyntaf, Jac Llwyd Northfield sy'n ymuno â Dewi ac Ianto. Boi doniol sy'n hoff o goginio, bwyta a rhannu ryseitiau.

Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch!

© My Podcast Data · Independent project · Data from Apple & Spotify