Back

Explore every episode of the podcast Pethe

Dive into the complete episode list for Pethe. Each episode is cataloged with detailed descriptions, making it easy to find and explore specific topics. Keep track of all episodes from your favorite podcast and never miss a moment of insightful content.

Rows per page:

1–29 of 29

TitlePub. DateDuration
Pethe 29 - Festival Number Six12 Sep 201400:19:17
Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda pump arall fuodd yn yr wyl dros y penwythnos diwethaf - Siwan Haf, Iestyn Lloyd, Daniel Parry Evans, Llyr ab Alwyn ac Osian Howells. Pob un wedi cael profiad hollol wahanol o'r wyl ym Mhortmeirion.
Pethe 28 - Plu yn Gŵyl Arall24 Jul 201400:32:27
Elan Mererid Rhys o'r band 'Plu' fuodd yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym mewn sesiwn yn ystod Gŵyl Arall 2014
Pethe 27 - Gwenno Saunders yn Gŵyl Arall23 Jul 201400:35:20
Gwenno Saunders fuodd yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym mewn sesiwn yn ystod Gŵyl Arall 2014. Mae hefyd cyfle i glywed Gwenno'n perfformio rhai o'i chaneuon.
Pethe 26 - Categori Barddoniaeth, Llyfr Y Flwyddyn 2014 26 Jun 201400:28:10
Ifor ap Glyn sy'n trafod y llyfrau yng nghategori barddoniaeth Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn ein podlediad diweddaraf
Pethe 25 - Categori Ffuglen, Llyfr Y Flwyddyn 2014 05 Jun 201400:29:18
Menna Machreth a Non Tudur sy'n trafod y llyfrau yng nghategori ffuglen Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn y podlediad yma.
Pethe 24 - Categori Ffeithiol Greadigol, Llyfr y Flwyddyn 2014 28 May 201400:31:21
Gwion Hallam fuodd yn trafod llyfrau yng nghategori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2014 gyda Emyr Gruffudd a Meg Elis.
Pethe 23 - Cylch Canu11 Apr 201400:17:16
Gwion Hallam sy’n holi’r cerddor Stephen Rees (Ar Log, Crasdant) a’r canwr Gwilym Bowen Rhys (Y Bandana, Plu) am yr adfywiad yn y sîn gwerin yng Nghymru, a nhw ymhlith deg cerddor sy’n teithio’r sioe werin ‘Cylch Canu/Songchain’ o gwmpas y wlad.
Pethe 22 - Theatr Bara Caws31 Mar 201400:12:56
Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda Betsan Llwyd am gynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, 'Dros Y Top'
Pethe 21 - Dros Y Top21 Mar 201400:11:16
Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda thri o actorion ac ysgrifenwyr 'Dros Y Top' - cynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, sef Carwyn Jones, Rhian Blythe a Rhodri Sion.
Pethe 20 - Blodeuwedd07 Feb 201400:14:02
Gwion Hallam sy'n holi Yr Athro Gwyn Thomas am gynyrchiad newydd Theatr Genedlaethol Cymru, Blodeuwedd.
Pethe 19 - Intermission gan Owen Martell11 Dec 201300:15:49
Gwion Hallam sy’n holi’r nofelydd John Rowlands am nofel Saesneg gyntaf Owen Martell - Intermission.
Pethe 18 - Cerddoriaeth 02 Dec 201300:29:23
Gwion Hallam sy'n trafod cerddoriaeth newydd sydd ar gael rhwng nawr a chyfnod y Nadolig gydag Osian Howells a Gethin Evans
Pethe 17 - Cerddi'r Goron11 Oct 201300:16:00
Lisa Gwilym, Aneurin Thomas ac Ifor ap Glyn sy'n trafod ‘Terfysg’ – Cerddi’r Goron. Triniaeth drawiadol o’r casgliad o gerddi a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Dinbych i Ifor.
Pethe 16 - Cyfres newydd07 Oct 201300:13:26
Yn y podlediad yma, Lisa Gwilym a Gwion Hallam sy'n edrych ymlaen at gyfres newydd o 'Pethe'
Pethe 15 - Manon a Lleuwen Steffan30 Jul 201300:34:14
Lisa Gwilym fuodd yn cynnal sesiwn trafod gyda Manon a Lleuwen Steffan yn ystod penwythnos Gwyl Arall yng Nghaernarfon.
Pethe 14 - Gwyneth Glyn25 Jul 201300:42:11
Cyfe i fwynhau sgwrs a sesiwn acwstig gyda Gwyneth Glyn fel un o ddigwyddiadau Pethe yn Gwyl Arall 2013.
Pethe 13 - Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn16 Jul 201300:33:51
Nici Beech ac Ifor ap Glyn sy'n ymuno gyda Gwion Hallam ar gyfer trafod categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2013, sef Trydar Mewn Trawiadau gan Llion Jones, Parlwr Bach gan Eigra Lewis Roberts ac O Annwn i Geltia gan Aneirin Karadog.
Pethe 11 - Categori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn15 Jul 201300:22:09
Gwion Hallam sy’n holi Eirian (Palas Print) James a Rhian George am y nofel Blasu gan Manon Steffan Ros, y nofel Ras Olaf Harri Selwyn gan Tony Bianchi a’r nofel Cig a Gwaed gan Dewi Prysor.
Pethe 12 - Categori Ffeithiol Llyfr y Flwyddyn12 Jul 201300:22:53
Meg Elis a Non Tudur sy’n trafod y llyfrau ar y rhestr ffeithiol hefo Gwion Hallam. Beth fydd eu barn am Cofnodion gan Meic Stephens, Yr Erlid gan Heini Gruffudd, a Tuchan o Flaen Duw gan Aled Jones Williams?
Pethe 10 - Yr Ods02 Jul 201300:34:06
Lisa Gwilym sy’n sgwrsio efo Osian Howells – aelod o Yr Ods – am yr ail albwm hir ddisgwyliedig. Mae’r albwm “Llithro” yn cael ei rhyddhau yn fuan, a dyma gyfle arbennig i glywed a mwynhau caneuon oddi ar y casgliad newydd. Lisa Gwilym speaks with Osian Howells – a member of “Yr Ods” – about their forthcoming second album. “Llithro” will be released in the next month, but here’s a great opportunity to listen and enjoy tracks from the new collection.
Pethe 09 - Lleisiau Ysbyty Dinbych21 Jun 201300:15:45
Lisa Gwilym sy’n holi Gwion Hallam am raglen arbennig o Pethe y mae’n ei chyfarwyddo – ‘Lleisiau Ysbyty Dinbych’. Sut y mae Manon Steffan Ros, Aled Jones Williams a’r comediwr Eilir Jones am roi llais i gleifion a choridorau gwag yr hen ysbyty meddwl?
Pethe 08 - La Biennale di Venezia07 Jun 201300:15:16
Yn y podlediad yma, mae Gwion Hallam yn holi Lisa Gwilym a'r cyfarwyddwr Heledd Lewis am eu profiadau wrth ymweld ag arddangosfa Bedwyr Williams yn yr Eidal ar gyfer 'La Biennale di Venezia'.
Pethe 07 - Llyfr y Flwyddyn15 May 201300:13:44
Ar ddiwrnod cyhoeddi rhestr fer gwobr llyfr y flwyddyn 2013 fe aeth Gwion Hallam draw i siop Palas Print, Caernarfon i gael ymateb dau sydd â diddordeb mawr yn y dewis o naw llyfr. Ym mhodlediad Pethe yr wythnos yma cawn ymateb perchennog y siop Eirian James i ddewis y beirniaid eleni, yn ogystal ag ymateb cynhyrchydd rhaglen arbennig ar y wobr eleni, Emyr Gruffudd.
Pethe 06 - Gruff a Georgia02 May 201300:22:28
Iestyn Lloyd ac Osian Howells sydd yn ymuno gyda Gwion Hallam yr wythnos hon i adolygu dau albwm newydd sef 'Praxis Makes Perfect' gan Neon Neon a 'week of Pines' gan Georgia Ruth.
Pethe 05 - Wil Aaron12 Apr 201300:13:19
Gwion Hallam yn holi'r cyfarwyddwr ffilm Wil Aaron am y frwydr a'r her o wneud ffilmiau yn y Gymraeg. Fel un o arloeswyr y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg fe gyfarwyddodd Wil Aaron y ffilm arswyd gyntaf yn yr iaith - O'r Ddaear Hen, 1981. Dyma ei atgofion o gyfnod cyffrous a chythryblus y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.
Pethe 04 - David Bowie08 Apr 201300:10:33
Yn y bennod hon, Lisa Gwilym sydd yn trafod gwaith David Bowie gyda'r gitarydd bas Rheinallt ap Gwynedd.
Pethe 03 - Cerebellium15 Mar 201300:15:34
Yn y bodlediad yma, mae Lisa Gwilym yn sgwrsio gyda thair o griw Cwmni Da, sef Manon Wyn, Rhian Haf a Nerys Lewis. Aeth y pedair wythnos diwethaf i weld 'Cerebellium' ym Mhrifysgol Bangor a chewch glywed am eu profiadau unigryw.
Pethe 02 - Angharad Tomos11 Mar 201300:13:15
Yn ail bennod podlediad Pethe, mae Gwion Hallam yn cwrdd â'r awdur Angharad Tomos i drafod ei drama newydd, sef Dyled Eileen.
Pethe 01 - Croeso i Lisa15 Feb 201300:09:03
Lisa Gwilym, Gwion Hallam a Manon Wyn yn edrych ymlaen at gyfres newydd o Pethe ar S4C ac yn trafod y digwyddiadau celfydyddol sydd ar y gweill yn y misoedd nesaf.
© My Podcast Data · Independent project · Data from Apple & Spotify