Back

Explore every episode of the podcast Gwleidydda

Dive into the complete episode list for Gwleidydda. Each episode is cataloged with detailed descriptions, making it easy to find and explore specific topics. Keep track of all episodes from your favorite podcast and never miss a moment of insightful content.

Rows per page:

1–50 of 127

TitlePub. DateDuration
O Faes yr Eisteddfod07 Aug 202400:35:19

Wedi'i recordio ar faes yr Eisteddfod, mae Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr heriau sy'n wynebu Prif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan. Mae'r ddau yn dadansoddi etholiad y Senedd yn 2026, a sut fydd y system bleidleisio newydd yn gweithio. Ac i gloi mae ychydig o gwestiynau gan y gynulleidfa i'r ddau.

Eluned Morgan yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru24 Jul 202400:29:25

Cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno â Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones i ddadansoddi Eluned Morgan yn dod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae'r ddau yn trafod yr heriau sydd yn ei hwynebu i uno grwp y blaid yn y Senedd a'i hapêl i etholwyr Cymru.

Cytundeb masnach ar y dibyn?11 Dec 202000:23:37

Alun Thomas, Elliw Gwawr, Mared Gwyn, Paul Davies ac Hywel Williams sy'n trafod.

Y Brechlyn Newydd04 Dec 202000:24:12

Alun Thomas yn holi pa mor barod fydd pawb i gael eu brechu o ystyried yr holl newyddion ffug ar wefannau.

Nadolig Covid27 Nov 202000:20:41

Trafod effaith cyfyngiadau y coronafeirws ar yr ŵyl gyda Gwenllian Grigg, Teleri Glyn Jones, Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Ifan Llywelyn.

Drama Downing Street20 Nov 202000:21:11

Yr Athro Richard Wyn Jones, Vaughan Roderick a Morley Jones sy’n ymuno â Gwenllian Grigg.

Beth nesa i America?13 Nov 202000:21:54

Gwenllian Grigg sy’n holi Bethan James, Syr Deian Hopkin a’r Athro Jerry Hunter

Y Ras i'r Tŷ Gwyn06 Nov 202000:21:13

Gwenllian Grigg sy’n cael cwmni Maxine Hughes, Catrin Jones a Jonathan Edwards

Hydref Dan Glo...30 Oct 202000:21:14

Dafydd Morgan, Teleri Glyn Jones, Cynog Prys a Carys Huws sy’n trafod y cyfnod clo...

Yr Ail Glo23 Oct 202000:20:50

Gwenllian Grigg sy'n trafod y cyfnod clo newydd gydag Alun Thomas, Yr Athro Arwyn Thomas Jones o Brifysgol Caerdydd a Dr Eleri Davies Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Pysgota am gytundeb Brexit?16 Oct 202000:20:32

Gwenllian Grigg, Richard Wyn Jones, Mared Gwyn a Vaughan Roderick sy’n trafod.

Y Ras i'r Tŷ Gwyn07 Oct 202000:23:36

Vaughan Roderick, Sion Rogers, Ann Griffith a Maxine Hughes sy’n trafod y ras i’r Tŷ Gwyn

Ymddiswyddiad Vaughan Gething17 Jul 202400:24:55

Ar ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd fel Prif Weinidog Cymru, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones sy’n trafod y ffactorau wnaeth arwain at ei benderfyniad. Mae’r ddau yn dadansoddi'r hyn mae’n golygu i’r Blaid Lafur a’r heriau fydd yn wynebu grŵp y blaid yn y Senedd gan ystyried pwy sy’n debygol o sefyll os oes ras i’w olynu.

Hunan-ofal mewn cyfnod pryderus02 Oct 202000:25:35

Ynghanol y newyddion pryderus am COVID19, beth allwn ni ei wneud i ofalu am ein hunain?

Podlediad Cymru Fyw: Yr Ail Don?25 Sep 202000:23:45

Gyda rhagor o gyfyngiadau wedi eu cyhoeddi i geisio atal lledaeniaid y coronafeirws heddiw, ydyn ni ar fin gweld ail don? Alun Thomas a’i westeion sy’n pwyso a mesur.

Llond Bol o Brexit?17 Jun 202000:22:05

Kate Crocket yn trafod datblygiadau Brexit yng nghwmni Vaughan Roderick, Dr.Carol Bell a’r Athro Richard Wyn Jones.

Llond Bol o Bolitics30 Jan 202000:21:59

Ddiwrnod cyn i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd Kate Crockett, Yr Athro Richard Wyn Jones, Dr. Edward Thomas Jones a Mared Gwyn sy’n rhoi’r byd gwleidyddol yn ei le.

Wythnos olaf Prydain fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd24 Jan 202000:16:24

Dylan Jones a'i westeion sy'n trafod wythnos hanesyddol...

Llond Bol o Bolitics - Yr Alban, Gogledd Iwerddon ac arweinyddiaeth y blaid Lafur...17 Jan 202000:21:26

Kate Crockett, Richard Wyn Jones a Gareth Hughes yn trafod straeon gwleidyddol yr wythnos

Llond Bol o Bolitics: Barod am 2020?!10 Jan 202000:21:12

Vaughan Roderick, Mared Gwyn a Richard Wyn Jones sy'n trafod Brexit a mwy...

Llond Bol o Bledleisio?20 Dec 201900:21:18

Dadansoddiad o’r wythnos gyntaf wedi’r etholiad cyffredinol - Araith y Frenhines a Mesur Cytundeb Ymadael Boris Johnson. Dylan Jones sy’n cadeirio trafodaeth yng nghwmni’r Athro Richard Wyn Jones, Mared Gwyn a Dr Huw Lewis.

Llond Bol o Bleidleisio?05 Dec 201900:19:08

Gydag wythnos i fynd cyn yr etholiad, Kate Crockett sydd yn holi ein Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick, a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru am ddigwyddiadau'r wythnos yn yr ymgyrchu gwleidyddol.

Llond Bol o Bleidleisio?29 Nov 201900:20:01

Kate Crockett sy'n cadeirio trafodaeth etholiadol rhwng Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, a’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

10 Gorffennaf: Dadansoddi canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol10 Jul 202400:31:16

Ar ôl i'r blaid Lafur ennill buddugoliaeth hanesyddol yn yr etholiad cyffredinol mae Vaughan a Richard yn dadansoddi’r canlyniadau yng Nghymru gan drafod ymgyrch y pleidau gan edrych ymlaen hefyd at etholiadau'r Senedd yn 2026. Mae’r ddau hefyd yn rhannu eu hargraffiadau o ddyddiau cynnar llywodraeth Keir Starmer ac yn ystyried dyfodol y Blaid Geidwadol.

Llond Bol o Bleidleisio?22 Nov 201900:20:20

Y pleidiau gwleidyddol yn dechrau cyflwyno eu maniffestos. Gwenllian Grigg sy’n cadeirio rhan gyntaf y drafodaeth yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones.

Llond Bol o Bleidleisio?15 Nov 201900:17:09

Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, a’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn trafod yr wythnos a aeth heibio yn yr ymgyrch etholiadol gyda Dylan Jones yn y gadair.

Llond Bol o Bleidleisio?07 Nov 201900:17:46

Kate Crockett yn holi Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar ddechrau'r ymgyrchu ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Llond Bol o Brexit - Barod am etholiad?01 Nov 201900:24:33

Gwenllian Grigg, Vaughan Roderick, Richard Wyn Jones a Mared Gwyn sy'n trafod.

Llond Bol o Brexit?25 Oct 201900:20:03

Oes 'na etholiad cyffredinol ar y gorwel cyn y Nadolig? Gwenllian Grigg sy’n cadeirio trafodaeth yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones.

Llond Bol o Brexit?18 Oct 201900:20:13

Cytundeb rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd ar Brexit. Alun Thomas sy’n cadeirio trafodaeth yng nghwmni Vaughan Roderick, Gareth Pennant a Theo Davies-Lewis.

Llond Bol o Brexit?11 Oct 201900:17:39

Dylan Jones sy’n cadeirio trafodaeth ble mae Tweli Griffiths, Vaughan Roderick a Hedydd Philyp yn rhoi eu pen ar y bloc wrth ddarogan a fydd yna gytundeb rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd cyn calan gaeaf.

Llond Bol o Brexit? Deunawfed cainc y Mabinogi?!04 Oct 201900:25:11

“Deunawfed cainc y Mabinogi” meddai Vaughan Roderick am gynnig diweddaraf Llywodraeth Prydain ar Brexit i’r Undeb Ewropeaidd. Gwenllian Grigg sy’n holi Vaughan, ynghyd â Mared Gwyn o Frwsel a’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, ym mhodlediad diweddaraf Llond Bol o Brexit.

Llond Bol o Brexit?27 Sep 201900:25:37

Ar ddiwedd wythnos gythyrblus ARALL yn San Steffan, ein gohebydd gwleidyddol ni, James Williams, sy’n holi’r arbenigwr cyfreithiol, Keith Bush, yr academydd o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Dr Huw Pritchard, a chyfarwyddwr cwmni ymchwil cymdeithasol, Ymchwil Ob3, Heledd Bebb, am oblygiadau dyfarniad y Goruchaf Lys ac ieithwedd Aelodau Seneddol.

Llond Bol o Brexit25 Sep 201900:16:10

Ar fore cythryblus arall yn San Steffan, Kate Crockett yn trafod y diweddara gyda gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Gareth Pennant, a’r sylwebyddion gwleidyddol Sebastian Giraud a Derfel Owen.

02 Gorffennaf: Dyfodol y Ceidwadwyr, a'r etholiad yn yr Alban02 Jul 202400:28:52

Yn y podlediad olaf cyn yr etholiad cyffredinol, cyn ymgynghorydd Boris Johnson, Guto Harri sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon. Ymgyrch y Ceidwadwyr a dyfodol y blaid yw rhai o’r pynciau o dan sylw. Mae golwg penodol hefyd yn cael ei rhoi i’r etholiad yn yr Alban ac argraffiadau'r ymgyrch dros y pum wythnos diwethaf.

Llond Bol o Brexit13 Sep 201900:24:14

Betsan Powys, Richard Wyn Jones a Teleri Glyn Jones sy'n cadw cwmni i Gwenllian Grigg i edrych yn ôl ar wythnos wleidyddol gythryblus arall...

Llond Bol o Brexit?06 Sep 201900:24:13

Kate Crockett, Guto Harri, Mared Gwyn a Vaughan Roderick sy’n trafod wythnos ddramatig.

Llond Bol o Brexit30 Aug 201900:26:37

Steffan Messenger yn cadeirio trafodaeth ar ddigwyddiadau’r wythnos yn San Steffan ar Brexit gyda Vaughan Roderick, yr Athro Richard Wyn Jones a Mared Gwyn

Y Dyn Newydd yn Rhif 10…25 Jul 201900:28:51

Kate Crockett, Vaughan Roderick, Richard Wyn Jones a Mared Gwyn sy’n trafod wrth i Boris Johnson setlo yn Downing Street.

Dosbarth '9910 May 201900:36:58

Dosbarth '99: Bethan Rhys sy’n hel atgofion gyda Dafydd Wigley, Alun Michael, Glyn Davies ac Eleanor Burnham am ddyddiau cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llond Bol o Brexit?05 Apr 201900:30:30

Trafod Wythnos arall o Brexit gyda James Williams, Richard Wyn Jones a Mared Gwyn.

Llond Bol o Brexit?29 Mar 201900:28:56

Ble nesaf i Brexit? James Williams (Gohebydd Brexit BBC Cymru), Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth), a Hedydd Phylip (Prifysgol Caerdydd) sy'n trafod.

Llond Bol o Brexit?22 Mar 201900:18:58

Ble nesaf i Brexit? James Williams, Cemlyn Davies a Dafydd ap Iago sy'n trafod.

Llond Bol o Brexit?15 Mar 201900:28:04

Podlediad arbennig: Ar ddiwedd wythnos hir o drafod a dadlau, ble nesaf i Brexit?

26 Mehefin: Y sgandal gamblo, a'i effaith ar yr ymgyrch26 Jun 202400:32:08

Faint o effaith mae honiadau o gamblo yn ei gael ar ymgyrch yr etholiad? Dyna brif ffocws Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones.

Sylw i ymgyrch Plaid Cymru, gyda dadansoddiad gan cyn aelod Cynulliad y Blaid, Nerys Evans. Ac mae sylw penodol hefyd yn cael ei rhoi i etholaethau'r de.

19 Mehefin: Maniffestos Y Blaid Lafur a Phlaid Cymru19 Jun 202400:37:29

Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod maniffestos y Blaid Lafur a Phlaid Cymru gan ystyried perthynas Llafur Cymru a'r blaid yn eangach ar lefel Brydeinig. Yn ymuno gyda'r ddau mae Owen John cyn ymgynghorydd arbennig i gyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i drafod tactegau Llafur yn yr ymgyrch hyd yma. Hefyd mae'r ddau yn dadansoddi yr ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr dros yr wythnos diwethaf, tactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol ac arwyddocad Reform UK yn lansio ei 'chytundeb' gyda'r bobl ym Merthyr Tudful.. Cyfle hefyd i roi sylw penodol i etholaethau'r Canolbarth a'r Gorllewin.

12 Mehefin: Etholaethau'r Gogledd12 Jun 202400:31:42

Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch etholiadol hyd yma, gan ganolbwyntio ar rai o etholaethau'r gogledd.

Llond Bol o Bledleisio25 Mar 202100:21:48

Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones sy’n cychwyn y ras i etholiad Senedd Cymru yng nghwmni Kate Crockett.

Brexit yn Berwi18 Dec 202000:24:59

Trafodaeth danbaid wrth i’r UE a llywodraeth y DU geisio taro bargen ar gytundeb masnach.

Tymor Newydd yn Dechrau18 Sep 202400:31:14

Gyda'r tymor seneddol newydd wedi dechrau mae Vaughan a Richard yn trafod yr hyn fydd ar yr agenda ym Mae Caerdydd a San Steffan. Maen nhw hefyd yn dadansoddi penodiadau Eluned Morgan i'w chabinet ar hyn mae'r penodiadau yn golygu i'r grŵp Llafur yn y Bae. Ac a hithau'n ddeng mlynedd ers refferendwm annibyniaeth yr Alban mae cyflwynydd Newyddion S4C, Bethan Rhys Roberts, yn ymuno gyda Vaughan a Richard i rannu ei hatgofion hi o'r cyfnod ac i drafod dyfodol yr SNP.

© My Podcast Data