Back
Explore every episode of the podcast Comisiynydd y Gymraeg
Dive into the complete episode list for Comisiynydd y Gymraeg. Each episode is cataloged with detailed descriptions, making it easy to find and explore specific topics. Keep track of all episodes from your favorite podcast and never miss a moment of insightful content.
| Title | Pub. Date | Duration | |
|---|---|---|---|
| Maniffesto Comisiynydd y Gymraeg – gwasanaeth iechyd a gofal clinigol | 05 Jan 2026 | 00:12:04 | |
Wrth i ni edrych ymlaen at etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2026 mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi cyfres o bodlediadau yn trafod ei maniffesto. Hwn yw’r trydydd yn y gyfres sydd yn trafod y maniffesto gan edrych ar flaenoriaeth benodol – gwasanaeth iechyd a gofal clinigol. Hanna Hopwood sydd yn trafod gyda Lowri Williams o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a Dr Catrin Hedd Jones o Brifysgol Caerwrangon sydd yn arbenigo ym maes dementia. | |||
| Maniffesto Comisiynydd y Gymraeg – Cynllunio Ieithyddol Cymunedol | 07 Dec 2025 | 00:21:04 | |
Wrth i ni edrych ymlaen at etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2026 mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi cyfres o bodlediadau yn trafod ei maniffesto. Hwn yw’r ail yn y gyfres sydd yn trafod y maniffesto gan edrych ar flaenoriaeth benodol. Hanna Hopwood sydd yn holi Lowri Williams o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, Myfanwy Jones o Fentrau Iaith Cymru a Catrin James o Urdd Gobaith Cymru. | |||
| Podlediad maniffesto Comisiynydd y Gymraeg | 06 Oct 2025 | 00:13:30 | |
Wrth i ni edrych ymlaen at etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2026 mae Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones yn trafod ei maniffesto a’r blaenoriaethau penodol sydd ynddo. Hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o bodlediadau fydd yn trafod y maniffesto felly cadwch olwg amdanynt dros y misoedd nesaf. | |||
| Eden a’r Gymraeg | 25 Nov 2024 | 00:26:37 | |
Yn y podlediad arbennig hwn i gyd-fynd ag ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg, mae Hanna Hopwood yn cael cwmni Non, Rachel ac Emma o’r grŵp Eden ac yn sgwrsio am eu profiadau nhw gyda’r iaith Gymraeg yn eu bywydau personol, ac yn eu gyrfaoedd. | |||
| Rho gynnig arni! | 15 May 2024 | 00:11:41 | |
Yn ein podlediad diweddaraf mae Mathew Thomas, Pennaeth Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg, yn sgwrsio gyda Hanna Hopwood am waith y tîm ac yn benodol am y Cynnig Cymraeg. Yn ymuno â nhw mae Harri Jones o gymdeithas adeiladu’r Principality. | |||
| Trywydd rheoleiddio i'r dyfodol | 15 Mar 2024 | 00:11:51 | |
Yn ein hail podlediad mae Osian Llywelyn, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, yn sgwrsio gyda Hanna Hopwood ac yn amlinellu ein dull rheoleiddio i'r dyfodol. | |||
| Blwyddyn gyntaf Comisiynydd y Gymraeg | 04 Dec 2023 | 00:13:17 | |
Wrth i Efa Gruffudd Jones ddod at ddiwedd ei blwyddyn gyntaf fel Comisiynydd y Gymraeg, mae hi'n sgwrsio gyda Hanna Hopwood, yn edrych yn ôl ar ei chyfnod cyntaf yn y swydd ac nodi rhai uchafbwyntiau, a’i gobeithion i'r dyfodol. | |||
© My Podcast Data · Independent project · Data from Apple & Spotify