Back
Explore every episode of the podcast Colli'r Plot
Dive into the complete episode list for Colli'r Plot. Each episode is cataloged with detailed descriptions, making it easy to find and explore specific topics. Keep track of all episodes from your favorite podcast and never miss a moment of insightful content.
| Title | Pub. Date | Duration | |
|---|---|---|---|
| Dominatrix | 17 Sep 2024 | 00:55:00 | |
Llyfr newydd Bethan Gwanas, trafod meddiannu diwylliannol (cultural appropriation), a ble mae'r lle gorau i wrando ar bodlediad Colli'r Plot? Ymddiheuriadau Heledd Cynwal! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Glutton - A.K Blakemore Ysgrifau Llenorion - gol. John Lasarus Williams The Story Spinner - Barbara Erskine Hi-Hon - gol. Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis Nice Racism - Robin Diangelo Tadwlad - Ioan Kidd Sunset - Jessie Cave The Satanic Mechanic – Sally Andrew Y Morfarch Arian - Eurgain Haf The Hoarder - Jess Kidd Madws - Sioned Wyn Roberts The Trees - Percival Everrett Ar Amrantiad - Gol Gareth Evans-Jones Cysgod y Mabinogi - Peredur Glyn | |||
| Yn Fyw o Babell Lên Eisteddfod Rhondda Cynon Taf | 10 Aug 2024 | 00:46:52 | |
Rhifyn arbennig o Colli'r Plot yn fyw o Babell Lên Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024. Trafod hanes ein 'Steddfod, gwychder Pontypridd, y fedal Daniel Owen, llyfrau da ni wedi darllen a mwy. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Doppelganger - Naomi Klein Hi/Hon - gol Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis Cân y Croesi - Jo Heyde How to ADHD - Jessica McCabe The Lost Bookshop - Evie Woods Y Fawr a'r Fach 2, Straeon O'r Rhondda - Siôn Tomos Owen 100 Records - Huw Stephens Y Cysgod yn y Coed - Bob Morris Mae gêm yn fwy na gêm - gol. Sioned Dafydd Camu - Iola Ynyr Cariad yw - Casi Wyn Madws - Sioned Wyn Roberts | |||
| Sgwrs Llwyd Owen | 23 Jan 2024 | 00:47:11 | |
Llwyd Owen yw'r gwestai diweddaraf ar Colli'r Plot wrth i Manon clywed am y nofel ddiweddaraf, Helfa. Pam mae Llwyd yn ysgrifennu? Beth yw'r dylanwadau arno? Sut mae creu nofelau tywyll llawn tensiwn? Sgwrs difyr a hwyliog. RHYBUDD: IAITH GREF! | |||
| Llyfrau'r Flwyddyn | 20 Dec 2023 | 00:59:38 | |
Trafod y llyfrau wnaethon ni mwynhau yn ystod y flwyddyn a cheisio creu ein rhestr Llyfr Y Flwyddyn. Sut mae cyfieithu i BT yn ennill 'kudos' a fel y disgwyl mae'r podlediad llawn hwyl yr wyl. Llyfrau 2023: Siân Llyfr Y Flwyddyn - Mari Emlyn Prophet Song - Paul Lynch Aled Y Bwthyn - Caryl Lewis And Away - Bob Mortimer Bethan Sut i Ddofi Coryn - Mari George Lessons in Chemistry - Bonnie Garmus Dafydd Sut i Ddofi Coryn - Mari George A Terrible Kindness - Jo Browning Wroe Manon Llyfr Y Flwyddyn - Mari Emlyn The Folklore of Wales: Ghosts - Delyth Badder, Mark Norman Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Sut i Ddofi Coryn - Mari George The Rich - Rachel Lynch Dathlu - Rhian Cadwaladr I Let You Go - Clare Mackintosh Cregyn ar y Traeth - Margaret Pritchard Dros fy mhen a nghlustiau - Marlyn Samuel A Little life - Hania Yanagihara Rhwng Bethlehem a’r Groes - Barry Archie Jones Pryfed Undydd - Andrew Teilo Y Cylch - Gareth Evans Jones The Christmas Guest - Peter Swanson Sian Phillips - Hywel Gwynfryn Gwreiddio - straeon byrion - amrywiol awduron A Christmas Carol - Charles Dickens Plant Annwfn - DG Merfyn Jones Alone - Kenneth Milligan | |||
| Beth yw pwrpas lansiad llyfr? | 30 Nov 2023 | 01:02:13 | |
Mae 'na wledd o lyfrau yn Colli'r Plot Tachwedd. Trafod y Rhinoseros yn yr ystafell, canmoliaeth ar gyfer Sut i Ddofi Corryn a beth yw pwrpas lansiad llyfr? Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Warehouse - Rob Hart Dros fy mhen a 'nglustia - Marlyn Samuel The Year of Yes - Shonda Rhimes The Darkness - Ragnar Jónasson The Mist - Ragnar Jónasson Tom's Midnight Garden - Philippa Pearce Gwreiddio - straeon byrion - amrywiol awduron Coblyn o Sioe - Myfanwy Alexander Bullet in the brain - Tobias Wolff (stori fer) I am Pilgrim - Terry Hayes. The Martian Chronicles & Dandelion Wine - Ray Bradbury Sut i Ddofi Corryn - Mari George Hiwmor Tri Chardi Llengar - Geraint H. Jenkins Unruly - David Mitchell The Sanatorium - Sarah Pearse Pryfed Undydd - Andrew Teilo O Glust i Glust - Llwyd Owen Darogan - Siân Llywelyn Isaac and the egg - Bobby Palmer Welsh Rugby: What Went Wrong - Seimon Williams How to Win Friends and Influence People - Dale Carnegie Cyfres Rwdlan - Angharad Tomos | |||
| Sgwrs Fflur Dafydd | 14 Nov 2023 | 00:31:38 | |
Dafydd Llewelyn sydd yn sgwrsio gyda Fflur Dafydd. Awdur sydd yn ysgrifennu nofelau ac ar gyfer y sgrin. Cawn glywed profiadau Fflur fel awdur, hanes The Library Suicides a 'tips' ar gyfer sgwennwyr newydd. | |||
| Hunan ofal wrth sgwennu | 26 Oct 2023 | 01:03:07 | |
Mae Manon wedi dychwelyd a dan ni'n mynd ar daith darllen o Rufain i Albania. Hunan ofal wrth sgwennu yw'r thema wrth i ni drafod sut yr ydyn yn edrych ar ôl ein gilydd trwy gyfnodau anodd. Mae 'na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The General of the Dead Army - Ismail Kadare Y Fawr a’r fach - Siôn Tomos Owen Pwy yw Moses John - Alun Davies Menopositif - amrywiol gyfranwyr Rhifyn cyntaf y cylchgrawn Hanes Byw Gladiatrix – Bethan Gwanas A World Without Email – Cal Newport Y Nendyrau – Seran Dolma The Island – Ragnar Jónasson Shade Garden – Beth Chatto Y Gwyliau - Sioned Wiliam The Folklore of Wales: Ghosts - Delyth Badder, Mark Norman Sêr y Nos yn Gwenu - Casia Wiliam Salem - Haf Llywelyn Paid a Bod Ofn - Non Parry | |||
| Cyfreithwyr a Chyfrolau'r Eisteddfod | 26 Sep 2023 | 00:54:31 | |
Be' da ni'n meddwl o gyfrolau'r Eisteddfod, Hallt gan Meleri Wyn James a Gwynt Y Dwyrain gan Alun Ffred? Mae 'na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Hallt – Meleri Wyn James Gwynt y Dwyrain – Alun Ffred Prophet Song – Paul Lynch Tender – Penny Wincer Menopause, the anthology – gol. Cherry Potts a Catherine Pestano Ro’n i’n arfer bod yn rhywun - Marged Esli Llygad Dieithryn - Simon Chandler Y Nendyrau - Seran Dolma The Ice Princess - Camilla Läckberg Confessions of a forty-something F**k up - Alexandra Potter No Plan B - Lee Child Powell - Manon Steffan Ros Un Noson - Llio Elain Maddocks Mwy O Helynt - Rebecca Roberts Pwy Yw Moses John - Alun Davies Merched Peryglus - Angharad Tomos, Tamsin Cathan Davies | |||
| Yn Fyw o'r Babell Lên | 13 Aug 2023 | 00:52:54 | |
Rhifyn arbennig o Colli'r Plot wedi recordio o flaen gynulleidfa yn y Babell Lên ar faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd. Rhybudd: Iaith Gref Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Lost Boy - Camilla Lackberg The Spider - Lars Kepler Gwynt y Dwyrain - Alun Ffred My Cat Yugoslavia - Pajtim Statovci, cyfieithwyd gan David Hackston Ddoi Di Dei, Llên Gwerin Blodau a Llwynau - Mair Williams Poems from the Edge of Extinction _ gol. Chris McCabe The Go-Between – Osman Yousefzada YNaill yng Ngwlad y Llall – Seosamh Mac Grianna a David Thomas (golygydd a chyfieithydd – Angharad Tomos) Mothers Don't – Katixa Agirre cyfieithwyd gan Kristin Addis A'r ddaear, a’r ddim - Siân Melangell Dafydd The Prophet and the idiot - Jonas Jonasson Liverpool 1970s - Martin MayerHallt - Meleri Wyn James Whaling - Nathan Munday | |||
| Deryn Brown a'r fedal Carnegie | 19 Jul 2023 | 01:03:51 | |
Gwobr arall i ychwanegu at gabinet tlysau Manon, canmoliaeth ar gyfer Llyfr Y Flwyddyn, pwy yw'r awdur Deryn Brown? Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi. Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Blue Book Of Nebo - Manon Steffan Ros Lessons in Chemistry - Bonnie Garmus Y Clerwr Olaf – Twm Morys Llanw Braich,Trai Bylan – Huw Erith Brokeback Mountain – Annie Proulx Y Gwyliau - Sioned Wiliam Y trên Bwled Olaf o Ninefe - Daniel Davies Confessions of a forty-something f**k up - Alexandra Potter Control Your Mind - Derren Brown Llyfr y Flwyddyn - Mari Emlyn The Library Suicides - Fflur Dafydd Surviving to Drive - a year inside Formula 1 - Guenther Steiner Pumed Gainc Y Mabinogi - Peredur Ap Glyn Nico - Leusa Fflur Llewelyn Drift - Caryl Lewis | |||
| Be ydy compulsive yn Gymraeg? | 21 Jun 2023 | 00:56:26 | |
Gwestai arbennig wrth i fam Bethan ymddangos ar y podlediad. Beth ydy compulsive yn Gymraeg? Byddwch yn ofalus wrth wrando ar e-lyfrau yn y car! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Unlawful Killings - Wendy Joseph KC Mochyn Tynged - Glenda Carr Y Trên Bwled Olaf o Ninefe - Daniel Davies A Terrible Kindness - Jo Browning Wroe Sêr y nos yn gwenu - Casia Wiliam Mwy o Helynt - Rebecca Roberts Bring up the bodies - Hilary Mantel Hawk Quest a Imperial Fire - Robert Lyndon Salem - Haf Llewelyn The Fire Eaters - David Almond The Moth Catcher - Ann Cleeves The Unlikely Adventures of the Shergill Sisters - Balli Kaur Jaswal Gwlad yr Asyn - Wyn Mason Child in the Forest - Winifred Foley Llythyr Noel - Dal Y Post - Noel Thomas Mountain Punk - John Dexter Jones http://www.johndexterjones.com/ Y Bwthyn - Caryl Lewis Cai - Eurig Salisbury Rhedeg i Parys - Llwyd Owen | |||
| Chwadan Mewn Potel | 12 May 2023 | 01:00:46 | |
Bethan yn datgelu prosiect Chwadan Mewn Potel, pwysigrwydd llyfrau da ar ward mewn ysbyty, silff lyfrau (rhyfedd) Dafydd, a be mae pawb wedi bod yn sgwennu. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Actores a Mam - Sharon Morgan Croesi Llinell - Mared Lewis Salem - Haf Llewelyn Hen Ferchetan - Ewan Smith No Holds Barred - Lyndon Stacey Needle - Patrice Lawrence How the Light Gets In - Katya Balen Gwlad yr Asyn - Wyn Mason ac Efa Blosse Mason Milionêrs - Marlyn Samuel Cwcw - Marlyn Samuel Cicio'r Bwced - Marlyn Samuel The Sparsholt Affair Alan Hollinghurst Llyfr y Flwyddyn - Mari Emlyn Moon Jellyfish can Barely Swim - Ness Owen Arlwy'r Sêr – Angharad Tomos Romeo and Julie - Gary Owen Grav a Carwyn, Dwy Sioe Un Dyn - Owen Thomas, addasiadau Jim Parc Nest Sudden Death - Rachel Lynch I'r Hen Blant Bach - Heiddwen Tomos | |||
| Doctor Pwy? | 25 Jul 2024 | 01:05:03 | |
Y podlediad meddygol Cymraeg wrth i ni ddarganfod bod yna tri doctor bellach ar y podlediad. Llongyfarchiadau i'r doctor newydd, Manon. Mae darllen llyfrau yn dda i'ch iechyd. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Cysgod y Mabinogi - Peredur Glyn Recipes for love and murder - Sally Andrews Madws - Sioned Wyn Roberts It Comes To Us All/Fe Ddaw Atom Ni Oll - Irram Irshad Camu - Iola Ynyr Y Bocs Erstalwm - Mair Wynn Hughes Ultra-Processed People - Chris van Tulleken Jac a'r Angel - Daf James Gemau - Mared Lewis Pris Cydwybod T.H.Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr - Bleddyn Owen Huws | |||
| Cloriau llyfrau gyda Siôn Tomos Owen | 14 Apr 2023 | 00:39:39 | |
Rhifyn arbennig lle mae Aled yn trafod cloriau llyfrau gyda’r cyflwynydd, sgwenwr a dylunydd Siôn Tomos Owen. Mae Siôn wedi creu cloriau ar gyfer nifer o awduron yn cynnwys Bethan a Dafydd ac mae’n obsessed gyda chloriau llyfrau. Be sy'n neud clawr da? Lliwiau, fonts, delweddau a phob dim sy’n denu eich sylw at lyfr. | |||
| Canmoliaeth, llyfrau clawr caled ac awgrymiadau gan “selebs” | 16 Mar 2023 | 00:57:35 | |
Canmoliaeth gan Dafydd, y broblem o ddarllen llyfrau clawr caled yn y gwely, awgrymiadau llyfrau gan “selebs”, a’r diffiniad Cymraeg o “puff piece”. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Y Stori Orau - Lleucu Roberts Chwant - Amrywiol The Library Suicides - Fflur Dafydd Lessons in Chemistry - Bonnie Garmus Real Tigers (Cyfres Slough House) - Mick Herron Braw Agos - Sonia Edwards Y Ferch o Aur - Gareth Evans Breuddwyd Roc a Rôl? - Cleif Harpwood Hagitude – Sharon Blackie The Forest of Wool and Steel – Natsu Miyashita Paid a bod ofn – Non Parry Coraline – Neil Gaiman The Scorch Trials – James Dasher Cat Lady – Dawn O'Porter The Artists and Writers Year Book 2022 Y Daith Ydi Adra - John Sam Jones Cree - The Rhys Davies Short Story Award Anthology - gol. Elaine Canning The Boy, the Mole, the Fox and the Horse - Charlie Mackesy And Away - Bob Mortimer The Lost girls - Kate Hamer The Promise - Damon Galgut I am not your perfect Mexican daughter - Erika L Sanchez Twll Bach Yn Y Niwl - Llio Maddocks | |||
| Sgwrs Ddifyr Ddeallus Mewn Tafarn | 08 Feb 2023 | 00:47:39 | |
Sgwrs Ddifyr Ddeallus Mewn Tafarn... ar ôl pymtheg peint. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Maze Runner - James Dasher Llyfr Bach y Tŷ Bach - gol Bethan Gwanas Minffordd: Rhwng Dau Draeth – gol Aled Ellis a Nan Griffiths Shuggie Bain – Douglas Stuart A Thousand Ships - Natalie Haynes The Boat - Clara Salaman Bwrw Dail - Elen Wyn Darogan - Siân Llywelyn Llyfr y Flwyddyn - Mari Emlyn Rebel Skies - Ann Sei Lin And Away … - Bob Mortimer A Terrible Kindness - Jo Browning Wroe Witches, James I and the English Witch-Hunts - Tracy Borman Calum's Road - Roger Hutchinson Girl, Woman, Other - Bernardine Evaristo Y Llong - Irma Chilton Gwirionedd - Elinor Wyn Reynolds My Life as an Alphabet - Barry Jonsberg The Illness Lesson - Clare Beams Chwant - Amrywiol The Midnight Library - Matt Haig Normal People - Sally Rooney Dark Pines - Will Dean | |||
| Faint O Lyfrau Da Ni'n Darllen Mewn Blwyddyn? | 13 Jan 2023 | 01:09:57 | |
Blwyddyn newydd dda a chroeso i bennod gyntaf 2023. Trafod faint o lyfrau da ni'n darllen mewn blwyddyn, pwysigrwydd ac apêl cloriau llyfrau ac wrth gwrs be da ni wedi bod yn darllen dros y mis diwethaf. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Satsuma Complex - Bob Mortimer Yn Fyw Yn Y Cof - John Roberts How To Kill Your Family - Bella Macckie Snogs, Secs, Sens, Sgen i'm syniad - Gwenllian Ellis Cwlwm - Ffion Enlli Gwlad yr Asyn - Wyn Mason & Efa Blosse Mason Anwyddoldeb - Elinor Wyn Reynolds Rhwng Cwsg ac Effro - Irma Chilton Dark Pines - Will Dean Llyfr y Flwyddyn - Mari Emlyn. O Glust i Glust – Llwyd Owen Wintering – Katherine May The Suitcase Kid – Jaqueline Wilson Darogan –Sian Llywelyn Unnatural Causes - Dr Richard Sheperd Ail Drannoeth - John Gwilym Jones Jude the Obscure - Thomas Hardy Girl, Woman, Other - Bernardine Evaristo Rhyngom - Sioned Erin Hughes Bwrw Dail - Elen Wyn | |||
| Sgen I'm Syniad... am 'dolig | 15 Dec 2022 | 00:57:26 | |
Trafod llyfrau da ni wedi bod yn darllen a beth sydd ar ein rhestr ar gyfer Siôn Corn. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Rhedeg i Parys - Llwyd Owen O Glust i Glust - Llwyd Owen House Arrest - Alan Bennett Sgen i'm syniad - Gwenllian Ellis Sblash! - Branwen Davies. Without warning and only sometimes- Kit de Waal Six Foot Six - Kit de Waal Llyfr Bach y Tŷ Bach - gol. Bethan Gwanas Rhwng Cwsg ac Effro - Irma Chilton Llyfrau Point Horror - R.L. Stine Jude the Obscure - Thomas Hardy Mori - Ffion Dafis Twll Bach Yn Y Niwl - Llio Maddocks Better Off Dead - Lee Child Gwlad Yr Asyn - Wyn Mason / Efa Blosse Mason Atgofion drwy Ganeuon: Gweld Sêr - Siân James The Satsuma Complex - Bob Mortimer | |||
| Colli'r Plot ym Mhatagonia | 08 Nov 2022 | 00:50:45 | |
Croeso i bennod mis Tachwedd. Mae Bethan ar wyliau ym Mhatagonia ac yn cael gwell wifi na rhai o'r criw yng Nghymru. Esyllt Nest Roberts sydd yn ymuno efo Dafydd, Bethan, Manon a Siân i roi flas ar fywyd awdur Cymraeg ym Mhatagonia. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Sgen i'm syniad: Snogs, Secs a Sens - Gwenllian Ellis The Lives of Brian - Brian Johnson Wonder - R J Palacio Rhyfeddod - Eiry Miles Dry - Augusten Burroughs Rhyngom - Sioned Erin Hughes Anthropology - Dan Rhodes How to be an ex-footballer - Peter Crouch | |||
| Llyfrau, llyfrau, a mwy o lyfrau | 14 Oct 2022 | 00:49:47 | |
Dan ni wedi bod yn darllen dipyn dros y mis diwethaf ac yn awyddus i rannu rhai o'r llyfrau gyda chi cyn i Bethan fynd ar antur i Batagonia ac anghofio'r llyfrau mae eisiau trafod. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Capten - Meinir Pierce Jones Rhyngom - Sioned Erin Hughes Sgen i'm syniad - Snogs, Secs a Sens - Gwenllian Ellis The Last Party - Clare Mackintosh Remarkable Creatures - Tracy Chevalier The Girl With The Louding Voice - Abi Daré Y Pump: Tim - Elgan Rhys gyda Tomos Jones Tami - Mared Roberts gyda Ceri-Anne Gatehouse Aniq - Marged Elen Wiliam gyda Mahum Umer Robyn - Iestyn Tyne gyda Leo Drayton Cat - Megan Angharad Hunter gyda Maisie Awen The Death Ray: The Secret Life of Harry Grindell Matthews - Jonathan Foster Boris Johnson, The Rise and Fall of a Troublemaker at Number 10 - Andrew Gimson Chwedlau cymru a'i Straeon Hud a Lledrith - Claire Fayers (addasiad Siân Lewis) Hergest - Geraint Evans Wranglestone - Darren Charlton Activist - Louisa Reid Cyfrinach - Betsan Morgan Tydi Bywyd Yn boen - Gwenno Hywyn | |||
| Y Bocs Llyfrau | 08 Sep 2022 | 00:59:35 | |
Y bocs llyfrau ar ddiwedd y dreif, mae Bethan yn trefnu recce i Batagonia ac mae Aled yn datgelu trefn unigryw o ddarllen llyfrau! Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Curiad Gwag - Rebecca Roberts Y Defodau - Rebecca Roberts The Surface Breaks - Louise O'Neill Utterly Dark - Phillip Reeve Llawlyfr Y Wladfa - Delyth MacDonald Y Wladfa Yn Dy Boced - Cathrin Williams Crwydro Meirionnydd - T I Ellis Capten - Meinir Pierce Jones Chocky - John Wyndham Mori - Ffion Dafis Pridd - Llŷr Titus The Last Party - Calire Mackintosh Shadow Sands - Robert Bryndza Mr Jones The Man Who Knew Too much - Martin Shipton Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru - W Gwyn Lewis Diolch i Siôn Tomos Owen am y llun anhygoel o'r pump ohonnom. | |||
| Eisteddfod, Gwobrau a beirniaid | 09 Aug 2022 | 00:43:44 | |
Trafod gwobrau, beirniadaethau a phrofiadau Eisteddfod Tregaron 2022. Diolch i Siôn Tomos Owen am y llun anhygoel o'r pump ohonnom. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Pridd - Llŷr Titus Frankenstein - Mary Shelley Dracula - Bram Stoker Capten - Meinir Pierce Jones Modryb Lanaf Lerpwl - Meinir Pierce Jones Five Minutes of Amazing, My Journey Through Dementia - Chris Graham Hedyn / Seed - Caryl Lewis Am I Normal Yet - Holly Bourne Stryd Y Gwystion - Jason Morgan Y Pump - Elgan Rhys, Tomos Jones, Mared Roberts, Ceri-Anne Gatehouse, Iestyn Tyne, Leo Drayton, Marged Elen Wiliam, Mahum Umer, Megan Angharad Hunter, Maisie Awen Manawydan Jones: Y Pair Dadeni - Alun Davies Asiant A: Her LL - Anni Llŷn Nico - Leusa Fflur Llewelyn | |||
| Yn Fyw o Sesiwn Fawr: Cofio Marion Eames a mwy | 19 Jul 2022 | 00:55:17 | |
Rhifyn arbennig o bodlediad Colli'r Plot yn fyw o Dŷ Siamas yn Sesiwn Fawr Dolgellau. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Ocean at the end of the lane - Neil Gaiman A Voice Coming from then - Jeremy Dixon Caniadau'r Ffermwyr Gwyllt - Sam Robinson Don't Ask About My Genitals - Owen J Hurcum The Stories of my life, James Patterson - James Patterson Lloerig - Geraint Lewis The Wonderful Story of Henry Sugar - Roald Dahl Un noson - Llio Elain Maddocks Diffodd y golau, -Manon Steffan Ros Samsara - Sonia Edwards Manawydan Jones Y Pair Dadeni - Alun Davies Hedyn - Caryl Lewis Dathlu - Rhian Cadwaladr Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales - Darren Chetty, Grug Muse, Hanan Issa, Iestyn Tyne Bedydd Tân - Dyfed Edwards Asiant A - Anni Llyn Y Stafell Ddirgel - Marion Eames I Hela Cnau - Marion Eames Y Ferch Dawel - Marion Eames | |||
| Y Goeden | 20 Jun 2024 | 00:56:57 | |
Mae criw Colli'r Plot wedi colli'r plot! Trafod bob dim dan haul yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd, Gŵyl Y Gelli, a llyfrau (ond dim gymaint ag arfer). Dafydd yn datgelu ei hoffter am gofleidio coed ac yn ddatgelu noddwr newydd Colli'r Plot. Rhowch gwtsh i goeden. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Trigo - Aled Emyr Homegoing - Yaa Gyasi The Wall – Marlen Haushofer (cyfieithiad Shaun Whiteside) Tir y Dyneddon - E. Tegla Davies Yellowface - Rebecca F. Kuang Arwana Swtan a’r Sgodyn Od - Angie Roberts a Dyfan Roberts Camu - Iola Ynyr Demon Copperhead - Barbara Kingsolver How to Read A Tree - Tristan Gooley | |||
| Cymryd Meddiant O Ddiwylliant / Cultural Appropriation | 27 May 2022 | 01:01:03 | |
Mae'r 5 ohonom ni yn gyffrous am y llyfrau dan ni wedi darllen ac mae Manon wedi ail-ddarganfod ei mojo darllen. Sgwrs ddifyr wrth i ni drio cael term Cymraeg am Cultural Appropriation yn y Gymraeg. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: 5ed Gainc y Mabinogi - Peredur Glyn Swansong - Jill Lewis Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands - Tony Bianchi Ras Olaf Harri Selwyn - Tony Bianchi Twll Bach Yn Y Niwl - Llio Maddocks Four Thousand Weeks - Oliver Burkeman Ysbrydion - Elwyn Edwards 5, Stryd Y Bont - Irma Chiton Run Rose Run - Dolly Parton a James Patterson The Island - Ragnar Jonasson Prawf Mot - Bethan Gwanas Cries Unheard: The Story of Mary Bell - Gitta Sereny | |||
| Sgwrs Megan Angharad Hunter | 10 May 2022 | 00:31:54 | |
Dafydd Llewelyn sydd yn sgwrsio gyda Megan Angharad Hunter. Awdur y nofel Tu ôl i'r Awyr, enillydd gwobr Llyfr Y Flwyddyn 2021. | |||
| Defaid, Cathod, Cwn a Sgwennu Llyfrau Plant | 29 Apr 2022 | 01:09:50 | |
Ceisio recordio pennod arall o Colli'r Plot wrth i Bethan Gwanas rhedeg ar ôl defaid a chath wyllt Siân Northey ceisio fod yn rhan o'r podlediad. Trafod llwyth o lyfrau, sgwennu llyfrau plant a llawer mwy. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Prawf MOT - Bethan Gwanas Ystoriau Heddiw - T.H. Parry Williams A Brief History Of Time - Stephen Hawking Dal Y Mellt - Iwan “Iwcs” Roberts Brodorion - Ifan Morgan Jones Manifesto - Bernadine Evaristo Station Eleven - Emily St John Mansel Perthyn I’r Teulu - John Gruffydd Jones Cadi Goch A’r Ysgol Swynion - Simon Rodway Gabriella - John Roberts Madhouse At The End Of The Earth - Julian Sanction Ga’ i Fyw Adra - Haf Llywelyn The Grey King - Susan Cooper Shuggie Bain - Douglas Stuart Crazy House - James Patterson Run Ruby Run - Dolly Parton a James Patterson Cofiwch Olchi Dwylo a Lloerig - Geraint Lewis Hostage - Clare Mackintosh | |||
| Losing The Plot | 15 Mar 2022 | 00:58:28 | |
Croeso i bennod newydd o Losing The Plot gan lais Radio 4 Dafydd Llewelyn. Darllen llyfrau mewn unrhyw iaith er pleser, trafod llyfrau dan ni wedi mwynhau, darganfod ein llyfrau ar Good Reads, canmol sgwrs Siân gyda John Roberts a phenblwydd hapus i ni! Pwy fydd Dafydd yn holi erbyn y podlediad nesaf? Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Tu Ôl I'r Awyr - Megan Angharad Hunter Aaron Ramsey A Fi - Manon Steffan Ros Heb Law Mam - Heiddwen Tomos Y Gwynt Braf - Gwyn Parry Dod nôl at fy nghoed - Carys Eleri Ysbrydion - Elwyn Edwards The Lamplighters - Emma Stonex Ymbapuroli - Angharad Price May We Be Forgiven - A.M. Homes Our house is on fire - Greta Thunberg, Svante Thunberg, Malena Ernman Beata Ernman Yn Fyw yn y Cof - John Roberts The Illustrated Mum - Jaqueline Wilson | |||
| Sgwrs gyda'r awdur John Roberts | 03 Mar 2022 | 00:37:38 | |
Dyma Siân Northey yn sgwrsio gyda'r awdur John Roberts. Awdur y nofelau Gabriela ac Yn Fyw Yn Y Cof. | |||
| Trefnu ein silfoedd llyfrau | 01 Feb 2022 | 00:57:16 | |
Sut mae mynd ati i gael trefn ar ein silffoedd llyfrau? Podlediad Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Mae 'na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod Yn Fyw Yn Y Cof - John Roberts The Gilded Ones - Namina Forna The Great Godden - Meg Rosoff Bedydd Tân - Dyfed Edwards Spark! How exercise will improve the performance of your brain - Dr John J Ratey ac Eric Hagerman Mazel Tov - JS Margot On Writing - Stephen King 100 Cymru (Y Mynyddoedd A Fi) - Dewi Prysor Sillver Sparrow - Tayari Jones Helynt - Rebecca Roberts I Am Thunder - Muhammad Khan Y Gwynt Braf - Gwyn Parry | |||
| Sgwrs Geraint Vaughan Jones | 22 Dec 2021 | 00:31:51 | |
Dyma Manon Steffan Ros yn sgwrsio gyda un o'i hoff awduron Geraint Vaughan Jones am y nofel Niwl Ddoe. Mae'r criw yn trafod y nofel yn y bennod Nadolig, Niwl Ddoe a Gadael Lenin. | |||
| Nadolig, Niwl Ddoe a Gadael Lenin | 15 Dec 2021 | 01:07:18 | |
Croeso i barti Nadolig Colli’r Plot! Trafod pa lyfrau ydyn ni eisiau gan Siôn Corn, Niwl Ddoe gan Geraint Vaughan Jones a Dafydd yn ceisio bod fel Lenin. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod Nadolig, Pwy a Wyr? - Amrywiol Paid â Bod Ofn - Non Parry Hela - Aled Hughes Mori - Ffion Dafis Dod 'Nôl at fy Nghoed - Carys Eleri Yn Fyw yn y Cof - John Roberts 100 Cymru - Y Mynyddoedd a Fi - Dewi Prysor Being Mortal - Atul Gawande Hello Friend We Missed You - Richard Owain Rowlands The Other passenger - Louise Candleish The Day That Never Comes - Caimh McDonnell Bedydd Tân - Dyfed Edwards Brodorion - Ifan Morgan Jones Ar Daith Olaf - Alun Davies Niwl Ddoe - Geraint Vaughan Jones Eat. Sleep. Rage. Repeat. - Rebecca Roberts I Am Thunder - Muhammad Khan Lying ways - Rachel Lynch The Song that Sings Us - Nicola Davies A Leviathan - Philip Hoare | |||
| Sgwrs Rocet Arwel Jones | 01 Dec 2021 | 00:30:40 | |
Roedd Aled yn awyddus i ddysgu mwy am waith Cyngor Llyfrau Cymru. Wrth i'r cyngor dathlu penblwydd yn 60 cafodd sgwrs gyda Arwel Jones (Rocet), Pennaeth Datblygu Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru . | |||
| Pum Diwrnod a Phriodas a Phenblwydd | 19 Nov 2021 | 01:01:40 | |
Croeso i 10fed rhifyn o bodlediad Colli’r Plot. Mae’r bennod yma yn dathlu pen-blwydd y Cyngor Llyfrau yn 60. Byddwn yn trafod Pum Diwrnod a Phriodas gan Marlyn Samuel ac yn cael hanes joli llenyddol cyntaf Manon i Barcelona. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod Less is More - Jason Hickel The Ladies of Llangollen – Elizabeth Mavor Bachgen Bach o Fryncoch - Ieuan Parry Piranesi - Susanna Clarke. Ar Daith Olaf - Alun Davies. O Hedyn i Ddalen - Dathlu'r Cyngor Llyfrau yn 60. Y Stori Orau, Lleucu Roberts. Happiness and Tears, The Ken Dodd Story - Louis Barfe C’mon Midffild, Stori Tîm o Walis - Ioan Roberts The Order of Time - Carlo Rovelli Out in the Open - Jesùs Carrasco Merch Y Gwyllt - Bethan Gwanas None So Blind - Alis Hawkins Pum Diwrnod a Phriodas - Marlyn Samuel | |||
| Blydi Selebs / Diolch Selebs | 03 Jun 2024 | 00:23:45 | |
Rhifyn arbennig o bodlediad Colli'r Plot wrth i'r 5 ohonom ymateb i erthygl yn yr Elysian yn sôn am wariant y 5 cwmni cyhoeddi mawr Saesneg. Y consensws, Ni’n lwcus ein bod ni’n Gymry Gymraeg yn sgwennu yn Gymraeg. Darllenwch yr erthygl yma https://www.elysian.press/p/no-one-buys-books | |||
| Sgwrs Lleucu Fflur Jones | 28 Oct 2021 | 00:18:34 | |
Aeth Bethan Gwanas draw i Benllyn i recordio sgwrs gyda Lleucu Fflur Jones, awdur y nofel RYC. Roedden ni gyd wedi gwirioni gyda'r nofel. | |||
| O gloriau seicadelig i sŵn buwch | 22 Oct 2021 | 00:55:12 | |
Cloriau seicadelig, sŵn buwch, a chyflwyniad bythgofiadwy dros Zoom. Podlediad arall llond llyfrau a sgyrsiau am sgwennu. Mae 'na lot o chwerthin ac ambell ddarn dwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod Glas a Gwyrdd - Eiry Miles Plant Annwfn - DG Merfyn Jones Pantywennol - Ruth Richards I Am Thunder - Muhammad Khan Ryc - Lleucu FFlur Jones Y Dydd Olaf - Owain Owain Eat, Sleep, Rage, Repeat - Rebecca Roberts Niwl Ddoe - Geraint V. Jones Gwrach Y Gwyllt - Bethan Gwanas The Salt Path - Raynor Winn The Day of the Triffids - John Wyndham Salt - Catrin Kean Mori - Ffion Dafis | |||
| Be ‘dan ni’n ddarllen? | 17 Sep 2021 | 00:47:01 | |
Dan ni nôl ar ôl cael saib dros yr haf ac mae ‘na ddigonedd i'w drafod. Llond pod o lyfrau, gwobrau, straeon spwci, a chnoc o’r bedd ar ddrws Bethan. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod Storiau'r Dychymyg Du - Geraint Vaughan Jones Straeon i Godi Gwallt - Irma Chilton Tu ôl i'r awyr - Megan Hunter Robyn - Iestyn Tyne a Leo Drayton Cat - Megan Hunter a Maisie Awen Farenheit 451 - Ray Bradbury Gavi - Sonia Edwards Hannah-Jane - Lleucu Roberts Y Stori Orau - Lleucu Roberts Belonging - Michelle Obama Mefus Yn Y Glaw - Mari Emlyn Eat. Sleep. Rage. Repeat - Rebecca Roberts Ryc - Lleucu Fflur Jones Y Daith Ydi Adra - John Sam Jones Lark - Anthony Mc Gowan, The Shark Caller - Zillah Bethel A Whisper of horses - Zillah Bethel Where The Crawdads Sing - Delia Owens Hen Bethau Anghofiedig - Mihangel Morgan Hwdi ac Anji - Gareth F Williams Helynt - Rebecca Roberts Gwrach y Gwyllt - Bethan Gwanas Merch y Gwyllt - Bethan Gwanas Yn Y Ty Hwn - Siân Northey Llechi - Manon Steffan Ros Johnny, Alpen a Fi - Dafydd Llewelyn | |||
| Pennod y Sesiwn Fawr | 17 Jul 2021 | 00:43:57 | |
Bydd y criw yn trafod pa mor bwysig yw lleoliad mewn nofel neu stori, gyda phwyslais arbennig ar Feirionnydd gan mai yn fanno mae'r Sesiwn, a'r Sesiwn sydd wedi ein gwadd ni i falu awyr y tro yma. Bydd rhai o selogion y Sesiwn wedi gyrru cwestiynau ymlaen llaw. Rhai call, gobeithio... | |||
| Pwysigrwydd siopau llyfrau | 28 May 2021 | 01:01:16 | |
Yn y rhifyn yma yr ydym yn trafod pwysigrwydd siopau llyfrau i ni fel awduron a sut mae mynd ati i hyrwyddo ein nofelau. Sut mae'r Steddfod wedi dylanwadu ar ein sgwennu, ac yr ydym yn ateb cwestiwn gan Casia Williiam am ein hoff awduron Saesneg. | |||
| Jolis llenyddol ac adolygu llyfrau | 29 Apr 2021 | 00:49:19 | |
Y tro yma, mi fyddwn ni’n trafod: jolis llenyddol, adolygu llyfrau pobl dach chi’n eu nabod, neu o leia’n nabod eu neiniau; pam ei bod hi gymaint haws prynu llyfrau Saesneg ac ydi Kath Jones Pobol y Cwm yn rhy ryff i brynu cyfrol y Fedal Ryddiaith? Mi fyddwn ni hefyd yn trio ateb rhai o’r cwestiynau dach chi wedi eu gyrru atan ni. Daliwch ati i’w gyrru nhw beth bynnag. Dan ni’n siŵr o’u hateb nhw rhyw ben. Mi naethon ni ddechre efo’r ateb roedd Bethan i ar dân i’w glywed, sef: ydyn nhw’n galw tumbleweed yn cabej bach ym Mhatagonia neu beidio? | |||
| Dylanwadau a chwestiynau call | 16 Apr 2021 | 00:50:39 | |
Croeso i bennod 4 Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Yn y bennod yma yr ydym yn trafod y nofelau sydd wedi dylanwadu arnom ni, syrthio mewn cariad efo ein hoff awduron, ac yn clywed be' di’r term mae pobol Patagonia yn defnyddio ar gyfer 'tumbleweed'. Mae Bethan ac Aled yn cymharu cyfarfod Stephen King ac yr ydym yn ateb rhai o'ch cwestiynau chi. | |||
| Golygyddion | 02 Apr 2021 | 00:50:41 | |
Dyma drydedd bennod Colli’r Plot gyda Siân Northey, Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn a Manon Steffan Ros. Yn y bennod yma, er mawr syndod i bawb, mae Bethan Gwanas yn dyfynnu o'r Beibl. Mae Manon yn parhau i synnu efo sawl gair mae hi'n gallu ei sgwennu mewn diwrnod, ac mae Dafydd yn dal ati i fod yr hyn nath Gwyn Siôn Ifan ei ddisgrifio fel ‘yr hen Dafydd Llewelyn ar ei ore'. Mae’r pedwar yn ateb cwestiynau gan Seren Dolma, Anni Llŷn, a Rebecca Roberts. | |||
| Teipio rhyddiaith, sgwennu barddoniaeth | 23 Mar 2021 | 00:44:25 | |
Croeso i ail bennod Colli'r Plot – sef podlediad gyda'r sgwennwyr – Manon Steffan Ros, Siân Northey, Bethan Gwanas a Dafydd Llewelyn. Yn y bennod hon 'da ni'n trafod strwythur a sut ma' rywun yn mynd ati i 'sgwennu eu stwff. Buom ni'n trafod plot a chymeriadau, a pha 'run sydd bwysicaf, ynghyd a sut 'da ni'n mynd ati i greu'n cymeriadau, gyda Manon yn cynnig sgŵp rhyfeddol i ni ac yn cyfaddef bod gwerthu pobl yn parhau i ddigwydd ym marchnad Machynlleth hyd heddiw. Fuodd Siân yn trio egluro'r gwahaniaeth sylfaenol rhwng rhyddiaith a barddoniaeth tra bod Gwanas dal i ddyfynnu pobl glyfar gan gyffesu ei bod efo soft-spot am Hemingway. | |||
| Pam dan ni’n sgwennu | 12 Mar 2021 | 00:51:44 | |
Croeso i bodlediad Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Siân Northey, Dafydd Llewelyn a Manon Steffan Ros. Dan ni’n mynd i fwydro am sgwennu a llyfrau a bob dim dan haul, a dan ni’n mynd i drio cael testun i bob podlediad, ond nabod ni, mi fyddan ni’n mynd ar gyfeiliorn ac yn mynd i gyfeiriadau cwbl annisgwyl ac yn deud pethau doedden ni’m wedi bwriadu eu deud o gwbl. Y testun cynta' - pam dan ni’n sgwennu yn y lle cynta’ a be sy’n ein hysbrydoli ni. Diolch i Bandicoot am gael defnyddio'r gân wych O Nefoedd! ar gyfer cerddoriaeth y podlediad a diolch i’r Cyngor Llyfrau am wneud y podcast yma’n bosib a helpu ni i Golli’r Plot. | |||
| Y Sioe Ffasiwn | 09 May 2024 | 00:59:25 | |
Dyma bodlediad newydd sy'n drafod ffasiwn gan griw Colli'r Plot. Trafod Gŵyl lenyddol Llandeilo, Gŵyl Crime Cymru, ffasiwn a chlustdlysau Gladiatrix, a llwyth o lyfrau. Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Y Brenin, y Bachgen a'r Afon - Mili Williams Eigra - Eigra Lewis Roberts We need new names - NoViolet Bulawayo Fools and Horses - Bernard Cornwell Pen-blwydd Hapus? - Ffion Emlyn Blas y môr - John Penri Davies Y Castell ar y Dŵr - Rebecca Thomas The One Hundred Years of Lenni and Margo - Marianne Cronin Parti Priodas - Gruffudd Owen Ro’n i’n arfer bod yn rhywun - Marged Esli Not That I’m Bitter - Helen Lederer Coblyn o Sioe - Myfanwy Alexander Cerdded y palmant golau - Harri Parri Drew, Moo and Bunny, Too - Owain Sheers Ten Steps to Nanette - Hannah Gadsby The Rabbit Back Literature Society - Pasi Ilmari Jääskeläinen Fall Out - Lesley Parr | |||
| Colli'r Plot yn dod yn fuan | 02 Mar 2021 | 00:02:06 | |
Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi. Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Diolch i'r Cyngor Llyfrau am wneud y podcast yma’n bosib a'n helpu ni i Colli'r Plot. Ac yn olaf diolch i Bandicoot am ddefnyddio'r trac O Nefoedd! ar gyfer y podlediad, mwynhewch! | |||
| What The Blazes! | 10 Apr 2024 | 01:10:15 | |
Hanes Manon yn cael ei hysbrydoli yn Gibraltar. Bethan yn gosod her i gyfieithwyr wrth ddefnyddio "rhegfeydd" Cymraeg. Siân yn cyhoeddi llyfr Saesneg, This House. Aled yn cwrdd â phrif weinidog Fflandrys a Dafydd yn sôn am hanes ei chwaer. Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Gwibdaith Elliw - Ian Richards. Anfadwaith - Llŷr Titus The One Hundred years of Lenni and Margot - Marianne Cronin An elderly lady is up to no good - Helene Tursten. Birdsong - Sebastian Faulks Captain Corelli’s Mandolin - Louis de Bernières. Awst yn Anogia - Gareth F Williams Lessons in Chemistry - Bonnie Garmus Shuggie Bain - Douglas Stuart. Ci Rhyfel/Soldier Dog - Samuel Angus Deg o Storïau - Amy Parry-Williams Gorwelion/Shared Horizons - gol. Robert Minhinnick Flowers for Mrs Harris - Paul Gallico Cookie - Jacqueline Wilson Alchemy - S.J. Parris John Preis - Geraint Jones RAPA - Alwyn Harding Jones The Only Suspect - Louise Candlish Helfa - Llwyd Owen Trothwy - Iwan Rhys The Beaches of Wales - Alistair Hare Gladiatrix - Bethan Gwanas Devil's Breath - Jill Johnson Outback - Patricia Wolf Letters of Note - Shaun Usher | |||
| Pwysigrwydd Golygyddion Creadigol | 26 Mar 2024 | 00:55:27 | |
Bethan Gwanas sy'n darganfod mwy am swydd yr olygydd creadigol, ffrind gorau unrhyw awdur, am gyfnod o leiaf. Heb olygyddion creadigol buasai llyfrau awduron ddim hanner cystal. Un o'r goreuon yw Nia Roberts sy'n gweithio i Gwasg Carreg Gwalch. Dyma rifyn arbennig o Colli'r Plot. Mwynhewch y sgwrs. | |||
| Y Rhifyn Di-drefn | 28 Feb 2024 | 00:57:51 | |
Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey, Aled Jones a Manon Steffan Ros. Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi. Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Safana - Jerry Hunter Mymryn Rhyddid - Gruffudd Owen Drift - Caryl Lewis The Soul of a Woman - Isabel Allende Gut - Giulia Enders O Ddawns i Ddawns - Gareth F. Williams Dying of politeness - Geena Davies The Bee Sting - Paul Murray Yellowface - R. F. Kuang Y Castell ar y Dŵr - Rebecca Thomas Y LLyfr - Gareth yr Orangutang Pony - R.J. Palacio Llygad Dieithryn - Simon Chandler Gwibdaith Elliw - Ian Richards Charles and the Welsh Revolt - Arwel Vittle Killing Floor - Lee Child Die Trying - Lee Child Riding With The Rocketmen - James Witts | |||
© My Podcast Data