Back
Explore every episode of the podcast Beth yw ystyr bywyd?
Dive into the complete episode list for Beth yw ystyr bywyd?. Each episode is cataloged with detailed descriptions, making it easy to find and explore specific topics. Keep track of all episodes from your favorite podcast and never miss a moment of insightful content.
| Title | Pub. Date | Duration | |
|---|---|---|---|
| Pennod 1 - Beth yw ystyr bywyd? | 04 Feb 2026 | 01:09:39 | |
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Mirain Rhys, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd yn uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg a hefyd yn gwnselydd. Mae ei harbenigedd academaidd a’i phrofiad ymarferol yn cynnig safbwynt unigryw ar y cwestiwn dan sylw, ac yn sail i ddehongliadau difyr a chraff ynghylch pwysigrwydd ceisio ateb y pos tragwyddol hwn. Nid yw’r bennod agoriadol hon heb ambell i dro trwstan ... ! Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. | |||
| Pennod 2 - Pam crefydd? | 04 Feb 2026 | 01:11:01 | |
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Gareth Evans-Jones, Prifysgol Bangor, sydd yn ddarlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd (ymysg pethau eraill!). Cyfyd sawl thema a safbwynt ar y cwestiwn, gan drafod tarddiad crefydd, ei ‘phwrpas’, a phaham y bu’n rhan mor greiddiol o fywyd y ddynoliaeth. Mae’r ddau hefyd yn myfyrio ar oblygiadau’r ffaith nad yw crefydd mor ganolog ag y bu yn y gymdeithas orllewinol a beth yw pendraw y seciwlareiddio cynyddol hwn. Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. | |||
| Pennod 3 - Pam fod tlodi’n bodoli? | 04 Feb 2026 | 01:11:18 | |
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Sam Parry, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd yn ddarlithydd mewn Busnes ac yn arbenigwr ar ddatblygiad economaidd – yn enwedig o’r safbwynt hanesyddol. Mae Sam yn helpu esbonio’r ffactorau sy’n gyfrifol am hirhoedledd tlodi , a chan edrych ar y cwestiwn o safbwynt lleol a byd-eang. Trafodir sut y mae deall a diffinio tlodi, a pham a sut y mae tlodi yn effeithio ar wahanol rannau o’r byd, gan gynnwys Cymru. Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. | |||
| Pennod 4 - Pa angen sydd am wladwriaeth? | 04 Feb 2026 | 01:05:16 | |
Yn y bennod hon mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Huw Rees, ei gyd-weithiwr yn gyd-ddarlithydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Huw (Rees!) yn arbenigwr mewn Athroniaeth Wleidyddol ac yn y bennod hon mae’n trafod y gwahanol safbwyntiau a dadleuon a geir mewn perthynas â’r wladwriaeth. Cychwynnir gyda’r cwestiwn sylfaenol ynghylch yr angen am wladwriaeth, gyda Huw yn esbonio sut y mae gwahanol athronwyr dros amser wedi ceisio cyfiawnhau ei bodolaeth ar wahanol seiliau, ond bod rhai, yr anarchwyr yn bennaf, yn cwestiynu gwerth a chyfraniad y wladwriaeth. Dyma drafodaeth felly sydd yn cymell y gwrandäwr i gwestiynu ac ailystyried gwerth a phwrpas sefydliad yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol fel rhan o’r gymdeithas fodern, ond sydd mewn gwirionedd yn endid diweddar iawn yn hanes y ddynoliaeth. Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. | |||
| Pennod 5 - Pam fod hiliaeth yn bodoli? | 04 Feb 2026 | 01:08:25 | |
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gydag Emily Pemberton, arbenigwr ym maes cydraddoldebau, ac yn bennaf ym maes gwrth-hiliaeth. Mae Emily yn galw ar ei gwaith fel ymarferydd a hefyd ei hymchwil academaidd i ateb rhai o’r cwestiynau sylfaenol ynghylch tarddiad hiliaeth, ei datblygiad, a’i heffeithiau ar y gymdeithas ddynol yn hanesyddol, ac yn y dydd sydd ohoni. Trafodir y berthynas anorfod rhwng hiliaeth a datblygiad y system gyfalafol, yn ogystal â rhoi sylw i ambell feddyliwr o bwys, megis Frantz Fanon. Rhydd sylw hefyd i’r thema yng nghyd-destun polisïau gwrth-hiliaeth yng Nghymru. Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. | |||
| Pennod 6 - A Oes Heddwch? | 04 Feb 2026 | 00:59:17 | |
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda’r Athro Howard Williams, arbenigwr ar athroniaeth gwleidyddol ac awdur cyfrol sydd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn o heddwch tragwyddol. Yn y sgwrs hon, mae Howard a Huw yn trafod y gwahanol safbwyntiau sydd wedi ymddangos yn y traddodiad gorllewinol mewn perthynas â’r thema o heddwch, gan bwyso a mesur sut y gwnaeth gwahanol feddylwyr ddehongli’r cwestiwn. Tra bo rhai yn gweld gwrthdaro a rhyfel yn rhan annatod o’r drefn ryngwladol, mae eraill yn ystyried bod ffurf ar heddwch yn bosib dros y tymor hir. Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. | |||
© My Podcast Data · Independent project · Data from Apple & Spotify