Retour

Explorez tous les épisodes du podcast Sut i Ddarllen

Plongez dans la liste complète des épisodes de Sut i Ddarllen. Chaque épisode est catalogué accompagné de descriptions détaillées, ce qui facilite la recherche et l'exploration de sujets spécifiques. Suivez tous les épisodes de votre podcast préféré et ne manquez aucun contenu pertinent.

Rows per page:

1–15 of 15

TitreDateDurée
Sut i Ddarllen03 Feb 202500:00:27

Sut i Ddarllen, sgyrsiau onest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo.

Fe fyddwn ni’n trafod pob math o agweddau ar ddarllen, o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. 

Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.

Ymunwch â ni.

Sut i Ddarllen, podlediad newydd, ar gael yn fuan.

Siôn Tomos Owen10 Feb 202500:25:25

Mae Siôn Tomos Owen yn fardd, artist a chyflwynydd radio a theledu. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth,Pethau Sy’n Digwydd nôl yn haf 2024.

Bu Francesca a Siôn yn sgwrsio am ddarllen pedwar llyfr ar yr un pryd, agweddau snobyddlyd at gomics a chariad at lyfrgelloedd.

Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd.

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Sain: Aled Hughes

 

Rhestr Ddarllen

  • Penbwl-Comic Plant Cymru
  • Cyfres Rwdlan - Angharad Tomos (Y Lolfa)
  • Matilda - Roald Dahl (Rily)
  • The Catcher in the Rye - J. D. Salinger (Penguin)
  • The Master and Margarita - Mikhail Bulgakov (Vintage Classic)
  • Love in the Time of Cholera- Gabriel García Márquez (Penguin)
  • Storyteller: The Life of Roald Dahl - Donald Sturrock (William Collins)
  • Everything Must Go: The Stories We Tell About the End of the World - Dorian Lynskey (Picador)
  • Madws -Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn)
  • The Tipping Point: How Little Things Can Make a Big Difference - Malcolm Gladwell (Abacus)
  • In Praise of Slow: How a Worldwide Movement is Challenging the Cult of Speed -Carl Honore (Orion)
  • Nofelau graffeg Chris Ware ac Adrian Tomine
  • Cawl - Siôn Tomos Owen (Parthian)
  • Pethau Sy’n Digwydd - Siôn Tomos Owen (Barddas)
  • Short Short Stories - Dave Eggers (Penguin)
  • Library of Wales: Selected Stories - Rhys Davies (Parthian)
  • Collected Stories - Dylan Thomas (W&N)
  • Open Up - Thomas Morris (Faber)
  • Straeon byrion Rachel Trezise, João Morais, Rhian Elizabeth


Mae’r llyfrau hyn ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.

Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leolYMA.

Manon Steffan Ros03 Mar 202500:28:21

Manon Steffan Ros yw un o’n hawduron mwyaf poblogaidd.  Mae ei nofel Llyfr Glas Nebo wedi swyno darllenwyr ym mhell ac agos.    Mae hi hefyd yn caru darllen.

Bu Francesca a Manon yn sgwrsio am sut mae darllen yn gwneud i ni deimlo, pam cadw copi o waith T.H. Parry-Williams yn y car, a sut i fynd i’r arfer o ddarllen.

Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Y Felinheli

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Sain: Aled Hughes


Rhestr Ddarllen

  • Childhood - Maksim Gorky (Ivan R. Dee)
  • Salem a Fi - Endaf Emlyn (Y Lolfa)
  • Llyfr Glas Nebo - Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
  • Llyfrau Danielle Steele
  • Llyfrau Jackie Collins
  • Matilda - Roald Dahl (Gwasg Rily)
  • Boy - Roald Dahl (Puffin)
  • Ffiwsi...Be? - Irma Chilton (Gwasg y Dref Wen)
  • Cyfres Ifan Bifan – Gunilla Bergstrom, addasiad Juli Phillips (Gwasg y Dref Wen)
  • Lloffion – T. H. Parry-Williams
  • Llyfrau Sally Rooney
  • Llyfrau Matt Haig
  • Take a Break


Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol ⁠yma:

https://llyfrau.cymru/siopau-llyfrau-cymru/

 

Mae Manon hefyd un o griw podlediad Colli’r Plot. 

Gwrandewch yma:

https://open.spotify.com/show/7nplXp8TLGqvi9sx1IHbzn

Sara Yassine24 Feb 202500:31:22

Mae Sara Yassine yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi bod yn un o feirniaid gwobrau llyfrau plant a phobl ifanc Tir na n-Og.

Bu Francesca a Sara yn sgwrsio am adolygu llyfrau Enid Blyton, dychwelyd at ddarllen llyfrau Cymraeg a manteision ac anfanteision gosod nod darllen i ti dy hun.

Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Sain: Aled Hughes


Rhestr ddarllen

  • Llyfrau Roald Dahl
  • Llyfrau Jaquline Wilson
  • Hanes yn y Tir - Elin Jones (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Madws - Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn)
  • Trigo - Aled Emyr (Y Lolfa)


Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.

Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol ⁠yma.

Kayley Roberts17 Feb 202500:31:26

Mae Kayley Roberts yn gwnselydd ac yn llenor sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon.

Yn aelod o Glwb Darllen Llyfrau Lliwgar, soniodd Kayley am y pleser o drafod llyfrau efo criw, Islwyn Ffowc Elis y versatile king, a thrio peidio sbïo ar dy ffôn pam ti’n darllen. 

Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Felinheli.

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Sain: Aled Hughes


Rhestr Ddarllen

  • The Illustrated Mum - Jacqueline Wilson (Yearling)
  • Think Again - Jacqueline Wilson (Bantam)
  • Sugar Rush - Julie Burchill (Macmillan)
  • A Little Life - Hanya Yanagihara (Picador)
  • Danny The Champion of the World / Danny Pencampwr y Byd - Roald Dahl (Puffin) / (Rily)
  • Sunburn - Chloe Michelle Howarth (Verve Books)
  • Intermezzo - Sally Rooney (Faber)
  • Sêr y Nos yn Gwenu - Casia Wiliam (Y Lolfa)
  • Cwlwm - Ffion Enlli (Y Lolfa)
  • Jayne Eyre - Charlotte Bronte (Penguin)
  • Villette - Charlotte Bronte (Penguin)
  • The Bell Jar - Sylvia Plath (Faber)
  • Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis (Gwasg Gomer / Y Lolfa)
  • Wythnos yng Nghymru Fydd - Islwyn Ffowc Elis (Gwasg Gomer / Y Lolfa)
  • Y Blaned Dirion - Islwyn Ffowc Elis (Gwasg Gomer)
  • V + Fo - Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn)
  • Neon Roses - Rachel Dawson (John Murray)
  • tu ôl i’r awyr - Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
  • Curiadau - Gol. Gareth Evans-Jones (Barddas)
  • A Christmas Carol - Charles Dickens (Penguin)
  • Why I’m No Longer Talking to White People About Race - Reni Eddo-Lodge (Bloomsbury)
  • Complete Poems - Emily Dickinson (Faber)
  • Cyfres The Realm of the Elderlings - Robin Hobb (HarperVoyage)
  • The Secret History - Dona Tartt (Penguin)


Mae’r llyfrau hyn ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.

Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol⁠ YMA⁠.

Mwy am Llyfrau Lliwgar fan hyn.

Bydd nofel gyntaf Kayley Roberts, Lladd Arth (Y Lolfa), allan yn haf 2025.

Geraint Iwan25 Feb 202600:34:29

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r awdur a’r cyflwynydd Geraint Iwan.

Dros y blynyddoedd mae wedi dilyn nifer o yrfaoedd a gweithio i lu o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys y BBC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o gwmnïau teledu.

Cyhoeddir ei gyfrol gyntaf, Storis Geraint Iwan, storis am yr hyn sy’n llechu dan yr wyneb, gan Wasg Carreg Gwalch, fis Mawrth.

Yn y bennod mae Ger yn trafod ei obsesiwn efo straeon, darganfod darllen drwy ffilmiau a pheryglon gwrando ar lyfrau llafar yn Morrisons Caernarfon.

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Recordio sain: Aled Wyn Hughes

Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog


Rhestr Ddarllen

  • Congrinero - David Meredith
  • Rownd y Byd yn y Ras Falwnau Orau Erioed - Sue Scullard
  • Beibl y Plant Mewn Lliw
  • I Ble Aeth Haul y Bore? - Eurig Wyn
  • Dan Gadarn Goncrit - Mihangel Morgan
  • Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis
  • Yn y Gwaed - Geraint V. Jones
  • Tân ar y Comin - T. Llew Jones
  • Jaws - Peter Benchley
  • Jurassic Park - Michael Crichton
  • Do Androids Dream of Electric Sheep? - Philip K. Dick
  • The Gone-Away World - Nick Harkaway
  • Ready Player One - Ernest Cline
  • I am Legend - Richard Matheson
  • Trioleg Extracted – RR Haywood
  • I, Partridge: We Need To Talk About Alan - Alan Partidge
  • The Rivers of London - Ben Aaronovitch
  • Cyfres The Bourne Identity – Roberts Ludlum
  • Straeon byrion Ruth Rendell
  • And Then There Were None - Agatha Christie
  • Cyfres A Game of Thrones - George R. R. Martin
  • The Martian – Andy Weir

Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

Sioned Erin Hughes11 Feb 202600:30:28

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a'r awdur Sioned Erin Hughes.

Daw Erin o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda'i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom. Hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020, ac mae hefyd wedi golygu Iaith Heb Ffiniau a chyd-olygu Beyond/Tu Hwnt.

Roedd ei chyfrol O'r Rhuddin ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi Fel y Moroedd y llynedd.

Yn y bennod mae Erin yn trafod ei diffyg diddordeb mewn llyfrau yn blentyn, effaith a dylanwad sgwennu personol a hunangofiannau ar ei bywyd a'r angen i ddarllen gyda phensil yn ei llaw.

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Recordio sain: Aled Wyn Hughes
Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.


Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon

  • James a'r Eirinen Wlanog Enfawr - Roald Dahl, addasiad Elin Meek
  • Nab Wrc - Roald Dahl, addsiad Elin Meek
  • Moddion Rhyfeddol George - Roald Dahl, addasiad Elin Meek
  • Matilda - Roald Dahl, addasiad Elin Meek
  • The Book Thief - Markus Zusak
  • I Am, I Am, I Am: Seventeen Brushes With Death – Maggie O’Farrell
  • The Choice - Edith Eger
  • Casglu Llwch – Georgia Ruth
  • Tell Me Who I Am - Georgia Ruth
  • Camu – Iola Ynyr
  • Nelan a Bo – Angharad Price
  • The Bell Jar – Sylvia Path
  • Reason To Stay Alive – Matt Haig
  • A Thousand Splendid Suns - Khaled Hosseini
  • The Kite Runner - Khaled Hosseini
  • Lan Stâr – Anthony Shapland, addasiad Esyllt Lewis
  • Devotions – Mary Oliver

Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

Huw Stephens28 Jan 202600:32:25

Yr awdur a’r darlledwr Huw Stephens sy’n cadw cwmni i Francesca Sciarrillo.


Mae Huw Stephens yn darlledu’n ddyddiol ar BBC Radio 6 Music, ac yn cynnal sioeau wythnosol yn y Gymraeg a Saesneg ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Fe sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn Caerdydd. Ef hefyd yw awdur y gyfrol, Wales - 100 Records.


Yn y bennod mae Huw yn sgwrsio am gyfieithu The Twits yn blentyn, ei hoff nofel Gymraeg yn y byd i gyd a’i gyfraniad i’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.


Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Recordio sain: Aled Wyn Hughes

Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd.


Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon

  • Y Dyn'i hun – Hywel Gwynfryn
  • The Twits – Roald Dahl
  • Boy – Roald Dahl
  • Paid a Bod Ofn – Non Parry
  • All the Best for the Future: Growing Up Without Growing Old – Greg James
  • Is-Deitla'n Unig - Emyr Glyn Williams
  • Diolch Dewi! Ffrindiau'n Cofio – Gol. Myrddin ap Dafydd
  • Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru – Gol. Meic Stephens
  • A Room Above a Shop - Anthony Shapland
  • Bechgyn Drwg am Byth – Llwyd Owen
  • Cam o’r Tywyllwch – Rhys Mwyn
  • Atgofion drwy Ganeuon: Dyddie Da - Delwyn Siôn
  • Atgofion drwy Ganeuon: Rhwng Bethlehem a'r Groes - Barry (Archie) Jones
  • Atgofion drwy Ganeuon: Llechan yn y Gwaed – Gai Toms
  • Cerddi’r Ystrad – Lyn Ebenezer
  • Lladd Arth – Kayley Roberts
  • Of Mice and Men – John Steinbeck
  • Y Tŵr – Gwenlyn Parry
  • Zonia Bowen - Dy Bobl Di Fydd fy Mhobl I - Zonia Bowen
  • Oedolyn (ish) – Melanie Owen
  • Cylchgrawn Folding Rock
  • O Ffrwyth y Gangen Hon – Gol. Nia Morais
  • Gwlad Bardd – Rhys Iorwerth
  • O! Tyn y Gorchudd – Angharad Price
  • The Life of Rebecca Jones – Angharad Price, cyfieithiad Lloyd Jones
  • Nelan a Bo – Angharad Price
  • Yr Odliadur – Roy Stephens
  • Salem a Fi – Endaf Emlyn
  • Ffansins: Caws Heb Dost, Siarc Marw, Brechdan Tywod, Tacsi, Viva Sparky, Klust

Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.

Cyfres newydd o Sut i Ddarllen23 Jan 202600:00:33

Cyfres newydd o Sut i Ddarllen ar gael yn fuan.Mwy o sgyrsiau difyr am lyfrau a darllen gyda Francesca Scarrillo.


Eirini Sanoudaki17 Mar 202500:32:05

Darllenydd mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yw Dr Eirini Sanoudaki.

Yn wreiddiol o Groeg, mae ei hymchwil yn archwilio iaith mewn pobl uniaith a dwyieithog. 

Bu Francesca ac Eirini yn trafod sut mae llyfrau yn gallu mynd a ni nôl, pwysigrwydd darllen efo plant, a mawredd Llyfr Glas Nebo.

Recordiwyd y bennod yn Shed, Y Felinheli

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Sain: Aled Hughes

Rhestr Ddarllen

  • Llyfrau Zoe Skolding
  • Llyfrau Alys Conran
  • Llyfrau Angharad Price
  • Pumed Cainc y Mabinogi – Peredur Glyn (Y Lolfa)
  • Llyfr Glas Nebo – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
  • Il Nome Della Rosa - Umberto Eco (Bompiani)
  • Sali Mali - Mary Vaughan Jones (Atebol)
  • Y Tywysog Bach - Antoine de Saint-Exupéry (Edition Tintenfaß)
  • The Catcher in the Rye -   J. D. Salinger (Penguin)
  • One Moonlit Night / Un Nos Ola Leuad - Caradog Prichard (Y Lolfa)


Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol ⁠yma.

Joe Healy10 Mar 202500:28:50

Yn wreiddiol o Wimbledon, fe enillodd Joe Healy wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2022.  Bellach mae’n diwtor Cymraeg yng Nghaerdydd ac yn cyflwyno rhaglen Y Sin ar S4C gyda Francesca.

Bu’r ddau yn trafod darllen llyfrau Cymraeg am y tro cyntaf, dod yn nol at ddarllen, a pheidio bod ofn barddoniaeth.

Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd.

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Sain: Aled Hughes


Rhestr Ddarllen

  • Y Lindysyn Llwglyd Iawn / TheVery Hungry Catepillar  – Eric Carle (Dref Wen)
  • Little Rabbit Foo Foo – Michael Rosen (WalkerBooks)
  • Llyfrau Tomas y Tanc
  • Llyfr Glas Nebo – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
  • Cwlwm – Ffion Enlli (Y Lolfa)
  • The Lord of the Rings – J. R. Tolken (Harper Collins)
  • The Hobbit - J. R. Tolken (Harper Collins)
  • Of Mice and Men – John Steinbeck (PenguinBooks)
  • Paddy Clarke Ha, Ha Ha – Roddy Doyle (Penguin)
  • To Kill a Mockingbird – Harper Lee (Penguin)
  • Pigeon  / Pijin - Alys Conran (Parthian)
  • Open Up – Thomas Morris (Faber)
  • Cyfres Stori Sydyn
  • The Handmaid's Tale - Margaret Atwood (Vintage)


Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.

Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol ⁠yma:https://llyfrau.cymru/siopau-llyfrau-cymru/

Casi Wyn21 Apr 202600:30:22

Yn cadw cwmni i Francesca Sciarrillo mae’r gantores a chyfansoddwr Casi Wyn.

Yn wreiddiol o ddinas Bangor, Casi oedd Bardd Plant Cymru 2021-2023. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cariad Yw yn 2024. Mae hi wedi perfformio ei cherddoriaeth ar lwyfannau SXSW, BBC Proms in the Park, yn yn ogystal â thaith genedlaethol gyda Sinfonia Cymru. Rhyddhawyd ei halbym newydd Plentyn yr Haul ddiwedd Mawrth.

Casi hefyd yw Cyfarwyddwr Creadigol cylchgrawn Codi Pais, cylchgrawn annibynnol i bawb gan ferched Cymru.

Yn y bennod mae Casi’n trafod gwerth darllen barddoniaeth, ei hoff siopau llyfrau a vibes faniau llyfrgell!

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Recordio sain: Aled Wyn Hughes

Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd.

Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon

  • Llyfr Mawr y Plant - Jennie Thomas, J.O. Williams
  • Rala Rwdins - Angharad Tomos
  • Heddwch o’r Diwedd - Jill Murphy, addas. Roger Boore
  • Beth Nesaf? - Jill Murphy, addas. Roger Boore
  • Y Llygod a’r Lleuad - Joyce Dunbar, addas. Myrddin ap Dafydd
  • The Lion, the Witch and the Wardrobe - C.S. Lewis
  • A Series of Unfortunate Events - Lemony Snicket
  • Harri Potter a Maen yr Athronydd - J. K. Rowling, addas. Emily Huws
  • Caer y Rhew - Robert Swindells, addas Gruff Roberts
  • Mrs Mochyn a'r Sos Coch - Mary Rayner
  • Elfed yr Eliffant - David McKee
  • 'Dyn Ni yn Mynd i Hela Arth - Michael Rosen, addas. Gwynne Williams
  • Teulu Bach Nant Oer - Moelona
  • Y Tylwyth Teg
  • mae - Mererid Hopwood
  • Mymryn Rhyddid - Gruffudd Owen
  • O Ffrwyth y Gangen Hon - Gol. Nia Morais
  • Trochi – Carwyn Eckley
  • I Know Why The Caged Bird Sings - Maya Angelou
  • The Doors of Perception - Aldous Huxley
  • Codi Pais
  • Folding Rock
  • Hanes Byw
  • Atgofion drwy Ganeuon: Gweld Sêr - Siân James
  • Y Tywysog Bach - Antoine De Saint-Exupéry
  • Cariad Yw - Casi Wyn
  • Cerdded Lerpwl y Cymry - Gari Wyn
  • Bitter Honey - Caryl Lewis
  • Service 95
  • Send Books
  • Songs of Innocence and of Experience  - William Blake
  • Mynd - Marged Tudur
  • Nature and Selected Essays - Ralph Waldo Emerson

Y llyfrau ar gael o'ch siop lyfrau leol.

Malachy Edwards07 Apr 202600:32:18

Yr awdur a cholofnydd Malachy Edwards yw gwestai Francesca Sciarrillo yn y bennod ddiweddaraf o Sut i Ddarllen.

Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn.

Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur, gan Wasg y Bwthyn yn 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y gyfrol, mae Malachy yn archwilio ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliannol a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Cyhoeddwyd y dilyniant, Paradwys Goll, ym mis Hydref 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur hefyd yn golofnydd i’r cylchgrawn Golwg.

Yn y bennod mae'n trafod cylchgronau sgelfyrddio, darllen y clasuron a'i ymchwil diweddar i fywyd John Ystumllyn.

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Recordio sain: Aled Wyn Hughes

Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.

Rhestr Ddarllen

  • Thrasher Magazine
  • Kerrang
  • Rolling Stone
  • Cyfres Artemis Fowl - Eoin Colfer
  • 1984 - George Orwell
  • The Handmaid's Tale - Margaret Atwood
  • Doctor Faustus - Christopher Marlowe
  • The Autobiography of Benvenuto Cellini - Benvenuto Cellini, cyfieithiad Anne Macdonell
  • The Interesting Narrative and Other Writings - Olaudah Equiano
  • Pam Na Fu Cymru - Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg - Simon Brooks
  • Decolonizing Language and Other Revolutionary Ideas - Ngugi wa Thiong'o
  • The Islander - Tomás O'Crohan
  • Y Fro Dywyll - Jerry Hunter
  • Sgythia - Gwynn ap Gwilym
  • Ymbelydredd - Guto Dafydd
  • Lloerganiadau - Fflur Dafydd
  • Anfarwol - Peredur Glyn
  • Te yn y Grug - Kate Roberts
  • Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis
  • Gweithiau Daniel Owen

Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

Buddug Watcyn Roberts25 Mar 202600:31:20

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae Buddug Watcyn Roberts.

Er yn ifanc mae Buddug iawn wedi bod ar ysgrifennu’n greadigol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol: llwyfannwyd drama ganddi gan Gwmni Ifanc Frân Wen ac mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Codi Pais a rhifynnau Ffosfforws gan gyhoeddiadau’r Stamp.

Yn y bennod mae Buddug yn trafod darllen gwaith Llwyd Owen am y tro cyntaf, grym cyfrolau barddoniaeth, a'r mwynhad o ddarllen yr un llyfr sawl tro.

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Recordio sain: Aled Wyn Hughes

Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.

Rhestr Ddarllen

  • Morgan a Magi Ann - Mary Vaughan Jones
  • Huw Bob Lliw - Marian Jones
  • Neli’r Pysgodyn Jeli - Marian Jones
  • Marc y Siarc - Marian Jones
  • Ffawd, Cywilydd a Celwyddau - Llwyd Owen
  • mor hapus - Gwenllian Ellis
  • Lladd Arth - Kayley Roberts
  • Cwlwm - Ffion Enlli
  • Holl Lawenydd Gwyllt - Llyr Gwyn Lewis
  • Gwlad Bardd - Rhys Iorwerth
  • Iaith y Nefoedd - Llwyd Owen
  • Oedolyn-ish - Mel Owen
  • Girl Crush - Florence Given
  • Women Don’t Owe You Pretty - Florence Given
  • Women Living Deliciously - Florence Given
  • Trochi - Carwyn Eckley
  • Abermandraw – Rhys Iorwerth
  • Mymryn Rhyddid – Gruffudd Owen
  • Hel Llus yn y Glaw – Gruffudd Owen
  • Why Has Nobody Told Me This Before? – Dr Julie Smith
  • V+Fo – Gwenno Gwilym
  • Bechygyn Drwg am Byth – Llwyd Owen

Mwy am prosiect Pencerdd Llenyddiaeth Cymru yma.Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

Melanie Owen11 Mar 202600:32:57

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r comedïwr, y cyflwynydd ar awdur Melanie Owen.

Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Mel bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn ysgrifennu am bron i ddegawd, gan gynnwys sgriptiau i Channel 4, BBC Cymru Wales a BBC Radio Cymru.

Roedd ei chyfrol gyntaf, Oedolyn (ish!), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025.

Yn y bennod mae Mel yn trafod bod yn "Jacqueline Wilson girly", rhoi darllen ar y to-do list a chrio yn Llyfrgell Aberystwyth.

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Recordio sain: Aled Wyn Hughes

Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy's Place, Caerdydd.

Rhestr Ddarllen

  • Llyfrau Jacqueline Wilson
  • I Feel Bad About My Neck - Nora Ephron
  • Mor Hapus - Gwenllian Ellis
  • Sgen i’m Syniad - Gwenllian Ellis
  • V + Fo - Gwenno Gwilym
  • Oedolyn(ish) - Melanie Owen
  • This is Going to Hurt – Adam Kay
  • Twas The Nightshift Before Christmas – Adam Kay
  • O Ffrwyth y Gangen Hon – Gol. Nia Morais
  • Noughts & Crosses - Malorie Blackman
  • Think Again – Jacqueline Wilson
  • Little Fires Everywhere - Celeste Ng
  • Camu – Iola Ynyr
  • How to Survive an Affair: A Practical Guide – Henry Widdicombe
  • Angus, thongs and full-frontal snogging – Louise Rennison

Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

© My Podcast Data · Projet indépendant · Données issues d'Apple & Spotify