Explorez tous les épisodes du podcast Siarad Siop efo Mari a Meilir
| Titre | Date | Durée | |
|---|---|---|---|
| 94 - Bala's Got Talent, tân gwyllt ac Heidi Klum | 05 Nov 2026 | 01:25:45 | |
Mae hi bellach yn Dachwedd ac mae Mariah wedi ei dadmer o'r bloc iâ. Rhy gynnar i roi'r addurniadau i fyny? Beth fydd ar eich bwydlen Dolig chi? Dyma rai o'r cwestiynnau yn y blwch yr wythnos hon. Heb sôn am drafodaeth am ffeinal y Traitors, enwebiadau BIFA ac Heidi Klum fel llaw... Mewn â chi! | |||
| 93 - Pobol y Cwm, Pwyll ar Netflix a Cardigans Paisley | 29 Oct 2026 | 01:26:30 | |
Dydi'r stormydd na'r bwganod methu cadw Mari a Meilir draw o'r siop. Yr wythnos hon, mae yna drafodaeth am ymadawiad Anita o'r gyfres Pobol y Cwm, gêm beldroed rhwng Llanuwchllyn a'r Bala, a mynach weddol enwog ar Ynys Byr... Jesd cliciwch play a dewch mewn o'r glaw. Chi'n gadael drafft mewn! | |||
| 92 - Sioeau byw, archarwyr Cymraeg a Kelly Clarkson | 22 Oct 2026 | 01:53:01 | |
Wedi wythnos o seibiant ar ôl y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth, mae Mari a Meilir yn ôl gyda sioe llawn dop i chi o holl ddigwyddiadau a straeon y pythefnos diwethaf. O saga Kelly Clarkson a'r tegan, sêr Cymru mewn cynhyrchiadau comics mwya'r byd a'r protestiadau yn Ffrainc. Mewn â chi i'r siop, mae hi'n oer tu allan! | |||
| 91 - BAFTA Cymru, Jonathan Bailey a 'manspreadio' | 08 Oct 2026 | 01:25:38 | |
Mae hi'n wythnos y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth ac mae'r siop yn llawn bwrlwm yr wythnos hon wrth i Mari a Meilir baratoi ar gyfer y penwythnos. Ond hefyd rhaid trafod gwobrau'r BAFTAs Cymru, recordiad Dracula newydd Jonathan Bailey a chreision blâs cyw iâr...! Dewch i mewn, mae'r siop ar agor. | |||
| 90 - Traitors, VMAs a'r Cornell 7 | 01 Oct 2026 | 01:46:48 | |
Gofynnwch a chwi a gewch - ma hi'n bennod swmpus arall yr wythnos hon wrth i ni drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos, gan gynnwys gwobrau'r VMAs, cerddoriaeth newydd Taylor Swift ac achos y Cornell 7. Dewch i mewn i'r siop am sgwrs! Rhybudd Cynnwys: Mae'r bennod hon yn cynnwys trafodaeth am drais. | |||
| 89 - Channing Tatum, Ms Rachel a Misteeq | 24 Sep 2026 | 01:44:56 | |
Mae'r Hydref wedi cyrraedd ac mae Mari'n swp sâl - ond dydi hynny ddim yn ei rhwystro rhag agor y Siop efo Meilir yr wythnos hon. Mae dyletswydd ganddynt i drafod a gwyntyllu gossip yr wythnos. O burner account honedig Channing Tatum, canslo taith Misteeq i gynhyrchiad newydd yr RSC o As You Like It. Gwnewch baned a swatiwch, mae'r Siop ar agor! | |||
| 88 - Matthew Rhys, Ed Sheeran a Gwagle | 17 Sep 2026 | 02:06:01 | |
Rhag-rybudd: roedd Mari a Meilir yn teimlo'n siaradus IAWN yr wythnos hon felly mae hon yn bennod hirach fyth na'r arfer. Ond yr ôll ddigwyddodd dros yr wythnos ddiwethaf, gallwch chi ddeall pam. O daith ddadleuol Ed Sheeran, drama ym mhlaid R€form Cymru i lwyddiant hanesyddol Matthew Rhys yn ngwobrau yr Emmy's - mae yna gymaint i'w drafod. Felly strap in, folks - dewch i mewn i'r siop! | |||
| 87 - Tom Jones, P!nk a ghostio | 10 Sep 2026 | 01:40:20 | |
Mae yna lwyth o bethau wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos yma. O ymddiswyddiad Tom Jones o The Voice, P!nk yn beirniadu Macklemore a thrafferthion sioe gerdd Burlesque - mae'r silffoedd yn llawn! Felly dewch i mewn i'r siop i wrando ar y clebran. Mae Mari a Meilir yn barod wrth y cownter! | |||
| 86 - Dolly, Gwyl Llan a BAFTA Cymru | 03 Sep 2026 | 01:26:14 | |
Wedi'r holl newyddion trist am golli arwyr yr wythnos yma, mae Mari a Meilir yn falch o ddod nol i'r siop i gael het atgofion am Dolly Parton, Tim Curry ac i glywed am holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Gŵyl Llanuwchllyn ac enwebiadau BAFTA Cymru. Mae'r tywydd wedi troi felly swatiwch ar y soffa efo paned a pwyswch play. | |||
| 85 - Calon, Waitress a Calendar Girls | 26 Aug 2026 | 01:25:13 | |
Mae'r siop yr wythnos hon yn fyw o westy yng Nghaerdydd ac mae Mari a Meilir yn cael y cyfle i hel clecs wyneb yn wyneb am change! Mae yna ambell i drip theatr wedi bod gan gynnwys ymweliad ag ymarferion sioe newydd sbon Cwmni Theatr yr Urdd sef 'Calon'. Dewch i mewn i glywed ymateb Meilir i'r sioe a llawer mwy... | |||
| 84 - Dic coll, Mariah Poppins a'r eclipse | 20 Aug 2026 | 01:14:29 | |
Mae Mari a Meilir wedi bod ar eu travels ac mae nhw'n falch iawn i fod nol yn y siop i ddadbacio'r holl glecs ma nhw di'w casglu dros yr wythnos. O Mariah Poppins, i The Odyssey i'r Dic coll i albwm newydd Aleighcia Scott. Felly dewch i mewn i ymuno yn y sgwrs! | |||
| 83 - Post-Eisteddfod y Garreg Las blues! | 13 Aug 2026 | 01:15:03 | |
Mae'r Eisteddfod wedi bod ac mae'r felan (blues) yn drwm! Ond dim ots, achos mae'r siop ar agor i ddadbacio holl gossip, drama a phob cam ddigwyddodd yn ystod yr Ŵyl. Felly swatiwch ar y soffa neu'ch lounger, estynwch am eich paned neu aperol a mwynhewch. Mae'r siop ar agor unwaith eto! | |||
| 82 - Cwis Eisteddfod, Sesiwn Fawr a Cwpan y Byd | 23 Jul 2026 | 01:20:00 | |
Wrth i'r Brifwyl agosau, pa ffordd well i baratoi ati na chael cwis ysgafn a hwyliog?! Hefyd bydd M&M yn trafod Sesiwn Fawr Dolgellau, y gossip diweddaraf am Ariana Grande a'r ffaith nad ydi pel-droed yn dod adref...diolch byth! Mewn â chi i'r siop. | |||
| 81 - Effi o Blaenau, Gwobrau Podlediadau a paratoi at Steddfod | 16 Jul 2026 | 01:33:05 | |
Mae Mari a Mei yn brysur baratoi at yr Eisteddfod tra'n cadw golwg barcud ar bopeth sy'n gyfredol ar y cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion. O'r ffilm Effi o Blaenau i Ŵyl Natur Aberystwyth. Rhywbeth at ddant pawb! Dewch i mewn am browse bach. | |||
| 80 - Taylor, Travis a Binface | 09 Jul 2026 | 01:24:11 | |
Mae Mari a Mei wyneb yn wyneb yn recordio'r bennod hon - felly byddwch yn barod am lawr o wylltineb a chyffro! Mae'r briodas gyfrinachol fwyaf enwog wedi bod, Binface ar y newyddion a Pitbull yn Blackweir. Heb sôn am ddathliadau tila'r UDA yn 250, cerddoriaeth newydd Madonnna ac Aleighcia Scott a noson allan Mei a Mari yn Aber. Dyna ddigon o ragflas - i mewn â chi... | |||
| 79 - Paddleboards, Cordia a hoovers | 02 Jul 2026 | 01:09:02 | |
Mae Mari wedi am wyliau efo'r gens a Meilir wedi bod ar gefn ei paddleboard ond mae'r ddau bellach yn ôl yn y siop yn barod i drafod digwyddiadau'r wythnos dros baned ar y cownter. Mae yna hen drafod am Andy Burnham, Lizzo, sengl newydd Cordia a hoover newydd Meilir. Dewch i mewn i ymuno yn y sgwrs. | |||
| 78 - Haul, Tafwyl ac hen-dŵs | 25 Jun 2026 | 01:21:32 | |
Mae'r tywydd yn boeth ond mae'r sgwrs yn boethach! Mae'r Prif Weinidog yn Llundain wedi penderfynu camu i'r neilltu, mae gŵr Katie Price bellach yn saff ac mae'r blwch ceisiadau bron a byrstio yn y gwrês. Mae'n rhy boeth i 'sgwennu mwy. I mewn â chi i'r siop, reit handi! Mae ganddom ni AC. | |||
| 77 - Harry Styles, Take That a tattoos | 18 Jun 2026 | 01:28:59 | |
Mae wythnos arall wedi pasio ac mae'r siop yn ôl 'in the swing of things' ers y daith. Yr wythnos hon ,cawn glywed am drip Mari i 'Dylan's Costal Retreat' a thrip Meilir i weld Rufus Wainwright yn Llundain. Hefyd, bydd Mari a Mei yn trafod taith Take That a pherfformiadau Harry Styles cyn agor y blwch ceisiadau i ateb eich cwestiynnau. Croeso i'r Siop Siarad! | |||
| 76 - Duffy, Pride a Widow's Bay | 11 Jun 2026 | 01:27:57 | |
Mae Mari a Meilir yn ôl yn y siop ar ôl trip i Galeri Caernarfon ac mae'n amser rhoi trefn ar y stoc. O drafod digwyddiadau'r pythefnos diwethaf fel cyhoeddiad Duffy, drama Queer Eye, dathliadau Pride a marwolaeth yr actor Anthony Head, i'r Silff Sobor ac wrth gwrs y Blwch Ceisiadau! Mae'n braf bod nol yn y siop. I mewn â chi... | |||
| 75 - Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a Katie Price | 22 May 2026 | 01:10:01 | |
Sypreis! Er i ni gyhoeddi nad oedd pennod yr wythnos yma, doedd Mari na Mei methu peidio ag agor y siop i siarad non stop. Ma na sgrysiau am Eisteddfod yr Urdd, cacen benblwydd, gŵr Katie Price, Andy Burnham a chomedïau byrion S4C. Beth chi'n neud yn sefyll tu fas? Mewn â chi i wrando. | |||
| 74 - Llywodraeth newydd, BAFTAs a'r daith! | 14 May 2026 | 01:29:33 | |
Am wythnos hanesyddol i wleidyddiaeth Cymru! Mae'r felin bupur wedi bod yn troi'n ddi-stop yma yn y siop. O gefnogaeth Plaid Cymru (a R£form), ymateb Keir Starmer a'r holl sylwebaeth ar y teledu a'r radio. A sôn am deledu, roedd gwobrau BAFTAs yr wythnos yma hefyd. A llond blwch yn geiriosen ar ben y gacen. Felly, i mewn â chi gyfeillion annwyl - mae'r siop ar agor. | |||
| 73 - Met Gala, Devil Wears Prada 2 a'r Etholiad! | 07 May 2026 | 01:25:14 | |
Mae hi'n ddiwrnod pwysig iawn heddiw yng Nghymru wrth i'r gorsafoedd pledleisio agor. Ond peidiwch â phoeni, mae'r Siop Siarad ar agor hefyd fel yr arfer. Mae yna drafodaeth ddyrys am wisgoedd y Met Gala, adolygiadau o ail gyfres Anfamol, ffilm Devil Wears Prada 2 a mwy. Heb sôn am flwch ceisiadau mor llawn â blwch pledleisiau Plaid Cymru... I mewn â chi i'r siop. | |||
| 72 - I'm a Celeb, ffeinal Y Llais a Helena Bonham Carter | 30 Apr 2026 | 01:42:15 | |
Mae teledu yn cael dipyn o sylw yn y siop yr wythnos yma - ffeinal Y Llais, drama aduniad I'm a Celeb, Helena Bonham Carter yn gadael cyfres 4 White Lotus, Russell Brand ar raglen Piers Morgan a llawer mwy. Gyda blwch gorlawn, mae hon yn bennod go swmpus, felly i mewn â chi i'r siop a mwynhewch. | |||
| 71 - Lerpwl, Y Llais a Llanuwchllyn | 23 Apr 2026 | 00:51:21 | |
Yn y bennod hon, mae Mari wedi mentro i Lanuwchllyn - sy'n golgygu fod Mari a Meilir wedi recordio y bennod hon wyneb yn wyneb. A ma pethau wastad yn mynd braidd yn wirion pan mae'r ddau yn yr un ystafell, Mae 'na sgwrsio am drip penblwydd Meilir, pennod ddiweddaraf Y Llais a llawer mwy. Mewn â chi i wrando! | |||
| 70 - Penblwyddi, SheUltra a Coachella | 16 Apr 2026 | 01:37:54 | |
Sypreis! A hithau'n wythnos benblwydd ar Mari a Meilir, dyma benderfynu recordio pennod arbennig er i ni ddweud na fyddai na un yr wythnos hon. Da ni'n cael clywed am ddathliadau Mari, Meilir yn ffilmio efo Cabarela yn ogystal â holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Coachella, SheUltra ac amser Meilir yn gweini ar y teulu brenhinol...! Mewn â chi i glywed yr hanes. Mae'r siop ar agor! | |||
| 69 - Y Pasg, Kanye a'r W.I. | 09 Apr 2026 | 01:27:13 | |
Mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd ac mae'r Pasg bellach wedi pasio. Gawsoch chi ŵy? Gawsoch chi wyliau? Wel, mae Mari a Meilir yn y siop fel yr arfer yn barod i drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys gwaharddiad Kanye West rhag dod i'r D.U., drama'r ddylanwadwraig Mikayla ar Tiktok ac ymweliad Meilir â W.I. Llanuwchllyn. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor! | |||
| 68 - Poliameri, pigiadau colli pwysau a Scott Mills | 02 Apr 2026 | 01:50:41 | |
Pasg hapus i chi gyd! Gobeithio'ch bod chi gyd yn mwynhau'r tymor Aries hyd yma ac yn barod i fwyta llond boliaid o wyau siocled dros y penwythnos. Mae yna lond trol o destunau i'w trafod eto'r wythnos yma - o ymadawiad Scott Mills o'r BBC, tocynnau Celine Dion, Ant a Dec a Bethan a rhaglenni S4C ar poliamori a phigiadau colli pwysau. Ewch i nol ŵy pasg arall, gwnewch baned a dewch i mewn i'r siop i wrando. | |||
| 67 - Louis Theroux, SNL a Claudia Winkleman | 26 Mar 2026 | 01:40:26 | |
Llawer o raglenni teledu i'w trafod yr wythnos hon - o 'Power: The Downfall of Huw Edwards', 'Saturday Night Live UK', 'Louis Theroux: Inside the Manosphere', 'Last One Laughing' a 'The Claudia Winkleman Show'. Hefyd, rhaid i ni drafod trip Mari i wylio Lily Allen yng Nghaerdyddna'r fideo anffodus yna o Justin Timberlake. Ewch i nol paned a mwynhewch! | |||
| 66 - Yr Oscars, Chappell Roan a Syr Bryn | 19 Mar 2026 | 00:47:50 | |
Mae seremoni wobrwyo fwya'r byd newydd ddigwydd yn Hollywood sy'n golygu fod na lwyth o glecs i'w trafod yn y siop yr wythnos hon. Ar ben hynny, mae'n blwch yn gorlifo gyda negeseuon am daith Siarad Siop ac mae'r cynllunio wedi dechrau. I mewn â chi, mae'r siop ar agor. | |||
| 65 - Taith Siarad Siop, Timothée Chalamet ac Y Llais | 12 Mar 2026 | 01:34:16 | |
Daeth y dydd! Mae tocynnau taith fyw Siarad Siop nawr ar werth ac ar gael drwy glicio ein linktree neu drwy ymweld â gwefannau Clwb Ifor Bach a Galeri. Yn y cyfamser, dyma bennod arferol i chi o gossipio, honni ffeithiau hynod o amheus a lot o fawr o chwerthin. Mewn â chi! Mae'r siop ar agor. | |||
| 64 - Cân i Gymru, gin a Premier Inn | 05 Mar 2026 | 00:36:13 | |
Mae Mari a Meilir wedi mentro allan o'r siop ac yn recordio'r bennod yma mewn gwesty. Pam, medde chi? Wel clicio play ac fe gewch chi'r hanes i gyd am eu travels. | |||
| 63 - Tyra Banks, Our Town a 'dod allan' | 19 Feb 2026 | 01:21:06 | |
Wedi wythnos o'r siop, mae hi'n braf bod nol gyda llond blwch o geisiadau a llond trol y straeon, gossip a sgwrsio, gan gynnwys rhaglen ddogfen newydd am America's Next Top Model, y twyll cyrlio yn yr Olympics a thaith sioe Welsh National Theatre o gynhyrchiad 'Our Town'. Digon o ragflas - mewn â chi i'r siop! | |||
| 62 - Entrée, Catherine O'Hara a'r Grammys | 05 Feb 2026 | 01:23:11 | |
Mae hi'n wythnos brysur draw ym myd Siarad Siop - Entrée Amour a Mynydd ar S4C, ymddangosiad ar Heno a recordio penodau cyntaf Après Amour a Mynydd. Ond wrth gwrs, mae wastad amser i recordio pennod arferol o Siarad Siop ac mae digon i'w drafod fel yr arfer: o'r seremonïau gwobrwyo, marwolaeth yr anhygoel Catherine O'Hara ac ymddygiad diweddaraf N!ck! M!naj... Dewch i mewn! | |||
| 61 - Santes Dwynwen, ffeinal Traitors a Harry Styles | 29 Jan 2026 | 01:34:34 | |
Gafodd pawb rosyn neu anrheg dros y penwythnos? Wnaethoch chi seremoni i losgi eitemau eich cyn-gariad? Dim ots os oedd eich diwrnod Santes Dwynwen yn llawn cariad neu'n oer fel bloc o rew, mae yna groeso cynnes i chi yn y siop. Rhaid trafod ffeinal y Traitors, cyfres ddogfen newydd Tyra Banks a phwy gafodd eu hanwybyddu yn enwebiadau'r Oscars eleni. Wfftio'r cariadon - dewch mewni'r siop. M&Ms for life xoxo | |||
| 60 - Brooklyn, Karamo a Heated Rivalry | 22 Jan 2026 | 01:51:12 | |
Mae'r Siop yn gorlifo'r wythnos yma efo hanesion - o straeon insta Brooklyn, absenoldeb Karamo o lansiad cyfres Queer Eye, glambot enwog JLo, cyfresi Heated Rivalry a Traitors i Charlie's Aberystwyth yn cau. Mae angen tebot mawr i wrando ar yr holl dê chwilboeth. Eistedd yn gyfforddus? Mewn â chi! | |||
| 59 - Golden Globes, Miss Saigon a therapi | 15 Jan 2026 | 01:22:33 | |
Wythnos arall wedi pasio ac mae mis Ionawr yn prysur ddiflannu ond peidiwch â phoeni, mae'r siop mor llawn ag erioed. O gossip y Golden Globes, ansawdd lleisiol Lily Allen i ddeallusrwydd artifisial. Digon i lenwi'ch basged. Mewn â chi! | |||
| 58 - Eira, Traitors a'r ffliw | 08 Jan 2026 | 01:21:08 | |
Gan ein bod ni i gyd yn sownd yn ein tai, pa amser gwell i bicio i'r siop i glywed am hanes wythnos gyntaf y flwyddyn newydd, y gyfres newydd o Traitors a llond blwch o gyfaddefiadau jiwsi! Dewch i mewn o'r oerfel - mae'r siop ar agor. | |||
| 57 - Blwyddyn Newydd Dda! | 31 Dec 2025 | 01:24:32 | |
Mae 2025 bron ar ben ac mae'n amser i ni hel atgofion a thrafod uchafbwyntiau'r flwyddyn ddiwethaf cyn i ni edrych ymlaen at 2026... Mae hi am fod yn flwyddyn gyffrous i'r Siop, felly dewch i mewn i glywed y newyddion. | |||
| 56 - Nadolig Llawen! | 25 Dec 2025 | 01:09:06 | |
Mae'r Nadolig wedi cyrraedd felly dyma bennod arbennig i chi wrando arni drod gyfnod yr Ŵyl i roi hoe fach i chi o'r prysurdeb neu i wrando arno tra'n paratoi eich twrcis a'ch llysiau. Gobeithio y daeth Sion Corn draw! Cofiwch rannu eich hanesion efo ni ar gyfer dadbacio holl hwyl y Nadolig yn y bennod nesaf. Ho ho ho! | |||
| 55 - Amour a Mynydd 2, Cabarela a'r super-ffliw | 18 Dec 2025 | 01:19:54 | |
Hir yw pob aros ond o'r diwedd, mae Mari a Meilir wedi llwyddo i agor y siop unwaith eto. Ar ôl trip i Ffrainc, a thaith go brysur Cabarela, mae yna lwyth o bethau i'w trafod, heb sôn am y pigion teledu a'r blwch cyfrinachau. Dyna ddigon o ragflas - i ffwrdd â chi i wrando! | |||
| Cyhoeddiad Gwasanaeth Cyhoeddus! | 04 Dec 2025 | 00:04:48 | |
Yn dilyn anhawsterau technegol (diolch i'r rhyngrwyd a'r glaw trwm) a'r ffaith fod Mari a Meilir yn mynd dramor am sbel... Ni fydd pennod am blwc felly ewch i gadw golwg ar gyfryngau cymdeithasol y ddau nes y daw nhw yn ôl i'r siop. | |||
| Siarad Siop x Llyfrgell Gen | 30 Nov 2025 | 00:25:18 | |
Wel, mae Mari a Meilir wedi cael trip bach i bencadlys diwylliant Cymru sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth i daro golwg ar yr arddangosfa newydd yno 'Portread a Phŵer'. Dewch i glywed ni'n defnyddio geiriau fel 'cyfoethogi' ac 'amlddiwylliannol' - da ni'n gallu bod yn posh hefyd wyddoch chi! * Mae'r bennod hon wedi ei hariannu gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i hyrwyddo arddangosfa 'Portread a Phŵer'. #AD | |||
| 54 - Wicked: For Good, "Quiet, Piggy" a partïon plu | 27 Nov 2025 | 01:39:15 | |
O'r diwedd, mae pennod olaf Wicked wedi ei rhyddhau ac mae gan Meilir lawer i'w rannu (heb spoilers wrth gwrs)! Rydym yn ffarwelio gyda'e moch daear am y tro olaf yn y bennod hon - a sôn am foch, mae Tr*mp wedi llwyddo i fychanu menyw unwaith yn rhagor! Mae'r blwch unwaith eto yn gorlifo â cheisiadau felly dewch mewn i'r siop - mae'r drysau ar agor. | |||
| 53 - Penblwydd RuPaul, parti Kris Jenner ac adverts dolig | 20 Nov 2025 | 01:38:28 | |
Wel mae gwyntoedd oer y gaeaf wedi cyrraedd o'r diwedd felly dewch i mewn i'r siop i glywed hanesion yr wythnos - o antics carped coch Wicked, dawnsathon Emma a Trystan i weiddi ar wylanod. We've got it all. Felly swatiwch a mwynhewch! | |||
| Siarad Siop x Stad | 16 Nov 2025 | 00:36:35 | |
Mae Mari a Meilir wedi gwirioni fod ail gyfres Stad wedi cyrraedd ac ar gael i'w gwylio fel bocset ar S4C Clic/BBC iPlayer neu bob nos Sul am 9pm ar S4C. Pwy well i drafod y gyfres ond gwestai cyntaf y podlediad, sef un o sgriptwyr y gyfres - Lleucu Sion. Dewch i mewn i wrando reit handi! *Mae'r bennod hon wedi ei hariannu gan S4C i hyrwyddo ail gyfres deledu 'Stad' ar S4C #AD | |||
| 52 - Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani | 13 Nov 2025 | 01:36:19 | |
Roedd hi'n wythnos lwyddiannus i Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani yr wythnos ddiwethaf felly mae'n silffoedd ni'n llawn dop yn barod ar eich cyfer chi. Ar ben hynny, mae Mari a Meilir wedi ail-ymweld â'r rhestr enwau drag arbennig gan James, Huw a Neil er mwyn rhoi dôs o lawenydd i ni cyn y penwythnos. Mwynewch! | |||
| 51 - Julia Fox, Mariah Carey a Mr Windsor | 06 Nov 2025 | 01:39:33 | |
Mae Calan Gaeaf wedi pasio ac mae Mariah wedi sgrechian ei neges - mae'n amser! Ydych chi'n barod i groesawu ysbryd yr Ŵyl? Pa wisg calan gaeaf oedd eich hoff un chi? Mewn wythnos pan welson ni dywysog yn colli ei goron a gwleidydd yn ymuno â panto, mae Mari a Meilir yn barod i siarad siop. Mewn â chi! | |||
| *BONWS* Rupaul's Dragrace UK 7 - Pennod 4&5 | 02 Nov 2025 | 01:01:13 | |
Hir yw pob aros ond dyma bennod bonws yn arbennig i chi yn trafod y ddwy bennod ddiweddaraf o Rupaul's Dragrace UK 7 - pennod 4&5. Mwynhewch! | |||
| 50 - Lily Allen, Kelvin R&R a Casper the ghost | 30 Oct 2025 | 01:46:58 | |
Yn y bennod sbŵci, dŵci, lŵci yma, mae Mari a Meilir yn tynnu albwm newydd Lily Allen yn ddarnau - gan drafod y manylion, yr alawon a'r holl fanylion mae hi'n ei rannu yn y caneuon. Newyddion trist oedd rhaid rhoi sylw iddo yr wythnos yma oedd marwolaeth Kelvin Walsh ar Rownd a Rownd, cyn i ni agor y blwch llawn o geisiadau a chyfrinachau. Dewch i mewn! | |||
| 49 - Thong Kim K, rhech Celia Imrie a jewels y Louvre | 23 Oct 2025 | 01:34:05 | |
Mae hi wedi bod yn wythnos a hanner i bopeth brenhinol - o ladrad y gwemweithiau o'r Louvre i Dywysog Andrew yn ildio ei freintiau brenhinol. O, ie...a ma Kim Kardashian wedi ychwanegu thong blewog i'w chasgliad dillad diweddaraf. Pawb at ei beth a bo, am wn i! A peidiwch a dechre ni off ar Cwîn Celia Imrie. Mewn â chi heb lol. | |||