Explorez tous les épisodes du podcast Siarad Siop efo Mari a Meilir
| Titre | Date | Durée | |
|---|---|---|---|
| Pennod 10 | 01 Jul 2024 | 00:56:52 | |
Dyma "welai di wap" yn hytrach na "hwyl fawr am byth"! Cyn i Mari fynd i gyflawni gwyrth y geni, roedd rhaid recordio un bennod fach arall i'ch cadw chi'n 'stocked up' tan tro nesa. Mae na ddigon yn y sgwrs yma i'ch cadw chi'n ddiddyg am dipyn - Chappell Roan, Glastonbury, Shania Twain, Celine Dion, Arabic Flavours Aber, Pride Caerdydd, triongl cariad Ayame a Yuval, stori gywilyddus arall gan Meilir a mwy...! Dewch i mewn am y tro olaf (am nawr) a llenwch eich basgedi. | |||
| Pennod 9 | 19 Jun 2024 | 01:19:06 | |
Shwmai! Peth da ein bod ni wedi aros noson ychwanegol cyn recordio, er mwyn gallu trafod y be ddigwyddodd yn Stadiwm y Principality neithiwr! Yn ogystal â'r newyddion gwych am Catty a Stevie Nicks, House of the Dragon yng Nghymru, Justin Timberlake yn cael ei arrestio, caneuon catchy Sabrina Carpenter a holl gwestiynnau'r gwrandawyr! Dewch i mewn, mae'r siop ar agor. | |||
| Y Ffeinal...o'r diwedd! | 05 Apr 2024 | 01:23:57 | |
Hir yw pob aros ond dyma ni'r bennod olaf o'r gyfres! Er nad oedd yr enillydd yn sioc, roedd na gymaint i'w fwynhau (a'i feirniadu) yn y bennod. Diolch i chi gyd am wrando, am gefnogi ac am gyfrannu at y sgwrs. Da ni wir yn gwerthfawrogi. Felly am y tro, mwynewch! | |||
| Mwy o gyw iâr amrwd na rhôst | 26 Mar 2024 | 01:26:16 | |
Diolch byth am ddoniau stand-up Hannah a Tia neu mi fyse'r bennod yma wedi bod yn siom enfawr. Ydi tasg stand-up yn deg pan nid Saesneg yw mamiaith hanner y Cwîns? Ddylse'r dair Cwîn fod wedi bod yn y gwaelod? Gewch chi glywed beth oedd gan Mari a Meilir i'w ddweud nawr! | |||
| Rhyddhewch ni...o'r dasg yma | 20 Mar 2024 | 01:14:46 | |
Sawl tasg wael arall sydd rhaid i ni ddioddef? Fyse chi wedi rhoi "seveeen" i'r bennod yma? Er gwaetha'r diffyg cynnwys, dydi hynny ddim wedi rhoi taw ar drafod Mari a Meilir. | |||
| Amser Gothy i gymryd ei bow | 12 Mar 2024 | 00:59:44 | |
Roedd y bennod ddiweddaraf yn llawn tasgau amheus - o 'reading challenge' ddi-fflach i sioe gerdd heb sioe. A wnaeth Gothy aros wythnos yn ormod? Ydi cangen 'UK vs The World' yn cael llai o ofal na changhenau arall y gyfres? Mae gan Mari a Meilir ddigon i'w ddweud ar y mater. | |||
| Pwy sydd am ddweud wrth Jane? | 04 Mar 2024 | 01:38:04 | |
Mae hi'n amser snatchgame unwaith eto! Oedd hi'n un llwyddiannus? Wnaeth Jane McDonald a Sinitta lwyddo i achub y llong rhag suddo? Pa wisg gipiodd y fflag, ac a oedd Ru yn rhy galed ar Gothy? Pwyswch play ac fe gewch chi glywed adolygiad Mari a Meilir a llawer llawer mwy. | |||
| Be ydi dy brand di? | 27 Feb 2024 | 01:17:24 | |
Ar ôl pennod ychydig fwy rhwystredig, mae Mari a Meilir yn ceisio darganfod be yn union oedd y dasg yr wythnos hon. Doedd y Cwîns fawr callach chwaith! Oeddech chi'n cytuno efo dewis y ddwy Cwîn fuddugol? Beth fyddech chi wedi ei ddewis? Cliciwch 'play' i ymuno yn y drafodaeth nawr. | |||
| Fe gei di fynd i'r 'ball'! | 20 Feb 2024 | 01:20:34 | |
Tri chynnig i'r Cwîns! Da ni'n cael ein diffethaf yr wythnos hon efo nid un, nid dau ond tri categori ar y runway. Pwy drödd o froga yn dywysog, pwy frathodd yr afal a phwy gafodd eu 'hapus am byth bythoedd'? Wel, pwyswch play ac mi gewch chi glywed y cyfan gan Mari a Meilir nawr. | |||
| Wnaethoch chi golli ni? | 12 Feb 2024 | 01:42:53 | |
Da ni methu cadw draw ac mi rydyn ni nol yn gorlifo efo brwdfrydedd a chynwrf am ail gyfres RuPaul's Dragrace UK vs The World. Mae hon yn bennod arbennig, ychydig hirach gan ei bod yn ddechrau cyfres a chymaint i'w drafod! O, mae hi'n braf bod nol. | |||
| Y Goron | 11 Dec 2023 | 01:21:56 | |
Mae'r amser wedi dod i goroni brenhines cyfres 5 o RuPaul's Dragrace UK a da ni'n barod amdani... Ychydig yn hwyrach na'r arfer, ond da ni'n mwydro ddigon i'w gwneud hi'n un werth aros amdani. Ar eich marciau, barod...EWCH! | |||
| Rhôst tanboeth y Cwîns | 28 Nov 2023 | 00:58:59 | |
Mae Mari a Meilir yn gytun (am unwaith) mai hon yw pennod orau cyfres 5 hyd yma, ac am bennod yw hi hefyd! Pob cwîn yn llwyddo yn y sialens, llond lle o jôcs da, drama yn y Werkroom a lewks ar y runway yn deilwng o fod yn Fashion Week. | |||
| Pennod 8 | 12 Jun 2024 | 01:14:23 | |
Mae hi'n oer tu allan felly dewch i mewn i gadw'n gynnes. Mae yna ddigon o newyddion tanboeth i'n cadw ni i fynd nes daw'r haf. O gyngherddau Taylor Swift, Troye Sivan a Pink, datblygiadau AI Meta ac Apple i gyfres deledu newydd Sian Eleri. Swatiwch, gwrandewch a mwynhewch! | |||
| Mae teulu'n bwysig! | 22 Nov 2023 | 01:17:53 | |
Pwy sydd ddim yn hoff o'r sialens drawsnewid? Troeon cynta mewn sodlau, wigs a cholur a llwyth o straeon twym-galon. Hefyd, mae yna westai arbennig ar y podlediad yr wythnos yma sy'n coroni'r cyfan. Beth sydd ddim i'w hoffi? Wel, dipyn go lew o bethau yn ôl Mari a Meilir. | |||
| Am opera sebon! | 14 Nov 2023 | 01:10:01 | |
Roedd na ddigon o ddrama o fewn y dasg a'r bennod yr wythnos hon i gadw Mari a Meilir yn sgwrsio, chwerthin, dadlau a dadansoddi am dros awr. Mae na drafod ffafriaeth, pyjamas a chamelod..! Be well? | |||
| Ma'r Snatch Game wedi cyrraedd! | 09 Nov 2023 | 01:13:08 | |
Y bennod mae PAWB yn edrych ymlaen amdani. Y dasg sy'n gwthio'r Cwîns i'r eithaf. Ond pa gymeriad oedd eich hoff un chi? Oedd Mrs Doubtfire yn gweithio efo acen o'r 'deep south'? Ddylie Lady C fod wedi gadael y jwngwl? Mari a Meilir sydd wedi bod yn trafod unwaith yn rhagor, gyda digon o caclo bob hyn a hyn. | |||
| Ma' hi tu ôl i ti! | 31 Oct 2023 | 01:14:01 | |
Mae Calan Gaeaf BRON ar ben felly mae hi'n saff i ni ddweud y gair na. Nadolig! A phwy sydd ddim yn hoff o bantomeim dros gyfnod yr Ŵyl? Ond sgwn i beth oedd barn Mari a Meilir o 'Pant-Oh She Better Don't'? Oedden nhw'n gwgu neu'n dathlu wrth weld y gwisgoedd ar y runway? | |||
| Cwymp y Cwîns Buddugol | 23 Oct 2023 | 01:03:45 | |
Yn y bennod fwya dramatig o'r gyfres hyd yma, ar ochr pwy ydych chi? Wrth i'r dair cwîn sydd eisoes wedi ennill ddisgyn i'r gwaelod, mae'r tensiwn yn tasgu rhwng Banksie, Cara Melle a Vicky Vivacious. | |||
| Oes gen ti "ick"? | 18 Oct 2023 | 01:05:54 | |
Yn y bennod yma, mae'r dasg grwp pop yn codi nifer o atgofion i Mari a Meilir. Y platforms, y posters a'r girl power! Ond pa grwp roddod yr "ick" i "yum" y ddau? 'Sgwn i pa cwîn ddeniadol sydd wedi rhoi dipyn o benbleth i Meilir, a beth sy'n achosi i'r ddau ddweud "weithiau ni'n cytuno a weithiau ni ddim" am y tro cyntaf y gyfres yma? | |||
| Gwin..Sori, Cwîns efo Mari a Meilir | 11 Oct 2023 | 01:07:42 | |
Mae'r drincs yn llifo bron cymaint a barn Mari a Meilir. Mae yna hen ddigon i'w ddweud am wisgoedd amrywiol y Cwîns, ffrae Tomara a Cara, y gwestai Yasmin Finney...a sgwrs sydyn am atgyfodiad Big Brother! | |||
| Dechrau'r râs i cwîns cyfres 5 | 05 Oct 2023 | 01:04:07 | |
Mae Rupaul's Dragrace UK yn ei ôl... sy'n golygu ein bod ni nol! Da ni methu aros i ddod i adnabod y criw newydd yma o CWÎNS. | |||
| BONWS British Podcast Awards | 05 Oct 2023 | 00:20:57 | |
Pennod fach fer yn sôn am bob dim British Podcast Awards. Mi wnawn ni gau'n cegau am y digwyddiad ar ôl hwn, GADDO! | |||
| Coroni Cwîn Cyfres Pedwar! | 28 Nov 2022 | 01:21:50 | |
Da ni wedi cyrraedd y ffeinal - ac am ffeinal oedd hi hefyd. Gwisgoedd, aduniadau, dagrau, megamix a'r lipsync i guro POB lipsync. Gwisgwch eich gwregys, mae hi'n dipyn o rollercaster! | |||
| Pennod 7 | 06 Jun 2024 | 01:04:26 | |
Mae'n sgyrsiau ni yn dod â phawb i'r iard...ac mae na lot i'w drafod yr wythnos hon. Lost Boys and Fairies, mis Pride, Eisteddfod yr Urdd, talfyriadau, dadleuon gwleidyddol, triongl cariad Tik Tok... Ydyn ni 'di anghofio rhywbeth? Dewch i mewn, mae'r siop ar agor! | |||
| Da ni bron dros y linell derfyn! | 21 Nov 2022 | 01:06:21 | |
O ystyried ei bod hi'n bennod gyn-derfynol, doedd na fawr o dân yn yr her gomedi yma yn anffodus. Yng ngeiriau'r anfarwol Trinity the Tuck, "where are the jokes?" Ond roedd na well siap ar y runway wrth i'r cwîns arddangos eu giwsgoedd punk fwyaf pwreus. Ydych chi'n hapus efo'r bedair sydd yn mynd i'r ffeinal? | |||
| Mae Mama Ru yn ei hôl! | 14 Nov 2022 | 01:06:53 | |
Er mor braf oedd gweld Mother Ru yn ôl yn ei sedd, doedd hynny dal ddim yn ddigon i dynnu sylw oddi wrth y sgript ofnadwy ar gyfer y dasg yr wythnos yma. Llanast llwyr! Ydi'r cwîns eraill yn dechrau cornelu Jonbers? Oedd Pixie wir yn crïo? Ydych chi'n cytuno efo canlyniad y lipsync? Oedd y looks yna'n anhygoel? 'Sgwn i os ydych chi'n cytuno efo Mari neu Meilir...? | |||
| Dirgelwch diflaniad Rupaul! | 07 Nov 2022 | 01:10:39 | |
Ble'r aeth y Cwîn RuPaul ei hun? Pwy ddewisodd y gân lipsync yna? A ddyliai Boy George fod ar y panel beirniadu? Rhain yw rhai o'r cwestiynnau mae Mari a Meilir yn YSU i'w trafod yr wythnos yma. Sgwn i os fyddwch chi'n cytuno efo barn Meilir neu Mari am y Cwîn fuddugol yr wythnos yma? Wel, i ffwrdd a chi! | |||
| Dyma hi! YYYY Snatchgame! | 29 Oct 2022 | 01:14:45 | |
Ma'n gwallt ni di gwynnu ar ôl y Snatchgame yna! Diolch byth bod Cwîn Elizabeth y Cyntaf yn eu plith nhw i achub y llong. Ydi Pixie rhy hunan-dosturiol? Pwy enillodd y lipstink? Nath Danny gynllwynio i newid ei gymeriad? Be sy di hollti barn Mari a Meilir? Wel, cliciwch play a gwrandewch. | |||
| Pennod orau RPDR UK erioed? | 24 Oct 2022 | 01:09:26 | |
Ma'r bennod yma o Cwîns yn jam packed ac yn fwy amrywiol na paced o Rowntree's Randoms. O Liz Truss i Jane McDonald, o lipsync legendary i ymadawiad ysgytwol ac o sioeau radio i sioeau cerdd. Barod amdani? AWÊ! | |||
| Gwell hwyr na hwyrach! | 19 Oct 2022 | 01:10:44 | |
Moelni, mwng, Michelle Visage, ymddiheuriad i T. H. Parry Williams, Hocus Pocus 2... Ma na dipyn bach o bob dim yn y bennod yma. Gan gynnwys y twerk exit fwyaf eiconig erioed. Mwynhewch! | |||
| Be ddigwyddodd i'r bingo? | 10 Oct 2022 | 01:06:55 | |
Da ni wir yn cael dod i nabod y cwins bellach ac mae ganddo ni ein ffefrynnau hyd yma. Be oeddech chi'n feddwl o'r sialens yma? Oes na ffasiwn beth a high fashion mewn bingo hall? Faint ohono chi sy di ffeindio cariad ar app? Hyn i gyd ar y bennod yma o Cwins! | |||
| Ew, mai'n mynd yn dda yma! | 03 Oct 2022 | 01:05:23 | |
Ma rhaid dweud - ma cwîns y gyfres yma wir wedi'n cyffroi ni a wnaeth pennod 2 ddim siomi. Be sy'n cyfri fel neon? Less is more? Be ma'r beirniaid ma isho? Pwy di Cathy Dennis? Dyma grafu'r wyneb ar rai o gwestiynnau da ni'n eu trafod yn y bennod yma. Oes gennych chi ffefryn hyd yma? | |||
| Haleliwia, da ni nol! | 26 Sep 2022 | 01:23:10 | |
Da ni mor falch fod y gyfres yn ei hôl yn dilyn holl ddigywddiadau'r haf. Da ni'n dechrau cyfres 3 o'n podlediad efo pennod hirach na'r arfer gan fod CYMAINT i'w drafod. Ma hi'n braf bod nol! | |||
| Calan Gaeaf Cwîns | 31 Oct 2022 | 00:07:19 | |
Gan ei bod hi'n Galan Gaeaf, dyma ddarn ychwanegol gafodd ei dorri o'r bennod ddiwethaf i chi ei fwynhau tra'n cerfio eich pwmpen neu'n paratoi eich hysgyb. Mwahahaha! | |||
| Pennod 6 | 29 May 2024 | 01:13:06 | |
Wel, am wythnos lawn dop! Digon i lenwi siop o siarad. Yr etholiad cyffredinol, albwm newydd Eden, Eisteddfod yr Urdd, Kelly Rowland yn Cannes, arrestio Nicki Minaj, Gypsy Rose a Kim K, llwyddiant Catrin Feelings a mwy...coeliwch neu beidio! | |||
| Enillydd DU vs Y Byd yw... | 11 Mar 2022 | 01:10:06 | |
Da ni wedi cyrraedd y ffeinal ac mae'n gyfle i ni adlweyrchu ar gyfres arall o Rupaul's Dragrace. Cytuno neu beidio, mae Ru wedi dewis 'Brenhines y Byd' gyntaf y gyfres ac mae gan Mari a Meilir ddigonedd i'w ddweud am y mater. | |||
| Y bennod gyn-derfynol! | 04 Mar 2022 | 01:30:37 | |
Yn y bennod yma, mae'r cwîns yn cwffio am y cyfle i gael canu cân efo Rupaul...drwy ganu cân efo Rupaul! Pwy fydd y bedair wnaiff oroesi i'r ffeinal?! A be ydi diffiniad 'Darn o Gelf'...? | |||
| Brad lipstick Blu | 25 Feb 2022 | 01:32:18 | |
Rhaid dweud mai hon oedd un o benodau fwyaf dramatig a chofiadwy o Dragrace ers amser maith. Mae ymateb y ffans wedi adlewyrchu hynny ac mae'r dadlau rhwng Mari a Meilir yr un mor danllyd. A wnaeth Blu y peth iawn? Ydych chi'n cytuno hefo'r fformat 'Allstars'? | |||
| Ail gynnig ar bennod 3! | 21 Feb 2022 | 01:10:20 | |
Ar ôl anffawd technegol, da ni o'r diwedd wedi llwyddo i ail-recordio ein adolygiad o bennod 3. Llond llwyfan o Westend Wendys a gwisgoedd smotiog, heb sôn am yr elimination controversial arall na! | |||
| Y categori yw... | 11 Feb 2022 | 01:34:52 | |
Pwy sydd ddim yn hoff o 'ball'? Yn enwedig pan mae na 3 chategori. Wel, dim Baga Chipz yn ôl pob golwg! A be am ddewis dadleuol Ru o'r ddwy cwîn yn y safle gwaelod yr wythnos yma? Cliciwch 'play' ac mi gewch chi wybod yn union be da ni'n feddwl. | |||
| O bedwar ban byd! | 04 Feb 2022 | 01:24:06 | |
Mae'r cwins rhyngwladol wedi cyrraedd a dydi Ru ddim am roi eiliad iddyn nhw orffwys wrth ofyn iddyn nhw gyflwyno eu talentau mewn sioe arbennig. Efallai bod ambell un wedi llwyddo yn well na'i gilydd... Gwrandewch i glywed pwy oedd ffefryn pennod 1 Mari a Meilir. | |||
| Cwîns yn erbyn y byd... | 28 Jan 2022 | 00:52:37 | |
A oes heddwch? No chance. Cyfres arall y Dragrace ar y BBC yn golygu un peth...CYFRES ARALL O CWINS! A ma hi mor braf bod nol. Yn y bennod yma, da ni'n trafod y line-up o frenhinesau byd-enwog sydd am gystadlu ar gyfer coron Brenhines y Byd. Mwynhewch! | |||
| Ac enillydd y drydedd gyfres yw... | 29 Nov 2021 | 01:34:11 | |
Wel, ma rhaid bod yn onest, doedd Mari na Meilir wedi rhagweld y byddai'r bennod olaf yn gorffen fel hyn. Da chi'n cytuno efo pwy wnaeth Rupaul ddewis fel enillydd? Gan fod cymaint i'w drafod am y ffeinal, dyma bennod arbennig ychydig hirach na'r arfer i ddathlu diwedd y gyfres gyntaf o Cwîns. Mwynhewch a diolch am wrando, Cwîns! | |||
| Pwy sydd am fynd i'r ffeinal? | 22 Nov 2021 | 01:02:42 | |
Da ni wedi cyrraedd y bennod gyn-derfynol o gyfres 3 ac mae'n amser i'r cwîns ddangos eu doniau 'stand-up'. Pwy oedd y gorau? Oedd rhagdybiaethau Mari a Meilir am y dair cwîn derfynol yn gywir? A'r limpstink (lipsync) yna - gwefreiddiol! | |||
| Nid Dragrace cyffredin mohono ond...Bra Wars? | 15 Nov 2021 | 01:07:42 | |
Heblaw am y sgript ofnadwy ac outfit...gwahanol Ru, mae yna lawer i'w ddathlu am y bennod yma. O sesiwn gastio Kitty i Yolo Vanity! Ond mae Mari a Meilir yn meddwl fod llaw gynhyrchu yn parhau i wyro ein barn am y cwîns. Ond am ffordd i orffen pennod efo lipsync for your life a hanner. Pwy sydd ddim isho 'chydig o deathdrops ac ambell split? | |||
| Pennod 5 | 22 May 2024 | 01:08:01 | |
Llond trol o straeon yr wythnos yma, bois bach! O linach Cymraeg Dolly Parton, rhaghysbyseb Wicked, araith seremoni raddio Harrison Butker, canlyniad yr ymchwiliad i'r sgandal gwaed ac actorion cwiar ar gyfer rhannau cwiar. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor! | |||
| Weithiau ni'n cytuno a weithiau ni ddim | 08 Nov 2021 | 01:05:40 | |
Mi fyddwch chi'n falch o glywed fod Mari a Meilir wedi mwynhau'r bennod ddiwethaf o Rupaul's Drag Race UK yn ofnadwy. ac wedi maddau i Rupaul am y 'double elimination' yna. Mae'r dasg newydd sbon, ymddangosiad Charity Shop Sue a brwdfrydedd y beirniad gwadd, Alesha Dixon yn gwneud hon yn bennod i'w chofio a'i dathlu (diolch byth). Ond un peth fedrith Mari na Meilir gytuno arno,,,yw Krystal Versace. Be di'ch barn chi? | |||
| Diweddglo dadleuol pennod chwech | 01 Nov 2021 | 01:02:48 | |
Dydi Mari na Meilir yn hapus ar ôl un o benodau fwyaf dadleuol y gyfres. Wedi Snatch Game gymharol lwyddiannus, doedd neb yn disgwyl i bethau fynd o chwith fel y gwnaeth hi ar y runway. Doedden ni methu aros i drafod y bennod yma er mwyn rhyddhau ychydig o stêm. Ydych chi'n cytuno efo penderfyniad Ru? | |||
| DYNA sut ti'n 'tuckio'? | 25 Oct 2021 | 01:03:51 | |
Ar ôl pennod...ddiddorol arall, mae ganddom ni lawer iawn i'w drafod. Sut hysbyseb fyse ti wedi ei wneud? Pwy yw Miranda Preistley? Oedd gan Mama Ru reswm i fod mor flin? Heb anghofio, mae Meilir yn datgelu dirgelwch y 'tuck' i Mari, unwaith ac am byth. Not for the faint hearted. | |||
| Pa Spice wyt ti? | 18 Oct 2021 | 01:02:23 | |
Roedd y bennod ddiweddaraf o Rupaul's Drag Race yn llawn nostalgia o oes aur y grwpiau pop. Fe lwyddodd un grwp o cwins i serennu, ond gafodd y lleill dipyn o 'tragedy' ar y llwyfan... Sori am y jôc, odd rhaid i ni! Heb anghofio, y categori runway gorau eto sef 'A Night of a Thousand Spice Girls'. Felly ewch i wisgo'ch platfforms, popper tracksuits a'ch Walkman's a mwynhewch y bennod yma o Cwins. | |||