Explorez tous les épisodes du podcast Pryd ar Dafod
| Titre | Date | Durée | |
|---|---|---|---|
| Pennod 12: Llwyd Owen | 22 Jan 2026 | 01:12:08 | |
Yr awdur, y podgastiwr a'r housewife anhygoel (diolch am y daal a'r brownies!) Llwyd Owen yw gwestai diweddara' Ianto a Dewi. O enwau canol gwirion i ryseitiau rili neis, mae llwyth i'w fwynhau ar y fwydlen! | |||
| Pennod 11: Rhodri Davies | 23 Dec 2025 | 00:55:40 | |
Ho, ho, ho. Nadolig Llawen! Ein "Christmas Special" cynta' a sgwrs digon sbeshal gyda'r cogydd Rhodri Davies. Gaethon ni groeso cynnes ym mecws Alex Gooch, ar leoliad ei pop-yp, Sôs (@Sos_with_a_hat ar Instagram) a joio trafod bwyd, Cymraeg Plasmawr, ac ambell i gyfrinach am hoff a chas gogyddion Rhodri. Joiwch, bwytewch a byddwch lawen (a sori am safon y sain!) x | |||
| Pennod 2: Emyr Siôn | 08 Jul 2025 | 00:47:28 | |
***Rhybudd - iaith gref*** Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Yn yr ail bennod, y cerddor a'r all-round funny guy Emyr Siôn yw'r gwestai. Dyma'ch cyfle i glywed os yw Emyr wir yn ddosbarth canol adeg 'Dolig. Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch! | |||
| Pennod 1: Jac Llwyd Northfield | 24 Jun 2025 | 01:02:11 | |
***Rhybudd - iaith gref*** Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Yn y bennod gyntaf, Jac Llwyd Northfield sy'n ymuno â Dewi ac Ianto. Boi doniol sy'n hoff o goginio, bwyta a rhannu ryseitiau. Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch! | |||
| Pennod 10: Gareth Potter | 15 Dec 2025 | 01:03:00 | |
Y DJ, yr actor, y tywysydd, y sgwennwr, y canwr, y gwr bonheddig Gareth Potter sy'n gwmni i Ianto a Dewi tro 'ma. Chat lyfli a doniol am fwyd, cerddoriaeth, celfyddydau a'r Cymoedd. Gwrandewch, rhannwch a joiwch! | |||
| Pennod 9: Katie Hall | 11 Nov 2025 | 00:44:00 | |
***Rhybudd - iaith grêfi*** Yn y bennod hon, yr amryddawn, yr anhygoel, yr Aberdâr lej, Katie Hall o'r band Chroma sy'n ymuno gyda ni i drafod popeth o fiwsig i fwyd, tyfu lan a chillo mas. Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch! | |||
| Pennod 8: Daniel Glyn | 28 Oct 2025 | 00:43:44 | |
***Rhybudd - iaith grefi*** Comedïwr, ysgrifennwr... stuntman? Daniel Glyn sy'n ymuno 'da ni tro 'ma. Doniol, dirdynnol, diddorol a llwyth o eiriau eraill yn dechrau gyda d. Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Blydi Lyfli. | |||
| Pennod 7: Gwion Ifan | 09 Oct 2025 | 00:48:53 | |
***Rhybudd - iaith grefi*** "Y boi 'na o'r gorllewin sydd ar Hansh", Gwion Ifan sydd gyda ni wythnos 'ma. Y drydedd bennod yn fyw o'r 'Steddfod (ond y gynta' i gael ei recordio). Llwyth o hwyl a siarad am 'chydig o fwyd blasus. Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Tasty butt. | |||
| Pennod 6: Mari Elen | 03 Oct 2025 | 00:38:21 | |
***Rhybudd - iaith grefi*** Y perfformiwr, y dramodydd a'r PodledWrach Mari Elen sydd gyda ni tro' 'ma. Yr ail bennod yn fyw o'r 'Steddfod yn Wrecsam. Lot o hwyl, llwyth o smut - be well? Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Hapus. Blasus. | |||
| Pennod 5: Morgan Elwy | 16 Sep 2025 | 00:40:17 | |
***Rhybudd - iaith gref*** Y cerddor, y gwyddonydd a'r bach o bach o foodie (sori) Morgan Elwy yw'r gwestai tro 'ma. Yn fyw o Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Joiwch. Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. | |||
| Pennod 4: Siôn Owens | 29 Aug 2025 | 00:58:49 | |
Siôn Owens - y comedïwr, y Cofi a basydd (de Cymru) Bwncath - yw ein gwestai tro 'ma. Boi doniol a diddorol sydd â dewisiadau bwyd digon...ym...diddorol. Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.Joiwch! | |||
| Pennod 3: Hanna Jarman | 01 Aug 2025 | 00:54:52 | |
***Rhybudd - iaith gref*** Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Yr actor, awdur a'r dramodydd (a'r foodie) Hanna Jarman sy'n ymuno â nhw yn y bennod hon. Bone apple teeth! | |||
| Pennod 13: Steffan Dafydd | 12 Feb 2026 | 00:50:34 | |
***Rhybudd - iaith grêfi*** Yn y bennod hon, y cerddor a'r artist Steffan Dafydd sy'n ymuno â Ianto a Dewi a'n rhannu ei hoff brydau. Ni'n trafod loads o bethe - bwyd, cerddoriaeth a Plasmawr wrth gwrs - ma llwyth ar y fwydlen yn y bennod hon. Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Jolch x | |||
| Pennod 14: Efa Lois | 20 Mar 2026 | 00:55:37 | |
Yn y bennod hon, y dylunydd, yr artist a'r awdur Efa Lois sy'n ymuno â Ianto a Dewi a'n rhannu ei hoff brydau. Ni'n trafod Penweddig, pinafalau, priodas, partis - a lot mwy o bethau'n dechrau gyda p. Joiwch. A sori bo ni'n siarad am bethe Nadoligaidd yn aml - ga'th hwn ei recordio jyst cyn Dolig (wps!). | |||
| Pennod 15: Siôn Tomos Owen | 10 Apr 2026 | 00:57:10 | |
Yr awdur, artist, cyflwynydd, y foodie (a'r Bardd Plant Cymru wrth gwrs) Siôn Tomos Owen yw gwestai y bennod hon. Lot o falu awyr, lot o fwyd a lot o hwyl. Mwynhewch! | |||
| Tamed i Aros Pryd: 1 | 23 Apr 2026 | 00:11:13 | |
Reit, mae gwneud podcasts yn cymryd sbel. So dyma rhywbeth bach i chi, rhywbeth wythnosol, pallete cleanser fel petai. Jyst Dewi a Ianto yn bwyta rhywbeth, yn siarad am brydau bwyd a dod lan gyda syniadau am raglenni rybish i S4C. Bydd y penodau arferol gyda gwestai arbennig yn dod mas bob hyn a hyn wedyn hefyd! Joiwch! ***** Making a podcast is time consuming! So we've decided to give you a little snack to get you through whilst you wait. A pallete cleanser if you will. Enjoy us rambling on about our weekly meals and lunchtime bites and any other general rubbish we've thought of during the week. Our usual episodes will still be coming with more amazing guests - Enjoy! | |||
| Pennod 16: Nick Yeo | 13 May 2026 | 00:49:37 | |
***RHYBUDD: IAITH GREFI*** Cyflwynydd y podlediad arobryn (ie, "award winning" yn Gymraeg, weird) 'Sgwrsio', Nick Yeo yw gwestai Dewi ac Ianto yn y bennod hon. O drafod Rome Total War i ryfela am ba ran o Gaerdydd sydd orau, ni'n trafod all things Cymraeg, ac wrth gwrs, bwyd. Mwynhewch! | |||
| Pennod 17: Heledd Cynwal | 16 Jun 2026 | 01:12:52 | |
Wel wel wel, ni mor chuffed i allu cael sgwrs gyda un o "proper enwogion" Cymru - y cyflwynydd a'r anhygoel Heledd Cynwal. Diolch yn fawr i Heledd am y sgwrs anhygoel lle naethon ni drafod bwytai, tafarndai, llyfrau, ryseitiau (a llwyth o bethau eraill yn gorffen gyda "ai/au". Mae'n sgwrs sy'n mynd â ni holl ffordd o Gaerdydd i Landeilo, via Bethlehem. Gobeithio wnewch chi fwynhau gymaint â wnaethon ni wrth recordio! | |||