Retour

Explorez tous les épisodes du podcast Colli'r Plot

Plongez dans la liste complète des épisodes de Colli'r Plot. Chaque épisode est catalogué accompagné de descriptions détaillées, ce qui facilite la recherche et l'exploration de sujets spécifiques. Suivez tous les épisodes de votre podcast préféré et ne manquez aucun contenu pertinent.

Rows per page:

1–50 of 62

TitreDateDurée
Dominatrix17 Sep 202400:55:00
Llyfr newydd Bethan Gwanas, trafod meddiannu diwylliannol (cultural appropriation), a ble mae'r lle gorau i wrando ar bodlediad Colli'r Plot?

Ymddiheuriadau Heledd Cynwal!

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

The Glutton - A.K Blakemore
Ysgrifau Llenorion - gol. John Lasarus Williams
The Story Spinner - Barbara Erskine
Hi-Hon - gol. Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis
Nice Racism - Robin Diangelo
Tadwlad  - Ioan Kidd
Sunset - Jessie Cave
The Satanic Mechanic – Sally Andrew
Y Morfarch Arian  - Eurgain Haf
The Hoarder - Jess Kidd
Madws - Sioned Wyn Roberts
The Trees - Percival Everrett
Ar Amrantiad - Gol Gareth Evans-Jones
Cysgod y Mabinogi - Peredur Glyn
Yn Fyw o Babell Lên Eisteddfod Rhondda Cynon Taf10 Aug 202400:46:52
Rhifyn arbennig o Colli'r Plot yn fyw o Babell Lên Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024.

Trafod hanes ein 'Steddfod, gwychder Pontypridd, y fedal Daniel Owen, llyfrau da ni wedi darllen a mwy.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Doppelganger - Naomi Klein
Hi/Hon - gol Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis
Cân y Croesi - Jo Heyde
How to ADHD - Jessica McCabe
The Lost Bookshop - Evie Woods
Y Fawr a'r Fach 2, Straeon O'r Rhondda - Siôn Tomos Owen
100 Records - Huw Stephens
Y Cysgod yn y Coed - Bob Morris
Mae gêm yn fwy na gêm - gol. Sioned Dafydd
Camu - Iola Ynyr
Cariad yw - Casi Wyn
Madws - Sioned Wyn Roberts
Sgwrs Llwyd Owen23 Jan 202400:47:11
Llwyd Owen yw'r gwestai diweddaraf ar Colli'r Plot wrth i Manon clywed am y nofel ddiweddaraf, Helfa.

Pam mae Llwyd yn ysgrifennu? Beth yw'r dylanwadau arno? Sut mae creu nofelau tywyll llawn tensiwn?

Sgwrs difyr a hwyliog.

RHYBUDD: IAITH GREF!
Llyfrau'r Flwyddyn20 Dec 202300:59:38
Trafod y llyfrau wnaethon ni mwynhau yn ystod y flwyddyn a cheisio creu ein rhestr Llyfr Y Flwyddyn. Sut mae cyfieithu i BT yn ennill 'kudos' a fel y disgwyl mae'r podlediad llawn hwyl yr wyl.

Llyfrau 2023:

Siân
Llyfr Y Flwyddyn - Mari Emlyn
Prophet Song - Paul Lynch

Aled
Y Bwthyn - Caryl Lewis
And Away - Bob Mortimer

Bethan
Sut i Ddofi Coryn - Mari George
Lessons in Chemistry - Bonnie Garmus

Dafydd
Sut i Ddofi Coryn - Mari George
A Terrible Kindness - Jo Browning Wroe

Manon
Llyfr Y Flwyddyn - Mari Emlyn
The Folklore of Wales: Ghosts - Delyth Badder, Mark Norman

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Sut i Ddofi Coryn - Mari George
The Rich - Rachel Lynch
Dathlu - Rhian Cadwaladr
I Let You Go - Clare Mackintosh
Cregyn ar y Traeth - Margaret Pritchard
Dros fy mhen a nghlustiau - Marlyn Samuel
A Little life - Hania Yanagihara
Rhwng Bethlehem a’r Groes - Barry Archie Jones
Pryfed Undydd - Andrew Teilo
Y Cylch - Gareth Evans Jones
The Christmas Guest - Peter Swanson
Sian Phillips - Hywel Gwynfryn
Gwreiddio - straeon byrion - amrywiol awduron
A Christmas Carol - Charles Dickens
Plant Annwfn - DG Merfyn Jones
Alone - Kenneth Milligan
Beth yw pwrpas lansiad llyfr?30 Nov 202301:02:13
Mae 'na wledd o lyfrau yn Colli'r Plot Tachwedd. Trafod y Rhinoseros yn yr ystafell, canmoliaeth ar gyfer Sut i Ddofi Corryn a beth yw pwrpas lansiad llyfr?

Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

The Warehouse - Rob Hart
Dros fy mhen a 'nglustia - Marlyn Samuel
The Year of Yes - Shonda Rhimes
The Darkness - Ragnar Jónasson
The Mist - Ragnar Jónasson
Tom's Midnight Garden - Philippa Pearce
Gwreiddio - straeon byrion - amrywiol awduron
Coblyn o Sioe - Myfanwy Alexander
Bullet in the brain - Tobias Wolff (stori fer)
I am Pilgrim - Terry Hayes.
The Martian Chronicles & Dandelion Wine - Ray Bradbury
Sut i Ddofi Corryn - Mari George
Hiwmor Tri Chardi Llengar - Geraint H. Jenkins
Unruly - David Mitchell
The Sanatorium - Sarah Pearse
Pryfed Undydd - Andrew Teilo
O Glust i Glust - Llwyd Owen
Darogan - Siân Llywelyn
Isaac and the egg - Bobby Palmer
Welsh Rugby: What Went Wrong - Seimon Williams
How to Win Friends and Influence People - Dale Carnegie
Cyfres Rwdlan - Angharad Tomos
Sgwrs Fflur Dafydd14 Nov 202300:31:38
Dafydd Llewelyn sydd yn sgwrsio gyda Fflur Dafydd.

Awdur sydd yn ysgrifennu nofelau ac ar gyfer y sgrin.

Cawn glywed profiadau Fflur fel awdur, hanes The Library Suicides a 'tips' ar gyfer sgwennwyr newydd.
Hunan ofal wrth sgwennu26 Oct 202301:03:07
Mae Manon wedi dychwelyd a dan ni'n mynd ar daith darllen o Rufain i Albania. Hunan ofal wrth sgwennu yw'r thema wrth i ni drafod sut yr ydyn yn edrych ar ôl ein gilydd trwy gyfnodau anodd.

Mae 'na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

The General of the Dead Army - Ismail Kadare
Y Fawr a’r fach - Siôn Tomos Owen
Pwy yw Moses John - Alun Davies
Menopositif - amrywiol gyfranwyr
Rhifyn cyntaf y cylchgrawn Hanes Byw
Gladiatrix – Bethan Gwanas
A World Without Email – Cal Newport
Y Nendyrau – Seran Dolma
The Island – Ragnar Jónasson
Shade Garden – Beth Chatto
Y Gwyliau - Sioned Wiliam
The Folklore of Wales: Ghosts - Delyth Badder, Mark Norman
Sêr y Nos yn Gwenu - Casia Wiliam
Salem - Haf Llywelyn
Paid a Bod Ofn - Non Parry
Cyfreithwyr a Chyfrolau'r Eisteddfod26 Sep 202300:54:31
Be' da ni'n meddwl o gyfrolau'r Eisteddfod, Hallt gan Meleri Wyn James a Gwynt Y Dwyrain gan Alun Ffred?

Mae 'na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Hallt – Meleri Wyn James
Gwynt y Dwyrain – Alun Ffred
Prophet Song – Paul Lynch
Tender – Penny Wincer
Menopause, the anthology – gol. Cherry Potts a Catherine Pestano
Ro’n i’n arfer bod yn rhywun - Marged Esli
Llygad Dieithryn - Simon Chandler
Y Nendyrau - Seran Dolma
The Ice Princess - Camilla Läckberg
Confessions of a forty-something F**k up - Alexandra Potter
No Plan B - Lee Child
Powell - Manon Steffan Ros
Un Noson - Llio Elain Maddocks
Mwy O Helynt - Rebecca Roberts
Pwy Yw Moses John - Alun Davies
Merched Peryglus - Angharad Tomos, Tamsin Cathan Davies
Yn Fyw o'r Babell Lên13 Aug 202300:52:54
Rhifyn arbennig o Colli'r Plot wedi recordio o flaen gynulleidfa yn y Babell Lên ar faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Rhybudd: Iaith Gref

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

The Lost Boy - Camilla Lackberg
The Spider - Lars Kepler
Gwynt y Dwyrain - Alun Ffred
My Cat Yugoslavia - Pajtim Statovci, cyfieithwyd gan David Hackston
Ddoi Di Dei, Llên Gwerin Blodau a Llwynau - Mair Williams
Poems from the Edge of Extinction _ gol. Chris McCabe
The Go-Between – Osman Yousefzada
YNaill yng Ngwlad y Llall – Seosamh Mac Grianna a David Thomas (golygydd a chyfieithydd – Angharad Tomos)
Mothers Don't – Katixa Agirre cyfieithwyd gan Kristin Addis
A'r ddaear, a’r ddim - Siân Melangell Dafydd
The Prophet and the idiot - Jonas Jonasson
Liverpool 1970s - Martin MayerHallt - Meleri Wyn James
Whaling - Nathan Munday
Deryn Brown a'r fedal Carnegie19 Jul 202301:03:51
Gwobr arall i ychwanegu at gabinet tlysau Manon, canmoliaeth ar gyfer Llyfr Y Flwyddyn, pwy yw'r awdur Deryn Brown?

Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros.

Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi.

Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

The Blue Book Of Nebo - Manon Steffan Ros
Lessons in Chemistry - Bonnie Garmus
Y Clerwr Olaf – Twm Morys
Llanw Braich,Trai Bylan – Huw Erith
Brokeback Mountain – Annie Proulx
Y Gwyliau - Sioned Wiliam
Y trên Bwled Olaf o Ninefe - Daniel Davies
Confessions of a forty-something f**k up - Alexandra Potter
Control Your Mind - Derren Brown
Llyfr y Flwyddyn - Mari Emlyn
The Library Suicides - Fflur Dafydd
Surviving to Drive - a year inside Formula 1 - Guenther Steiner
Pumed Gainc Y Mabinogi - Peredur Ap Glyn
Nico - Leusa Fflur Llewelyn
Drift - Caryl Lewis
Be ydy compulsive yn Gymraeg?21 Jun 202300:56:26
Gwestai arbennig wrth i fam Bethan ymddangos ar y podlediad.

Beth ydy compulsive yn Gymraeg?

Byddwch yn ofalus wrth wrando ar e-lyfrau yn y car!

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Unlawful Killings - Wendy Joseph KC
Mochyn Tynged - Glenda Carr
Y Trên Bwled Olaf o Ninefe - Daniel Davies
A Terrible Kindness - Jo Browning Wroe
Sêr y nos yn gwenu - Casia Wiliam
Mwy o Helynt - Rebecca Roberts
Bring up the bodies - Hilary Mantel
Hawk Quest a Imperial Fire - Robert Lyndon
Salem - Haf Llewelyn
The Fire Eaters - David Almond
The Moth Catcher - Ann Cleeves
The Unlikely Adventures of the Shergill Sisters - Balli Kaur Jaswal
Gwlad yr Asyn - Wyn Mason
Child in the Forest - Winifred Foley
Llythyr Noel - Dal Y Post - Noel Thomas
Mountain Punk - John Dexter Jones http://www.johndexterjones.com/
Y Bwthyn - Caryl Lewis
Cai - Eurig Salisbury
Rhedeg i Parys - Llwyd Owen
Chwadan Mewn Potel12 May 202301:00:46
Bethan yn datgelu prosiect Chwadan Mewn Potel, pwysigrwydd llyfrau da ar ward mewn ysbyty,
silff lyfrau (rhyfedd) Dafydd, a be mae pawb wedi bod yn sgwennu.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Actores a Mam - Sharon Morgan
Croesi Llinell - Mared Lewis
Salem - Haf Llewelyn
Hen Ferchetan - Ewan Smith
No Holds Barred - Lyndon Stacey
Needle - Patrice Lawrence
How the Light Gets In - Katya Balen
Gwlad yr Asyn - Wyn Mason ac Efa Blosse Mason
Milionêrs - Marlyn Samuel
Cwcw - Marlyn Samuel
Cicio'r Bwced - Marlyn Samuel
The Sparsholt Affair Alan Hollinghurst
Llyfr y Flwyddyn - Mari Emlyn
Moon Jellyfish can Barely Swim - Ness Owen
Arlwy'r Sêr – Angharad Tomos
Romeo and Julie - Gary Owen
Grav a Carwyn, Dwy Sioe Un Dyn - Owen Thomas, addasiadau Jim Parc Nest
Sudden Death - Rachel Lynch
I'r Hen Blant Bach - Heiddwen Tomos

Doctor Pwy?25 Jul 202401:05:03
Y podlediad meddygol Cymraeg wrth i ni ddarganfod bod yna tri doctor bellach ar y podlediad. 

Llongyfarchiadau i'r doctor newydd, Manon.

Mae darllen llyfrau yn dda i'ch iechyd.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Cysgod y Mabinogi - Peredur Glyn
Recipes for love and murder - Sally Andrews
Madws - Sioned Wyn Roberts
It Comes To Us All/Fe Ddaw Atom Ni Oll - Irram Irshad
Camu - Iola Ynyr
Y Bocs Erstalwm - Mair Wynn Hughes
Ultra-Processed People - Chris van Tulleken
Jac a'r Angel - Daf James
Gemau - Mared Lewis
Pris Cydwybod T.H.Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr - Bleddyn Owen Huws
Cloriau llyfrau gyda Siôn Tomos Owen14 Apr 202300:39:39
Rhifyn arbennig lle mae Aled yn trafod cloriau llyfrau gyda’r cyflwynydd, sgwenwr a dylunydd Siôn Tomos Owen.

Mae Siôn wedi creu cloriau ar gyfer nifer o awduron yn cynnwys Bethan a Dafydd ac mae’n obsessed gyda chloriau llyfrau.

Be sy'n neud clawr da? Lliwiau, fonts, delweddau a phob dim sy’n denu eich sylw at lyfr.
Canmoliaeth, llyfrau clawr caled ac awgrymiadau gan “selebs”16 Mar 202300:57:35
Canmoliaeth gan Dafydd, y broblem o ddarllen llyfrau clawr caled yn y gwely, awgrymiadau llyfrau gan “selebs”, a’r diffiniad Cymraeg o “puff piece”.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Y Stori Orau - Lleucu Roberts
Chwant - Amrywiol
The Library Suicides - Fflur Dafydd
Lessons in Chemistry - Bonnie Garmus
Real Tigers (Cyfres Slough House) - Mick Herron
Braw Agos - Sonia Edwards
Y Ferch o Aur - Gareth Evans
Breuddwyd Roc a Rôl? - Cleif Harpwood
Hagitude – Sharon Blackie
The Forest of Wool and Steel – Natsu Miyashita
Paid a bod ofn – Non Parry
Coraline – Neil Gaiman
The Scorch Trials – James Dasher
Cat Lady – Dawn O'Porter
The Artists and Writers Year Book 2022
Y Daith Ydi Adra - John Sam Jones
Cree - The Rhys Davies Short Story Award Anthology - gol. Elaine Canning
The Boy, the Mole, the Fox and the Horse - Charlie Mackesy
And Away - Bob Mortimer
The Lost girls - Kate Hamer
The Promise - Damon Galgut
I am not your perfect Mexican daughter - Erika L Sanchez
Twll Bach Yn Y Niwl - Llio Maddocks



Sgwrs Ddifyr Ddeallus Mewn Tafarn08 Feb 202300:47:39
Sgwrs Ddifyr Ddeallus Mewn Tafarn... ar ôl pymtheg peint.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

The Maze Runner - James Dasher
Llyfr Bach y Tŷ Bach - gol Bethan Gwanas
Minffordd: Rhwng Dau Draeth – gol Aled Ellis a Nan Griffiths
Shuggie Bain – Douglas Stuart
A Thousand Ships - Natalie Haynes
The Boat - Clara Salaman
Bwrw Dail - Elen Wyn
Darogan - Siân Llywelyn
Llyfr y Flwyddyn - Mari Emlyn
Rebel Skies - Ann Sei Lin
And Away … - Bob Mortimer
A Terrible Kindness - Jo Browning Wroe
Witches, James I and the English Witch-Hunts - Tracy Borman
Calum's Road - Roger Hutchinson
Girl, Woman, Other - Bernardine Evaristo
Y Llong - Irma Chilton
Gwirionedd - Elinor Wyn Reynolds
My Life as an Alphabet - Barry Jonsberg
The Illness Lesson - Clare Beams
Chwant - Amrywiol
The Midnight Library - Matt Haig
Normal People - Sally Rooney
Dark Pines - Will Dean
Faint O Lyfrau Da Ni'n Darllen Mewn Blwyddyn?13 Jan 202301:09:57
Blwyddyn newydd dda a chroeso i bennod gyntaf 2023.

Trafod faint o lyfrau da ni'n darllen mewn blwyddyn, pwysigrwydd ac apêl cloriau llyfrau ac wrth gwrs be da ni wedi bod yn darllen dros y mis diwethaf.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

The Satsuma Complex - Bob Mortimer
Yn Fyw Yn Y Cof - John Roberts
How To Kill Your Family - Bella Macckie
Snogs, Secs, Sens, Sgen i'm syniad - Gwenllian Ellis
Cwlwm - Ffion Enlli
Gwlad yr Asyn - Wyn Mason & Efa Blosse Mason
Anwyddoldeb - Elinor Wyn Reynolds
Rhwng Cwsg ac Effro - Irma Chilton
Dark Pines - Will Dean
Llyfr y Flwyddyn - Mari Emlyn.
O Glust i Glust – Llwyd Owen
Wintering – Katherine May
The Suitcase Kid – Jaqueline Wilson
Darogan –Sian Llywelyn
Unnatural Causes - Dr Richard Sheperd
Ail Drannoeth - John Gwilym Jones
Jude the Obscure - Thomas Hardy
Girl, Woman, Other - Bernardine Evaristo
Rhyngom - Sioned Erin Hughes
Bwrw Dail - Elen Wyn
Sgen I'm Syniad... am 'dolig15 Dec 202200:57:26
Trafod llyfrau da ni wedi bod yn darllen a beth sydd ar ein rhestr ar gyfer Siôn Corn.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Rhedeg i Parys - Llwyd Owen
O Glust i Glust - Llwyd Owen
House Arrest - Alan Bennett
Sgen i'm syniad - Gwenllian Ellis
Sblash! - Branwen Davies.
Without warning and only sometimes- Kit de Waal
Six Foot Six - Kit de Waal
Llyfr Bach y Tŷ Bach - gol. Bethan Gwanas
Rhwng Cwsg ac Effro - Irma Chilton
Llyfrau Point Horror - R.L. Stine
Jude the Obscure - Thomas Hardy
Mori - Ffion Dafis
Twll Bach Yn Y Niwl - Llio Maddocks
Better Off Dead - Lee Child
Gwlad Yr Asyn - Wyn Mason / Efa Blosse Mason
Atgofion drwy Ganeuon: Gweld Sêr - Siân James
The Satsuma Complex - Bob Mortimer
Colli'r Plot ym Mhatagonia08 Nov 202200:50:45
Croeso i bennod mis Tachwedd.

Mae Bethan ar wyliau ym Mhatagonia ac yn cael gwell wifi na rhai o'r criw yng Nghymru.

Esyllt Nest Roberts sydd yn ymuno efo Dafydd, Bethan, Manon a Siân i roi flas ar fywyd awdur Cymraeg ym Mhatagonia.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Sgen i'm syniad: Snogs, Secs a Sens - Gwenllian Ellis
The Lives of Brian - Brian Johnson
Wonder - R J Palacio
Rhyfeddod - Eiry Miles
Dry - Augusten Burroughs
Rhyngom - Sioned Erin Hughes
Anthropology - Dan Rhodes
How to be an ex-footballer - Peter Crouch
Llyfrau, llyfrau, a mwy o lyfrau14 Oct 202200:49:47
Dan ni wedi bod yn darllen dipyn dros y mis diwethaf ac yn awyddus i rannu rhai o'r llyfrau gyda chi cyn i Bethan fynd ar antur i Batagonia ac anghofio'r llyfrau mae eisiau trafod.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Capten - Meinir Pierce Jones
Rhyngom - Sioned Erin Hughes
Sgen i'm syniad - Snogs, Secs a Sens - Gwenllian Ellis
The Last Party - Clare Mackintosh
Remarkable Creatures - Tracy Chevalier
The Girl With The Louding Voice - Abi Daré

Y Pump:
Tim - Elgan Rhys gyda Tomos Jones
Tami - Mared Roberts gyda Ceri-Anne Gatehouse
Aniq - Marged Elen Wiliam gyda Mahum Umer
Robyn - Iestyn Tyne gyda Leo Drayton
Cat - Megan Angharad Hunter gyda Maisie Awen

The Death Ray: The Secret Life of Harry Grindell Matthews - Jonathan Foster
Boris Johnson, The Rise and Fall of a Troublemaker at Number 10 - Andrew Gimson
Chwedlau cymru a'i Straeon Hud a Lledrith - Claire Fayers (addasiad Siân Lewis)
Hergest - Geraint Evans
Wranglestone - Darren Charlton
Activist - Louisa Reid
Cyfrinach - Betsan Morgan
Tydi Bywyd Yn boen - Gwenno Hywyn
Y Bocs Llyfrau08 Sep 202200:59:35
Y bocs llyfrau ar ddiwedd y dreif, mae Bethan yn trefnu recce i Batagonia ac mae Aled yn datgelu trefn unigryw o ddarllen llyfrau!

Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Curiad Gwag - Rebecca Roberts
Y Defodau - Rebecca Roberts
The Surface Breaks - Louise O'Neill
Utterly Dark - Phillip Reeve
Llawlyfr Y Wladfa - Delyth MacDonald
Y Wladfa Yn Dy Boced - Cathrin Williams
Crwydro Meirionnydd - T I Ellis
Capten - Meinir Pierce Jones
Chocky - John Wyndham
Mori - Ffion Dafis
Pridd - Llŷr Titus
The Last Party - Calire Mackintosh
Shadow Sands - Robert Bryndza
Mr Jones The Man Who Knew Too much - Martin Shipton
Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru - W Gwyn Lewis


Diolch i Siôn Tomos Owen am y llun anhygoel o'r pump ohonnom.
Eisteddfod, Gwobrau a beirniaid09 Aug 202200:43:44
Trafod gwobrau, beirniadaethau a phrofiadau Eisteddfod Tregaron 2022.

Diolch i Siôn Tomos Owen am y llun anhygoel o'r pump ohonnom.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Pridd - Llŷr Titus
Frankenstein - Mary Shelley
Dracula - Bram Stoker
Capten - Meinir Pierce Jones
Modryb Lanaf Lerpwl - Meinir Pierce Jones
Five Minutes of Amazing, My Journey Through Dementia - Chris Graham
Hedyn / Seed - Caryl Lewis
Am I Normal Yet - Holly Bourne
Stryd Y Gwystion - Jason Morgan
Y Pump - Elgan Rhys, Tomos Jones, Mared Roberts, Ceri-Anne Gatehouse, Iestyn Tyne, Leo Drayton, Marged Elen Wiliam, Mahum Umer, Megan Angharad Hunter, Maisie Awen
Manawydan Jones: Y Pair Dadeni - Alun Davies
Asiant A: Her LL - Anni Llŷn
Nico - Leusa Fflur Llewelyn
Yn Fyw o Sesiwn Fawr: Cofio Marion Eames a mwy19 Jul 202200:55:17
Rhifyn arbennig o bodlediad Colli'r Plot yn fyw o Dŷ Siamas yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

The Ocean at the end of the lane - Neil Gaiman
A Voice Coming from then - Jeremy Dixon
Caniadau'r Ffermwyr Gwyllt - Sam Robinson
Don't Ask About My Genitals - Owen J Hurcum
The Stories of my life, James Patterson - James Patterson
Lloerig - Geraint Lewis
The Wonderful Story of Henry Sugar - Roald Dahl
Un noson - Llio Elain Maddocks
Diffodd y golau, -Manon Steffan Ros
Samsara - Sonia Edwards
Manawydan Jones Y Pair Dadeni - Alun Davies
Hedyn - Caryl Lewis
Dathlu - Rhian Cadwaladr
Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales - Darren Chetty, Grug Muse, Hanan Issa, Iestyn Tyne
Bedydd Tân - Dyfed Edwards
Asiant A - Anni Llyn
Y Stafell Ddirgel - Marion Eames
I Hela Cnau - Marion Eames
Y Ferch Dawel - Marion Eames
Y Goeden20 Jun 202400:56:57
Mae criw Colli'r Plot wedi colli'r plot!

Trafod bob dim dan haul yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd, Gŵyl Y Gelli, a llyfrau (ond dim gymaint ag arfer).

Dafydd yn datgelu ei hoffter am gofleidio coed ac yn ddatgelu noddwr newydd Colli'r Plot.

Rhowch gwtsh i goeden.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Trigo - Aled Emyr
Homegoing - Yaa Gyasi
The Wall – Marlen Haushofer (cyfieithiad Shaun Whiteside)
Tir y Dyneddon - E. Tegla Davies
Yellowface - Rebecca F. Kuang
Arwana Swtan a’r Sgodyn Od - Angie Roberts a Dyfan Roberts
Camu - Iola Ynyr
Demon Copperhead - Barbara Kingsolver
How to Read A Tree - Tristan Gooley
Cymryd Meddiant O Ddiwylliant / Cultural Appropriation27 May 202201:01:03
Mae'r 5 ohonom ni yn gyffrous am y llyfrau dan ni wedi darllen ac mae Manon wedi ail-ddarganfod ei mojo darllen.

Sgwrs ddifyr wrth i ni drio cael term Cymraeg am Cultural Appropriation yn y Gymraeg.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

5ed Gainc y Mabinogi - Peredur Glyn
Swansong - Jill Lewis
Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands - Tony Bianchi
Ras Olaf Harri Selwyn - Tony Bianchi
Twll Bach Yn Y Niwl - Llio Maddocks
Four Thousand Weeks - Oliver Burkeman
Ysbrydion - Elwyn Edwards
5, Stryd Y Bont - Irma Chiton
Run Rose Run - Dolly Parton a James Patterson
The Island - Ragnar Jonasson
Prawf Mot - Bethan Gwanas
Cries Unheard: The Story of Mary Bell - Gitta Sereny
Sgwrs Megan Angharad Hunter10 May 202200:31:54
Dafydd Llewelyn sydd yn sgwrsio gyda Megan Angharad Hunter.

Awdur y nofel Tu ôl i'r Awyr, enillydd gwobr Llyfr Y Flwyddyn 2021.
Defaid, Cathod, Cwn a Sgwennu Llyfrau Plant29 Apr 202201:09:50
Ceisio recordio pennod arall o Colli'r Plot wrth i Bethan Gwanas rhedeg ar ôl defaid a chath wyllt Siân Northey ceisio fod yn rhan o'r podlediad.

Trafod llwyth o lyfrau, sgwennu llyfrau plant a llawer mwy.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Prawf MOT - Bethan Gwanas
Ystoriau Heddiw - T.H. Parry Williams
A Brief History Of Time - Stephen Hawking
Dal Y Mellt - Iwan “Iwcs” Roberts
Brodorion - Ifan Morgan Jones
Manifesto - Bernadine Evaristo
Station Eleven - Emily St John Mansel
Perthyn I’r Teulu - John Gruffydd Jones
Cadi Goch A’r Ysgol Swynion - Simon Rodway
Gabriella - John Roberts
Madhouse At The End Of The Earth - Julian Sanction
Ga’ i Fyw Adra - Haf Llywelyn
The Grey King - Susan Cooper
Shuggie Bain - Douglas Stuart
Crazy House - James Patterson
Run Ruby Run - Dolly Parton a James Patterson
Cofiwch Olchi Dwylo a Lloerig - Geraint Lewis
Hostage - Clare Mackintosh
Losing The Plot15 Mar 202200:58:28
Croeso i bennod newydd o Losing The Plot gan lais Radio 4 Dafydd Llewelyn.

Darllen llyfrau mewn unrhyw iaith er pleser, trafod llyfrau dan ni wedi mwynhau, darganfod ein llyfrau ar Good Reads, canmol sgwrs Siân gyda John Roberts a phenblwydd hapus i ni!

Pwy fydd Dafydd yn holi erbyn y podlediad nesaf?

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Tu Ôl I'r Awyr - Megan Angharad Hunter
Aaron Ramsey A Fi - Manon Steffan Ros
Heb Law Mam - Heiddwen Tomos
Y Gwynt Braf - Gwyn Parry
Dod nôl at fy nghoed - Carys Eleri
Ysbrydion - Elwyn Edwards
The Lamplighters - Emma Stonex
Ymbapuroli - Angharad Price
May We Be Forgiven - A.M. Homes
Our house is on fire - Greta Thunberg, Svante Thunberg, Malena Ernman Beata Ernman
Yn Fyw yn y Cof - John Roberts
The Illustrated Mum - Jaqueline Wilson
Sgwrs gyda'r awdur John Roberts03 Mar 202200:37:38
Dyma Siân Northey yn sgwrsio gyda'r awdur John Roberts.

Awdur y nofelau Gabriela ac Yn Fyw Yn Y Cof.
Trefnu ein silfoedd llyfrau01 Feb 202200:57:16
Sut mae mynd ati i gael trefn ar ein silffoedd llyfrau?

Podlediad Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros.

Mae 'na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod

Yn Fyw Yn Y Cof - John Roberts
The Gilded Ones - Namina Forna
The Great Godden - Meg Rosoff
Bedydd Tân - Dyfed Edwards
Spark! How exercise will improve the performance of your brain - Dr John J Ratey ac Eric Hagerman
Mazel Tov - JS Margot
On Writing - Stephen King
100 Cymru (Y Mynyddoedd A Fi) - Dewi Prysor
Sillver Sparrow - Tayari Jones
Helynt - Rebecca Roberts
I Am Thunder - Muhammad Khan
Y Gwynt Braf - Gwyn Parry
Sgwrs Geraint Vaughan Jones22 Dec 202100:31:51
Dyma Manon Steffan Ros yn sgwrsio gyda un o'i hoff awduron Geraint Vaughan Jones am y nofel Niwl Ddoe.

Mae'r criw yn trafod y nofel yn y bennod Nadolig, Niwl Ddoe a Gadael Lenin.
Nadolig, Niwl Ddoe a Gadael Lenin15 Dec 202101:07:18
Croeso i barti Nadolig Colli’r Plot!

Trafod pa lyfrau ydyn ni eisiau gan Siôn Corn, Niwl Ddoe gan Geraint Vaughan Jones a Dafydd yn ceisio bod fel Lenin.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod

Nadolig, Pwy a Wyr? - Amrywiol
Paid â Bod Ofn - Non Parry
Hela - Aled Hughes
Mori - Ffion Dafis
Dod 'Nôl at fy Nghoed - Carys Eleri
Yn Fyw yn y Cof - John Roberts
100 Cymru - Y Mynyddoedd a Fi - Dewi Prysor
Being Mortal - Atul Gawande
Hello Friend We Missed You - Richard Owain Rowlands
The Other passenger - Louise Candleish
The Day That Never Comes - Caimh McDonnell
Bedydd Tân - Dyfed Edwards
Brodorion - Ifan Morgan Jones
Ar Daith Olaf - Alun Davies
Niwl Ddoe - Geraint Vaughan Jones
Eat. Sleep. Rage. Repeat. - Rebecca Roberts
I Am Thunder - Muhammad Khan
Lying ways - Rachel Lynch
The Song that Sings Us - Nicola Davies
A Leviathan - Philip Hoare
Sgwrs Rocet Arwel Jones01 Dec 202100:30:40
Roedd Aled yn awyddus i ddysgu mwy am waith Cyngor Llyfrau Cymru.

Wrth i'r cyngor dathlu penblwydd yn 60 cafodd sgwrs gyda Arwel Jones (Rocet), Pennaeth Datblygu Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru .
Pum Diwrnod a Phriodas a Phenblwydd19 Nov 202101:01:40
Croeso i 10fed rhifyn o bodlediad Colli’r Plot.

Mae’r bennod yma yn dathlu pen-blwydd y Cyngor Llyfrau yn 60.

Byddwn yn trafod Pum Diwrnod a Phriodas gan Marlyn Samuel ac yn cael hanes joli llenyddol cyntaf Manon i Barcelona.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod

Less is More - Jason Hickel
The Ladies of Llangollen – Elizabeth Mavor
Bachgen Bach o Fryncoch - Ieuan Parry
Piranesi - Susanna Clarke.
Ar Daith Olaf - Alun Davies.
O Hedyn i Ddalen - Dathlu'r Cyngor Llyfrau yn 60.
Y Stori Orau, Lleucu Roberts.
Happiness and Tears, The Ken Dodd Story - Louis Barfe
C’mon Midffild, Stori Tîm o Walis - Ioan Roberts
The Order of Time - Carlo Rovelli
Out in the Open - Jesùs Carrasco
Merch Y Gwyllt - Bethan Gwanas
None So Blind - Alis Hawkins
Pum Diwrnod a Phriodas - Marlyn Samuel
Blydi Selebs / Diolch Selebs03 Jun 202400:23:45
Rhifyn arbennig o bodlediad Colli'r Plot wrth i'r 5 ohonom ymateb i erthygl yn yr Elysian yn sôn am wariant y 5 cwmni cyhoeddi mawr Saesneg.

Y consensws, Ni’n lwcus ein bod ni’n Gymry Gymraeg yn sgwennu yn Gymraeg.

Darllenwch yr erthygl yma
https://www.elysian.press/p/no-one-buys-books 
Sgwrs Lleucu Fflur Jones28 Oct 202100:18:34
Aeth Bethan Gwanas draw i Benllyn i recordio sgwrs gyda Lleucu Fflur Jones, awdur y nofel RYC. Roedden ni gyd wedi gwirioni gyda'r nofel.
O gloriau seicadelig i sŵn buwch22 Oct 202100:55:12
Cloriau seicadelig, sŵn buwch, a chyflwyniad bythgofiadwy dros Zoom.

Podlediad arall llond llyfrau a sgyrsiau am sgwennu. Mae 'na lot o chwerthin ac ambell ddarn dwys.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod

Glas a Gwyrdd - Eiry Miles
Plant Annwfn - DG Merfyn Jones
Pantywennol - Ruth Richards
I Am Thunder - Muhammad Khan
Ryc - Lleucu FFlur Jones
Y Dydd Olaf - Owain Owain
Eat, Sleep, Rage, Repeat - Rebecca Roberts
Niwl Ddoe - Geraint V. Jones
Gwrach Y Gwyllt - Bethan Gwanas
The Salt Path - Raynor Winn
The Day of the Triffids - John Wyndham
Salt - Catrin Kean
Mori - Ffion Dafis
Be ‘dan ni’n ddarllen?17 Sep 202100:47:01
Dan ni nôl ar ôl cael saib dros yr haf ac mae ‘na ddigonedd i'w drafod.

Llond pod o lyfrau, gwobrau, straeon spwci, a chnoc o’r bedd ar ddrws Bethan.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod

Storiau'r Dychymyg Du - Geraint Vaughan Jones
Straeon i Godi Gwallt - Irma Chilton
Tu ôl i'r awyr - Megan Hunter
Robyn - Iestyn Tyne a Leo Drayton
Cat - Megan Hunter a Maisie Awen
Farenheit 451 - Ray Bradbury
Gavi - Sonia Edwards
Hannah-Jane  - Lleucu Roberts
Y Stori Orau - Lleucu Roberts
Belonging - Michelle Obama
Mefus Yn Y Glaw - Mari Emlyn
Eat. Sleep. Rage. Repeat - Rebecca Roberts
Ryc - Lleucu Fflur Jones
Y Daith Ydi Adra - John Sam Jones
Lark - Anthony Mc Gowan,
The Shark Caller - Zillah Bethel
A Whisper of horses - Zillah Bethel
Where The Crawdads Sing - Delia Owens
Hen Bethau Anghofiedig - Mihangel Morgan
Hwdi ac Anji - Gareth F Williams
Helynt - Rebecca Roberts
Gwrach y Gwyllt - Bethan Gwanas
Merch y Gwyllt - Bethan Gwanas
Yn Y Ty Hwn - Siân Northey
Llechi - Manon Steffan Ros
Johnny, Alpen a Fi - Dafydd Llewelyn
Pennod y Sesiwn Fawr17 Jul 202100:43:57
Bydd  y criw yn trafod pa mor bwysig yw lleoliad mewn nofel neu stori, gyda  phwyslais arbennig ar Feirionnydd gan mai yn fanno mae'r Sesiwn, a'r  Sesiwn sydd wedi ein gwadd ni i falu awyr y tro yma.
Bydd rhai o selogion y Sesiwn wedi gyrru cwestiynau ymlaen llaw.
Rhai call, gobeithio...
Pwysigrwydd siopau llyfrau28 May 202101:01:16
Yn y rhifyn  yma yr ydym yn trafod pwysigrwydd siopau llyfrau i ni fel awduron a sut mae mynd ati i hyrwyddo ein nofelau.
Sut mae'r Steddfod wedi dylanwadu ar ein sgwennu, ac  yr ydym yn ateb cwestiwn gan Casia Williiam am ein hoff awduron Saesneg.
Jolis llenyddol ac adolygu llyfrau29 Apr 202100:49:19
Y tro yma, mi fyddwn ni’n trafod: jolis llenyddol,  adolygu llyfrau pobl dach chi’n eu nabod, neu o leia’n nabod eu  neiniau; pam ei bod hi gymaint haws prynu llyfrau Saesneg ac ydi Kath Jones Pobol y Cwm yn rhy ryff i brynu cyfrol y Fedal Ryddiaith?
Mi  fyddwn ni hefyd yn trio ateb rhai o’r cwestiynau dach chi wedi eu gyrru  atan ni. Daliwch ati i’w gyrru nhw beth bynnag. Dan ni’n siŵr o’u hateb  nhw rhyw ben.
Mi naethon ni ddechre efo’r ateb roedd Bethan i ar dân i’w glywed, sef: ydyn  nhw’n galw tumbleweed yn cabej bach ym Mhatagonia neu beidio?
Dylanwadau a chwestiynau call16 Apr 202100:50:39
Croeso i bennod 4 Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros.
Yn y bennod yma yr ydym yn trafod y nofelau sydd wedi dylanwadu arnom ni, syrthio mewn cariad efo ein hoff awduron, ac yn clywed be' di’r term mae pobol Patagonia yn defnyddio ar gyfer 'tumbleweed'.
Mae Bethan ac Aled yn cymharu cyfarfod Stephen King ac yr ydym yn ateb rhai o'ch cwestiynau chi.
Golygyddion02 Apr 202100:50:41
Dyma drydedd bennod Colli’r Plot gyda Siân Northey, Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn a Manon Steffan Ros.
Yn y bennod yma, er mawr syndod i bawb, mae Bethan Gwanas yn dyfynnu o'r Beibl. 
Mae Manon yn parhau i synnu efo sawl gair mae hi'n gallu ei sgwennu mewn diwrnod, ac mae Dafydd yn dal ati i fod yr hyn nath Gwyn Siôn Ifan ei ddisgrifio fel ‘yr hen Dafydd Llewelyn ar ei ore'.
Mae’r pedwar yn ateb cwestiynau gan Seren Dolma, Anni Llŷn, a Rebecca Roberts.
Teipio rhyddiaith, sgwennu barddoniaeth23 Mar 202100:44:25
Croeso i ail bennod Colli'r Plot – sef podlediad gyda'r sgwennwyr  – Manon Steffan Ros, Siân Northey, Bethan Gwanas a Dafydd Llewelyn.  
Yn y bennod hon 'da ni'n trafod strwythur a sut ma' rywun yn mynd ati i 'sgwennu eu stwff.  
Buom ni'n trafod plot a chymeriadau, a pha 'run sydd bwysicaf, ynghyd a sut 'da ni'n mynd ati i greu'n cymeriadau, gyda Manon yn cynnig sgŵp rhyfeddol i ni ac yn cyfaddef bod gwerthu pobl yn parhau i ddigwydd ym marchnad Machynlleth hyd heddiw.  
Fuodd Siân yn trio egluro'r gwahaniaeth sylfaenol rhwng rhyddiaith a barddoniaeth tra bod Gwanas dal i ddyfynnu pobl glyfar gan gyffesu ei bod efo soft-spot am Hemingway.  
Pam dan ni’n sgwennu12 Mar 202100:51:44
Croeso i bodlediad Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Siân Northey, Dafydd Llewelyn a Manon Steffan Ros.
Dan ni’n mynd i fwydro am sgwennu a llyfrau a bob dim dan haul, a dan ni’n mynd i drio cael testun i bob podlediad, ond nabod ni, mi fyddan ni’n mynd ar gyfeiliorn ac yn mynd i gyfeiriadau cwbl annisgwyl ac yn deud pethau doedden ni’m wedi bwriadu eu deud o gwbl.
Y testun cynta' - pam dan ni’n sgwennu yn y lle cynta’ a be sy’n ein hysbrydoli ni.
Diolch i Bandicoot am gael defnyddio'r gân wych O Nefoedd! ar gyfer cerddoriaeth y podlediad a diolch i’r Cyngor Llyfrau am wneud y podcast yma’n bosib a helpu ni i Golli’r Plot.
Y Sioe Ffasiwn09 May 202400:59:25
Dyma bodlediad newydd sy'n drafod ffasiwn gan griw Colli'r Plot.

Trafod Gŵyl lenyddol Llandeilo, Gŵyl Crime Cymru, ffasiwn a chlustdlysau Gladiatrix, a llwyth o lyfrau.

Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Y Brenin, y Bachgen a'r Afon - Mili Williams
Eigra - Eigra Lewis Roberts
We need new names - NoViolet Bulawayo
Fools and Horses - Bernard Cornwell
Pen-blwydd Hapus? - Ffion Emlyn
Blas y môr - John Penri Davies
Y Castell ar y Dŵr - Rebecca Thomas
The One Hundred Years of Lenni and Margo - Marianne Cronin
Parti Priodas - Gruffudd Owen
Ro’n i’n arfer bod yn rhywun - Marged Esli
Not That I’m Bitter - Helen Lederer
Coblyn o Sioe - Myfanwy Alexander
Cerdded y palmant golau - Harri Parri
Drew, Moo and Bunny, Too - Owain Sheers
Ten Steps to Nanette - Hannah Gadsby
The Rabbit Back Literature Society - Pasi Ilmari Jääskeläinen
Fall Out - Lesley Parr
Colli'r Plot yn dod yn fuan02 Mar 202100:02:06
Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. 
Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi.
Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Diolch i'r Cyngor Llyfrau am wneud y podcast yma’n bosib a'n helpu ni i Colli'r Plot.

Ac yn olaf diolch i Bandicoot am ddefnyddio'r trac O Nefoedd! ar gyfer y podlediad, mwynhewch!
What The Blazes!10 Apr 202401:10:15
Hanes Manon yn cael ei hysbrydoli yn Gibraltar. Bethan yn gosod her i gyfieithwyr wrth ddefnyddio "rhegfeydd" Cymraeg. Siân yn cyhoeddi llyfr Saesneg, This House. Aled yn cwrdd â phrif weinidog Fflandrys a Dafydd yn sôn am hanes ei chwaer.

Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Gwibdaith Elliw - Ian Richards.          
Anfadwaith - Llŷr Titus 
The One Hundred years of Lenni and Margot - Marianne Cronin
An elderly lady is up to no good - Helene Tursten. 
Birdsong - Sebastian Faulks   
Captain Corelli’s Mandolin - Louis de Bernières.     
Awst yn Anogia - Gareth F Williams            
Lessons in Chemistry - Bonnie Garmus
Shuggie Bain - Douglas Stuart.       
Ci Rhyfel/Soldier Dog - Samuel Angus
Deg o Storïau - Amy Parry-Williams
Gorwelion/Shared Horizons - gol. Robert Minhinnick
Flowers for Mrs Harris - Paul Gallico
Cookie - Jacqueline Wilson
Alchemy - S.J. Parris
John Preis - Geraint Jones
RAPA - Alwyn Harding Jones
The Only Suspect - Louise Candlish
Helfa - Llwyd Owen
Trothwy - Iwan Rhys
The Beaches of Wales - Alistair Hare
Gladiatrix - Bethan Gwanas
Devil's Breath - Jill Johnson
Outback - Patricia Wolf
Letters of Note - Shaun Usher
Pwysigrwydd Golygyddion Creadigol26 Mar 202400:55:27
Bethan Gwanas sy'n darganfod mwy am swydd yr olygydd creadigol, ffrind gorau unrhyw awdur, am gyfnod o leiaf.

Heb olygyddion creadigol buasai llyfrau awduron ddim hanner cystal.

Un o'r goreuon yw Nia Roberts sy'n gweithio i Gwasg Carreg Gwalch. 

Dyma rifyn arbennig o Colli'r Plot.

Mwynhewch y sgwrs.
Y Rhifyn Di-drefn28 Feb 202400:57:51
Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey, Aled Jones a Manon Steffan Ros.

Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi.

Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Safana - Jerry Hunter
Mymryn Rhyddid - Gruffudd Owen
Drift - Caryl Lewis
The Soul of a Woman - Isabel Allende
Gut - Giulia Enders
O Ddawns i Ddawns - Gareth F. Williams
Dying of politeness - Geena Davies
The Bee Sting - Paul Murray
Yellowface - R. F. Kuang
Y Castell ar y Dŵr - Rebecca Thomas
Y LLyfr - Gareth yr Orangutang
Pony - R.J. Palacio
Llygad Dieithryn - Simon Chandler
Gwibdaith Elliw - Ian Richards
Charles and the Welsh Revolt - Arwel Vittle
Killing Floor - Lee Child
Die Trying - Lee Child
Riding With The Rocketmen - James Witts
© My Podcast Data