Explorez tous les épisodes du podcast Cipolwg
| Titre | Date | Durée | |
|---|---|---|---|
| Blaze of Glory - Ifan Hughes | 13 Apr 2023 | 00:25:47 | |
Ifan Hughes, Rheolwr Llwyfan Côr Meibion Maelgwn yn ymuno â Lorna i drafod ei brofiadau o weithio ar Blaze of Glory!
| |||
| Blaze of Glory - Siân Bratch | 06 Apr 2023 | 00:27:15 | |
Lorna’n sgwrsio â Siân Bratch am ei rôl fel Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Maelgwn. | |||
| Taith yr Artist: Gyrfa broffesiynol | 25 Mar 2021 | 00:39:53 | |
Bydd Elin Jones yn ystyried y cam nesaf yn siwrnai artistiaid, gan ystyried beth sydd o’u blaen ar ôl iddynt raddio. Bydd Lorna Prichard yn siarad â’r soprano Alys Roberts a’r tenor Elgan Llŷr Thomas, a gellir clywed y ddau yn trafod cyfleoedd perfformio i raddedigion a sut beth yw bywyd wrth gychwyn gweithio fel perfformiwr proffesiynol llawn amser. | |||
| Taith yr Artist: Hyfforddiant | 18 Mar 2021 | 00:45:12 | |
Bydd Elin Jones yn ystyried y broses o hyfforddi artistiaid ifanc ar lefel ysgol gerddoriaeth. Bydd Lorna Prichard yn cyfarfod â Tim Rhys-Evans, a gellir ei glywed yn sôn am ei rôl fel addysgwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’i brofiadau blaenorol yn rhedeg grwpiau ieuenctid fel Only Boys Aloud. Hefyd, bydd Lorna yn cael sgwrs â’r tenor Huw Ynyr a’r myfyriwr ysgol gerddoriaeth Canna Roberts. Music credits: Our thanks to go to Kalmus Publishing, Harid Conservatory Philharmonia and Arthur Weisberg for the use of ‘Intermezzo’ from Cavelleria Rusticana. Used under the creative commons licence 4-0. This recording of ‘Quel trouble, quel trouble’ from Verdi’s La Traviata was published under EMI Classics, and is available in the public domain. Mado Robin and Paul Finel sing in the leading roles. This performance of the overture from Mozart’s The Magic Flute is produced by Telefunken (1952), and is available in the Public Domain. Joseph Keilberth conducts the Bamberger Symphoniker. | |||
| Taith yr Artist: Camau cyntaf | 11 Mar 2021 | 00:39:17 | |
Bydd Elin Jones, Dramaturg WNO, yn trafod y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc ymhél â pherfformio yn gynnar yn eu hoes. Bydd Lorna Prichard yn siarad â Jenny Pearson a Morgana Warren-Jones (Opera Ieuenctid WNO Gogledd Cymru) i gael trafodaeth ehangach ynglŷn â rôl grwpiau ieuenctid wrth ddatblygu cantorion ifanc. Hefyd, bydd Lorna yn siarad â pherson ifanc i gael gwybod pam mae perfformio’n bwysig iddo. Mado Robin performs ‘Ah! je veux vivre dans le rêve’ from Gounod’s Romeo et Juliette. She is accompanied by Orchestre National de l’Opera de Paris, directed by Pierre Dervaux. The piece was originally published by EMI, and is now available in the public domain. The recording of Bizet’s Carmen is conducted by Thomas Beecham, with Janine Micheau, Nicolai Gedda and Ernest Blanc. Recorded in 1960, used with thanks to Parlaphone records | |||
| Madam Butterfly | 02 Sep 2020 | 00:37:39 | |
Mae Lorna yn cwrdd â'r cyfarwyddwr Angharad Lee i drafod ei gwaith ar gynhyrchiad diweddar o Madam Butterfly. Mae'r clasur parhaus gan Puccini hefyd yn ganolbwynt diodydd egwyl a chwestiynau'r wythnos hon gyda Dramaturg WNO Elin Jones. | |||
| A Vixen's Tale | 19 Aug 2020 | 00:36:18 | |
Mae Lorna yn cwrdd â'r soprano Meriel Andrew i drafod uchafbwyntiau ei gyrfa a darganfod sut brofiad oedd rhannu'r llwyfan gyda'i merch Martha mewn perfformiad diweddar o The Cunning Little Vixen. The Cunning Little Vixen ‘Bezi liska taboru’ - WNO Children’s Chorus and Orchestra The Cunning Little Vixen ‘Vixen’s aria’ - Aoife Miskelly and WNO Orchestra Excerpts from Macbeth - WNO Orchestra and Chorus Rhondda Rips it Up! - Elena Langer and Emma Jenkins, the WNO Chorus and Orchestra The Magic Flute ‘Queen of the Night aria’- WNO Chorus and Orchestra | |||
| Gwleidyddiaeth mewn Opera | 12 Aug 2020 | 00:40:00 | |
Lorna sy'n trafod rôl gwleidyddiaeth mewn opera a cherddoriaeth glasurol. Pwnc diodydd egwyl a chwestiynau yr wythnos hon yw campwaith Verdi, Rigoletto. | |||
| Beth am Strauss? | 29 Jul 2020 | 00:41:40 | |
Lorna yn cwrdd â'r Soprano Fflur Wyn ac yn archwilio ei chysylltiadau â gwaith Richard Strauss. Yn ddiweddarach, âi Lorna a'i Mam am ddiod mewn egwyl rithwir yn ystod perfformiad wedi'i recordio o Der Rosenkavalier. Ac mae Elin yn ôl gyda chwestiynau yn archwilio repertoire amrywiol Strauss. | |||
| Rhifyn arbennig Cav & Pag (Rhan 2) | 22 Jul 2020 | 00:41:39 | |
Yn ystod ail ran rhifyn arbennig Cav&Pag bydd Lorna yn gorffen ei sgwrs gyda Gwyn Hughes Jones ac yn trafod Pagliacci dros ddiod. | |||
| Rhifyn arbennig Cav & Pag (Rhan 1) | 15 Jul 2020 | 00:37:23 | |
Mae Lorna yn sgwrsio gyda'r tenor clodwiw Gwyn Hughes Jones am ei yrfa llewyrchus. Yn ymuno gyda ni am ddiod egwyl rhithiol mae gwestai arbennig iawn, Mam Lorna! Maent yn gwylio a thrafod perfformiad o Cavalleria Rusticana, sef ffocws cwestiynau'r wythnos yma gan ein Dramaturg, Elin Jones. | |||
| Mae cerddoriaeth gyda chi drwy'r amser | 01 Jul 2020 | 00:35:58 | |
Mae Lorna yn cwrdd â Sian Meinir o Gorws WNO ac yn trafod ei chysylltiad â rhai o brosiectau ieuenctid a chymuned cyffrous Opera Cenedlaethol Cymru. Daw diodydd egwyl yr wythnos hon â thro yn y gynffon, wrth i Lorna ryngweithio ag aelodau'r gynulleidfa yn dilyn cyngerdd cymunedol Opera Cenedlaethol Cymru yn y Galeri, Caernarfon. Ac yntau ar fin troi'n 250, Beethoven yw testun cwestiynau opera'r wythnos hon. | |||
| Blaze of Glory - Dafydd Allen | 28 Mar 2023 | 00:29:47 | |
Lorna’n cael sgwrs gydag Artist Cyswllt WNO, Dafydd Allen. | |||
| Mozart yn y Jyngl | 24 Jun 2020 | 00:37:00 | |
Mae Lorna yn cwrdd â'r bariton John Ieuan Jones ac yn ailddarganfod ei hangerdd tuag at Mozart. Rydym wedyn yn ymuno â hi ar gyfer diodydd egwyl yn ystod The Marriage of Figaro. Beth sy'n sicrhau bod y ffefryn Mozart hwn yn sefyll ei dir? Ac yn ddiweddarach, dewch i wybod popeth sydd angen ei wybod am y cyfansoddwr plant athrylithgar gydag Elin. A ysgrifennodd Mozart yr agorawd i Don Giovanni ar ddiwrnod y perfformiad mewn gwirionedd? | |||
| Y Fenyw Arall | 17 Jun 2020 | 00:33:28 | |
Yn awyddus i wybod mwy am rôl merched ym myd opera, caiff Lorna sgwrs â'r Soprano Elin Pritchard. Gyda'i gilydd maen nhw'n trafod y cymeriadau benywaidd mwyaf dylanwadol ym myd opera. A pha le gwell ar gyfer diodydd egwyl yr wythnos hon na chynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Carmen, sy'n cynnwys ymddangosiad cyntaf Elin fel Micaëla. Yn nes ymlaen, bydd dramodydd Opera Cenedlaethol Cymru, Elin Jones, yn cael aduniad â Lorna ar gyfer ychydig o gwestiynau ynghylch Carmen. | |||
| Campwaith yr Eidal | 09 Jun 2020 | 00:34:23 | |
Yr wythnos hon, caiff yr arweinydd byd enwog Carlo Rizzi sgwrs â Lorna ynghylch poblogrwydd parhaus Giuseppe Verdi. Dadansoddi opera Verdi sydd wedi'i hailddarganfod mae LornaLes vêpres siciliennes yn ystod diodydd egwyl yr wythnos hon. A down i wybod beth sy'n gwneud Verdi yn un o gampweithiau gorau'r byd opera drwy gwestiynau am opera gan Elin Jones, dramodydd ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru. | |||
| WNO Ar Daith: Pennod Tri | 05 Apr 2022 | 00:34:02 | |
Mae Lorna’n cael sgwrs â Elin Pritchard i drafod hi brofiadau o deithio ledled y DU ac yn rhyngwladol. | |||
| WNO Ar Daith: Pennod Dau | 28 Mar 2022 | 00:27:01 | |
Caiff Lorna gwmni’r cerddor, ac aelod newydd Cerddorfa WNO, Llinos Owen, wrth iddi ddechrau ar ei thaith gyntaf un gyda’r cwmni. | |||
| WNO Ar Daith: Pennod Un | 22 Mar 2022 | 00:25:54 | |
Mae Lorna’n cwrdd â Meriel Andrew, un o aelodau Corws WNO, i drafod ei phrofiadau gyda’r cwmni a’r effaith gall teithio ei gael ar fywyd personol a phroffesiynol canwr. | |||
| Opera yn y Byd Modern gyda Sian Meinir | 15 Jul 2021 | 00:33:54 | |
Bydd Elin Jones yn cael cwmni Sian Meinir a fydd yn siarad â Fflur Wyn a Menna Elfyn am gomisiynau opera newydd, a pha mor angenrheidiol yw adlewyrchu amseroedd cyfoes ynddynt. | |||
| Ail ran - Opera yn y Byd Modern gyda Iwan Teifion Davies | 07 Jul 2021 | 00:29:33 | |
Yn ail ran archwiliad Iwan Teifion Davies o allu operâu newydd i adlewyrchu digwyddiadau cyfoes, mae'r cyfansoddwyr Claire Victoria Roberts a Manon Llwyd yn ymuno ag ef. | |||
| Opera yn y Byd Modern gyda Iwan Teifion Davies | 01 Jul 2021 | 00:29:28 | |
Elin Jones and Iwan Teifion Davies continue to explore new opera’s capacity to reflect contemporary events, with a specific focus on operas performed in the Welsh language. Iwan is joined by Guto Puw and Gareth Glyn. | |||
| Opera yn y Byd Modern gyda Robyn Lyn Evans | 24 Jun 2021 | 00:31:50 | |
Robyn Lyn Evans sydd yn ymuno ag Elin Jones i archwilio opera yn y byd modern. Bydd Robyn yn trafod manteision addasu operâu traddodiadol i ddehongli bywyd cyfoes ar y llwyfan gyda Sion Goronwy a Paul Carey-Jones, yn ogystal â Bridget Wallbank, Rheolwr Cynhyrchu Opera Canolbarth Cymru. | |||